大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Andrew Green Holi Andrew Green
Y Llyfrgellydd Cenedlaethol yn un o bobl Beti George . . .
Bu Andrew Green, y Llyfrgellydd Cenedlaethol yn cael ei holi gan Beti George ar Beti a'i Phobl ddydd Iau, Mehefin 21, 2007 (ail ddarlledwyd fore Sul, Mehefin 24).

Ymhlith pethau eraill bu'n s么n am ei waith yn llyfrgellydd cenedlaethol, ei lwyddiant yn dysgu Cymraeg, ei agwedd at yr iaith, ei safbwynt crefyddol ac am ladrad rhyfeddol o'r Llyfrgell.

Cyhoeddwn isod grynodeb o'r sgwrs a chlipiau sain ohoni.

Y Llyfrgell yn llyfrgell i bawb
"Yr hen ddelwedd oedd fod y Llyfrgell yn rhyw Parthenon ar y bryn yn Aberystwyth ond erbyn hyn mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli bod y Llyfrgell Genedlaethol yn perthyn iddyn nhw bobl Cymru ac mewn ffordd rydym ni'n llyfrgell gyhoeddus sydd ar agor i bawb ac mae hawl gan bawb i ddod i mewn a defnyddio'r lle a darllen am ddim," meddai.



"[Daeth] rhyw 90,000 y llynedd ac mae'r nifer yn mynd i fyny ac i fyny drwy'r amser. Dydy nhw ddim yn dod i ymchwilio ac i ddarllen bob un, maen nhw'n dod jyst i weld pethau - ac mae digon o bethau i'w gweld nawr.

Gyda llywydd y llyfrgell, y Dr Brinley Jones, ddiwrnod dathlu canmlwyddiant y Llyfrgell. "Mae gennym ni ganolfan i ymwelwyr a digon i gadw pobl yn hapus - siop a th欧 bwyta ac yn y blaen - drwy'r dydd. Felly, i unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn hanes a diwylliant Cymru mae yna rywbeth iddyn nhw yn y Llyfrgell Genedlaethol."

Talodd deyrnged i weledigaeth y sylfaenwyr ac yn arbennig i'r llyfrgellydd cyntaf:

"Yr oedd gan y llyfrgellydd cyntaf, John Ballinger, weledigaeth glir iawn fod y llyfrgell ar agor i bawb ac nid yn gaer ar y bryn i ysgolheigion yn unig ond yn rhywbeth oedd yn bod i addysgu pawb," meddai.

Dywedodd bod gwirionedd yn y disgrifiad ohoni fel "un o lyfrgelloedd mawr y byd" ymadrodd a oedd yn cael ei ddefnyddio yn y Tridegau hefyd.

"Yn yr ystyr ein bod ni yn gallu sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda llyfrgelloedd cenedlaethol eraill yn y byd - yr ydym ni mor fawr ac mor amrywiol o ran casgliadau achos yr ydym yn llyfrgell ac yn archif genedlaethol . . . ac yn fwy eang o ran casgliadau na'r rhan fwyaf o lyfrgelloedd yn y byd," meddai.

  • Digidio casgliadau'r llyfrgell

  • Yr her fawr gyfoes i'r Llyfrgell Genedlaethol yw troi archifau yn rhai electronig fel eu bod ar gael drwy'r byd ar ei gwefan.



    "Un o'r cynlluniau mawr sydd gennym ar hyn o bryd yw digido tua chant o'r cylchgronau mwyaf yng Nghymru a gyhoeddwyd ers dechrau y ganrif ddiwethaf - eu digido i gyd fel y byddont ar gael yn chwiliadwy am ddim ar y we.

    "Felly bydd modd chwilio am air neu ymadrodd o'r cylchgronau i gyd a'i gael yn 么l mewn eiliadau.

    "Mae yna brinder o ddeunydd gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg ar y we . Mae llawer iawn o bobl yn siarad yn Gymraeg ar y we ar hyn o bryd ond mae yna brinder deunydd felly mae cylchgronau fel hyn yn anelu at wneud yn si诺r bod mwy a mwy o stwff ar gael yn y Gymraeg fel eu bod yn gallu cael eu defnyddio mewn ysgolion ac yn y blaen," meddai.

    Ond gwadodd y bydd hyn yn golygu na fydd pobl eisiau ymweld a'r Llyfrgell yn bersonol:


    Bydd pobl yn dal i fod eisiau dod i'r Llyfrgell oherwydd y byddan nhw eisiau gweld y pethau gwreiddiol, meddai, megis Llythyr Pennal , Owain Glynd诺r, a fenthycwyd o Ffrainc.

    "Daeth miloedd ar filoedd o bobl i weld y llythyr enwog hwn," meddai.

  • Y peth mwyaf gwerthfawr

  • Dywedodd mai'r peth mwyaf gwerthfawr yn y llyfrgell yw llawysgrif o Chaucer - Hengwrt Chaucer sy'n un o ddim ond dau yn y byd gyda'r llall yn California.



    Ychwanegodd fod y Llyfrgell yn gwerthfawrogi derbyn rhoddion.
    "Mae polisi casglu cadarn gennym ni felly rydym ni'n trio peidio casglu pethau nad ydym ni eisiau'u cadw ond wedi derbyn dydy ni ddim eisiau taflu pethau i ffwrdd," meddai.

  • Ei fagwraeth a bod yn ddigrefydd

  • Wrth s么n am ei fagwraeth yn Swydd Efrog, mewn cymdeithas glos lofaol, aeth ymlaen i ddweud nad yw "yn credu o gwbl mewn Duw."



    "Dydw i ddim wedi teimlo unrhyw awch o gwbl sydd yn grefyddol - ar y llaw arall rydw i'n gweld fod crefydd yn gallu cael ei gamddefnyddio ac mae rhywun yn gallu gweld effeithiau drwg ar hyd y byd i gyd.

    Ychwanegodd nad oes arno'r angen i gredu mewn p诺er sydd wedi creu y bydysawd.

    "Mae natur yn ddigon - mae natur ei hun yn ddigon cymhleth . mae yna ddigon o ryfeddodau ym myd natur ac mae hynny yn fy modloni i heb angen duw," meddai. Wrth ymateb i'r sylw gan Beti George am angen i fynd y tu 么l i hynny a holi pwy sydd wedi creu natur dywedodd:

    "Mae yna ddigon o gwestiynau rwy'n si诺r yn y gwyddorau ffisegol ond does dim angen galw am Dduw i esbonio popeth." Bu'n s么n hefyd am ei gyfnod yn Wakefield - ardal lle cynhyrchir dros hanner y riwbob ym Mhrydain!

  • Cychwyn gyrfa

  • Dywedodd mai ei fwriad cyntaf oedd mynd yn archeolegydd ac mai ar 'dig' yng Nghaerwysg y cyferfu gyntaf 芒 merch o Gaerfyrddin a ddaeth yn wraig iddo:



    "Ar y pryd roeddwn i'n gyfrifol am rhyw dwll yn y daear oedd yn ffynnon. Roeddwn yn gweithio yn y twll ar fy mhen fy hun a'r twll yn mynd yn fwy ac yn fwy ac roeddwn i wedi diflannu o olwg pawb ac fe benderfynodd rhywun fod angen help ar y dyn truenus yma - a merch hyfryd ddaeth.

    "Yr oedd yn rhamantaidd iawn ac yn ei h么l hi, fy ngeiriau cyntaf oedd Don't break that glass.

    "Roedd y ffynnon yma yn llawn gwydr, pren a cherfluniau hefyd roedd yn gyfoethog iawn," meddai.

    Rhannol ei dilyn hi a wnaeth o wedyn i Goleg y Llyfrgellwyr yn Llanbadarn Fawr; Aberystwyth.

    "Ar y pryd roedd y coleg yn fyd-enwog o ran safon ei addysg ymhlith llyfrgellwyr," meddai.

  • Dechrau gweithio - a dysgu Cymraeg

  • "Yng nghanol yr Wythdegau y dechreuais i [ddysgu Cymraeg] oherwydd erbyn hynny roedd gennym ni ferch a'n hawydd ni oedd ei bod hi'n mynd i ysgol feithrin ac ysgol gynradd Gymraeg ac yn y blaen ac roeddwn i'n meddwl ar y pryd y dylwn i ddysgu rhywfaint ar yr iaith er mwyn dal i fyny efo hi," meddai.



