大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pontrhydfendigaid
treialon c诺n defaid Cwrshin mewn cysgod
Ionawr 2009
Cynhelir y treialon c诺n defaid dan-do cyntaf erioed ar 21 Chwefror yng Ngheredigion. Owain Schiavone sy'n adrodd cefndir y stori:

Ddydd Sadwrn 21 Chwefror, am y tro cyntaf erioed caiff cynulleidfa o ganoedd fwynhau campau'r c诺n o glydwch eu seddi. Bydd hwn yn ddigwyddiad unigryw i'r gamp, a lwyfannwyd gyntaf yng Nghymru yn 1873 gan y dyn busnes rhyfeddol R J Lloyd Price o'r Rhiwlas, Y Bala. Mae'r rheolau a osodwyd ganddo ef bryd hynny yn dal mewn bodolaeth i raddau helaeth.

Syniad Charles Arch, ei hun yn rhedwr c诺n defaid yw'r fenter hon. 'Teimlaf ei bod hi'n addas iawn fod camp a ddyfeisiwyd gan Gymro nawr yn cael ei llwyfannu ar ei newydd wedd yn y wlad lle'i cychwynnwyd,' meddai. 'Dylai fod yn ddiwrnod o fwynhad mawr i'r rhai sy'n frwd dros y gamp ac i'r rhai sy'n newydd iddi'

Caiff y treialon eu rhedeg o dan Reolau De Cymru. Bydd y cymalau'n cynnwys cyrchu, rhedeg allan, codi, defnyddio'r Groes Felitaidd a chorlannu. Bydd pump yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol pan ychwanegir cymal arall, pontio.

Y beirniad fydd Kevin Evans o Libanus ger Aberhonddu, enillydd teitl rhyngwladol 2008-09. Gofynnir i'r cystadleuwyr anelu at gorlannu grwpiau o dri neu bedwar oen

Y deuddeg a wahoddwyd yw:
Eryl P Roberts, Padog, Betws-y-coed sydd 芒'i g诺n ifanc wedi eu gweld yn aml ledled Ewrop ac ym Mhencampwriaeth y Byd.
Medwyn Evans, Llanfachreth, cyn-Gapten Cymru a hyfforddwr a bridiwr o fri.
Colin Gordon, Llanrhidian, Bro G诺yr, a brofodd i fod yn llwyddiannus gyda ch诺n sengl a dyblau.
Meirion Jones, Maesybont, aelod rheolaidd o d卯m Cymru ac aelod o'r t卯m buddugol ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd.
Idris Morgan, Bontnewydd ger Aberystwyth, hen ben llwyddiannus iawn a gynrychiolodd Gymru droeon.
I B Jones, Capel Bangor, aelod rheolaidd arall o d卯m Cymru a hyfforddwr sydd wedi allforio c诺n llwyddiannus.
Nigel Watkins, Llanddeusant, cyn-Gapten ar d卯m Cymru ac un o redwyr c诺n mwyaf llwyddiannus Cymru.
Stan Harden, Lamphey, un o gymeriadau mawr y gamp gyda'i w锚n barod yn cuddio'i benderfyniad.
Mrs Rona Davies, Betws Bledrws, Llambed, gwraig t欧 sydd wedi cynrychioli Cymru ar bob lefel.
Si芒n Jones, Llangeitho, un arall sydd wedi cystadlu ar bob lefel ac sy'n hyfforddi ei ch诺n ei hun o'r cychwyn.
Bert Evans, Bronnant, cyn-Gapten cenedlaethol. Hyfforddwr gwych arall sydd wedi allforio c诺n llwyddiannus.
Jeff Evans, Swyddffynnon, ffermwr lleol sy'n hyfforddi ei g诺n ei hun, a hynny gyda chryn lwyddiant.


Trefi
Radio Cymru
Bws 大象传媒 Cymru
Lluniau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy