Enillodd y gadair, a oedd wedi ei gwneud gan y crefftwr lleol Gwyndaf Davies, am stori fer dan y ffug-enw Matilda. Roedd y gadair yn cael ei rhoi naill ai am gerdd ar y testun Llanw a Thrai neu stori fer ar y testun Dan y Don a daeth un bardd a dau lenor i'r brig. Yn ail roedd Catrin Haf Jones o glwb Mydroilyn, Ceredigion, a ysgrifennodd stori fer dan y ffug enw Llipryn Llwyd, ac yn drydydd roedd Llinos Dafydd o Lanwennog, Ceredigion a ysgrifennodd gerdd dan y ffug enw Gwyn Dy Fyd. Cafodd Nia ganmoliaeth uchel gan y beirniad, y prifardd Ceri Wyn Jones, am 'stori fer ragorol' gyda si芒p a momentwm i'r naratif. Drwy ysgrifennu o ddau bersbectif gwahanol, yn y person cyntaf a'r trydydd person, dywedodd ei bod wedi llwyddo i adeiladu tensiwn yn y stori sy'n adrodd hanes merch sy'n boddi ei brawd bach yn y m么r ar ddamwain wrth geiso ei ddysgu i nofio. Dywedodd Ceri Wyn Jones ei fod yn parchu dawn dweud Llipryn Llwyd a Gwyn Dy Fyd ond fod cyfanwaith gorffenedig y gwaith buddugol yn cipio'r gadair. Enillodd Nia gadair Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn 2004 yn Abergwaun hefyd. Mae'n aelod o glwb Penmynydd ers 12 mlynedd ac yn gweithio fel ymchwilydd i'r 大象传媒 ym Mangor. Mae hi hefyd yn arwain c么r clwb Penmynydd, a rhwng ennill y gadair a pharatoi i arwain, roedd hefyd yn brysur iawn yn ystod yr eisteddfod ym Mhontrhydfendigaid yn cyfeilio ac yn ceisio rhoi trefn ar aelodau'r clwb! Holl ganlyniadau'r gwaith cartref
|