    "Fe es i i'r ganolfan dysgu oedolion yng Nghaerdydd a Chris Rees oed y tiwtor ar y pryd ac yr oedd o'n athrylith.

    "Fe es i'r cwrs Wlpan am awr a hanner bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener am flwyddyn - roedd yn anodd ond yn ddechreuad arbennig ac rydw i wedi bod yn dysgu'r iaith ers hynny - ac roedd gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn well na dim o ran dysgu iaith," meddai.

    Dywedodd mai'r gwaith pontio fu anoddaf wrth ddysgu:

    "Hynny yw, yr oedd yn gymharol hawdd dysgu rhywfaint o'r iaith - ond yr oedd bod yn rhugl mewn unrhyw ffordd o gwbl a bod yn ddigon hyderus i siarad yn rhywbeth arall a dyna oedd y gwir anhawster.

    "Ac fe gymerodd y cam yna flynyddoedd ond unwaith rydych wedi croesi'r bont wedyn does dim problem," meddai.

    O Gaerdydd aeth i Sheffield ac wedyn yn 么l i Gymru yn brif lyfrgellydd yn Abertawe lle mae'n dal i fyw.

    "Mae'n lle delfrydol i fagu plant ac mae'n lle delfrydol i fyw hefyd.

    "Mae gan bobl Abertawe ryw olwg arbennig ar fywyd," meddai. "Mae pobl Caerdydd fel pobl Llundain yn byw i weithio ac yn rhuthro o gwmpas ond mae pobl Abertawev yn fwy hamddenol."

  • Dewis iaith
    Bu'n s么n rhagor am yr iaith - mewn perthynas 芒'i deulu gan ddweud mai Saesneg mae'n siarad fwyaf 芒'i ddwy ferch:


    "I mi mae'n ddewis personol i mi, dydw i ddim yn un o selotiaid yr iaith fel y cyfryw. Yr ydw i yn hyrwyddo'r iaith ond fy newis i yw hynny ac mae'n ddewis i bob un unigolyn," meddai.

    "Dwi'n poeni am yr iaith yn bendant ond rwyf hefyd yn gweld cymaint o enghreifftiau o bobl, yn enwedig oedolion, sy'n dewis siarad yr iaith a phobl ifanc a phobl sydd yn mynd i mewn i'r Cynlluiad ac sy'n si诺r o hyrwyddo'r iaith ac rwy'n gweld yr holl egni ac ymrwymiad yna sy'n gwneud ichi feddwl efallai bod yna ddyfodol i'r iaith er gwaetha'r ystadegau a'r pesimistiaid," meddai.

    Yn ystod diwrnod dathlu canmlwyddiant y Llyfrgell. Yn hytrach na gorfodi iaith dywedodd mai credwr cryf yw ef mewn "dabngos y ffordd i bobl a rhpi anogaeth i bobl a rhoi cyfleoedd i bobl ond yn y pen draw mae lan i bobl eu hunain benderfynu ."

    Dywedodd fod y Gymraeg yn hanfodol i'w swydd.
    "Mae'n amhosib gwneud y swydd heb yr iaith," meddai.

  • Lladrad yn y Llyfrgell

  • Bu'n s么n hefyd am ladrad rhyfeddol a fu yn y Llyfrgell gyda thros gant o fapiau yn cael eu dwyn o atlasau gan gang broffesiynol.



    Dygwyd dros gant "a dim ond rhyw 12 ddaeth yn 么l", meddai.

    Dywedodd mai un o broblemau unrhyw amgueddfa yw diogelu casgliadau a'u gwneud yn hygyrch i bobl ar yr un pryd.

  • Y pedair record a ddewiswyd gan Andrew Green i'w chwarae ar y rhaglen oedd:
    Billie Holiday a Lester Young..
    Cerddoriaeth o'r Township yn Ne Affrica.
    Delyth Jenkins - Bugeilio'r Gwenith Gwyn.
    Thomas Tallis - Dydw i erioed wedi rhoi fy ngobaith yn unrhyw un ond ynot ti Dduw Israel.


  • Trefi
    Llyfrau
    Papurau Bro


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy