Tybir bod y goeden dros 1200 oed ac mai hi yw'r ywen y canodd ei gyfoeswr Gruffydd Gryg am gladdu'r bardd dani dros chwe chanrif yn 么l. Tua phedair blynedd yn 么l fe holltodd y goeden mewn storm, ac roedd pwyllgor y fynwent yn wynebu costau mawr i ddoctora'r ywen i'w chadw'n fyw.
Daeth Roy Bendrey, cyn-berchennog Y Llew Du, Pontrhydfendigaid i'r adwy i dalu am y gwaith a chael cadw'r pren anafus. Pan gafwyd y syniad am y tlws, cytunodd yntau'n barod iawn i gyfrannu'r pren. Kevin Lloyd, athro gwaith coed Ysgol Uwchradd Tregaron sy'n Ilunio'r tlysau.
Bu'r feddyginiaeth yn llesol i'r hen ywen hefyd, a hithau bellach yn adfywio gyda thyfiant newydd arni.
Mwy am 糯yl Gerdd Dant 2007
|