大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pontrhydfendigaid
Bryn F么n Gig Bont
Adolygiad o gig Bryn F么n ym mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Medi 2007 gan Carys Mair Davies.

Ar ddydd Sadwrn, 29 Medi 2007 cynhaliwyd sioe geffylau a disgo ym Mhontrhydfendigaid, y sioe geffylau yn y prynhawn a disgo fin nos. Mae'r diwrnod hyn yn y Bont yn ddiwrnod enwog ac fe heidiodd tyrfaoedd yno y llynedd, fel eleni, i fwynhau a chymdeithasu gyda ffrindiau.

Buais i yn y gig yn unig eleni oherwydd doedd gen i ddim diddordeb yn y sioe geffylau. Cynhaliwyd y gig ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid - sydd yn dal hyd at 2900 o bobl. 'Roedd ffair fach iawn yn bodoli tu allan i ddrysau'r Pafiliwn hefyd er mwyn diddanu'r plant ifanc.

Dechreuodd y gig am wyth o'r gloch yr hwyr. Y band cyntaf i berfformio i baratoi'r gynulleidfa ar gyfer prif seren y noson oedd Caryl a'r Band. Nid oeddwn wedi clywed amdanynt o'r blaen ac os ydw i'n onest, ni wnaethant argraff dda iawn arnaf. Er, wedi dweud hynny fe ddechreuodd y canu wella erbyn diwedd eu awr o berfformio, yn enwedig pan wnaethant ganu "Pishyn Pishyn" gan Newshan.

Am tua 10.30 yr hwyr roedd pawb yn dawnsio o flaen y llwyfan gan fod Bryn F么n a'i fand wedi dechrau perfformio. 'Roedd y gerddoriaeth yn sgrechian a phawb yn dawnsio i hen ffefrynnau megis "Rebal Wicend" ac "Abacus". Cafodd Bryn F么n gymaint o groeso fel y gorfu iddo berfformio tri encore ar ddiwedd ei berfformiad gwefreiddiol. Ac nid y bobl ifanc yn unig oedd wrthi'n part茂o, ond 'roedd hi'n eithaf anodd cyrraedd at flaen y llwyfan gan fod cymaint o ddynion a menywod yna, sy'n ffans o Bryn F么n ers ei ddyddiau cynnar fel seren bop yn canu mewn tafarndai lleol! Gorffennodd ei berfformiad am hanner nos ac fe oleuwyd y Pafiliwn unwaith eto i bawb gael dweud hwyl fawr am y tro wrth hen ffrindiau a ffrindiau newydd. 'Roedd rhai'n teimlo'n eithaf emosiynol ar ddiwedd y noson.

Medraf ddweud yn hollol hyderus ar ran pawb a fu ym Mhafiliwn Bont nos Sadwrn 29 Medi, i ni gyd gael modd i fyw yno. 'Roedd nifer o fysiau wedi teithio yno o bentrefi megis Tregaron a Llanrhystud. Ac 'roedd hynny ar ben y degau ar ddegau o geir a deithiodd yno.

Dwi methu aros tan gig Bont yn 2008. Ond gair o rybudd i gloi - os ydych am ddod cofiwch brynu tocyn o flaen llaw gan eu bod yn costio 拢2 yn fwy wrth y drws ar y noson. Mae'n si诺r y bydd manylion eto y flwyddyn nesa' lle gallwch brynu tocynnau o flaen llaw. Peidiwch 芒 cholli allan ar nos Sadwrn bythgofiadwy flwyddyn nesaf!

Carys Mair Davies

  • Mwy am y Ffair Greffylau
  • Gwefan Bont

  • Cyfrannwch

    Megan Mair
    Dyna beth od, o'n i'n meddwl mai'r gr锚t Edwrad H wnaeth y g芒n 'Pishyn Pishyn'?


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Trefi
    Radio Cymru
    Bws 大象传媒 Cymru
    Lluniau


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy