大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Sioe Frenhinol Cymru
Delyth Robinson Dyddiadur Delyth: Iau
Mae Delyth yn edrych ymlaen am fath cynnes a golchi ei dillad mwdlyd ar 么l pedwar diwrnod mewn pabell oer a wlyb yn Llanelwedd.

Ar 么l sgwennu fy nyddiadur ddoe (dydd Mercher) aethom o amgylch y maes yn edrych am ddefaid Danni Jones a Gareth Ruggeri, aelodau o glwb Ffermwyr Ifanc Llanfair Caereinion. Nid oedd gen i unrhyw ddiddordeb yn y defaid ond roedd Tom a Tom Melingrug yn mwynhau syllu arnynt!

Roedd y tywydd yn dal i fod yn neis. Aethom yn 么l i'r tent - roedd wedi sychu llawer dan draed yn y pentref ieuenctid! Roedd yn addo tywydd gwael ar gyfer dydd Iau felly aeth Tom Melingrug a Sioned adref, ond aeth Tom a finnau i mewn i Builth a chwrdd 芒 Meilir - doedden ni ddim wedi gweld Meilir am gyfnod! Cawsom ddiod yna cyfarfod mam ar gyfer Indian arall - dydw i erioed wedi bwyta allan cymaint yn fy mywyd!!

Pan gyrhaeddon ni yn 么l i'r babell roedd Geraint, Jenny, Cerri a Callum yna, ac roedd yn rhaid i ni orffen yr holl ddiod felly cawsom barti yn y babell!! Roedden ni'n medru clywed y gr诺p Crazy Ape o'r babell, roedden nhw'n swnio'n dda iawn a buon ni'n canu tan oriau m芒n y bore!

Cododd pawb yn gynnar heddiw bore (dydd Iau.) Roedd yn rhaid i Phill Ger a Jenny fod yn Y Drenewydd erbyn naw! I was not impressed! Codais a dechrau pacio fy mag, ac erbyn hanner awr wedi naw roedd Tom a finnau ar y maes. Roedd hi'n glawio'n drwm - YCH A FI!!

Ceffylau yn y Prif GylchRyden ni wedi treulio'r diwrnod yn crwydro'r maes yn edrych am fargenion yn y stondinau! Ar 么l awr neu ddwy ar y maes roedd cerdded yn y glaw yn ormod, ac aethom i'r grandstand er mwyn sychu a gwylio'r ceffylau!

Mae hi wedi bod yn glawio trwy'r dydd heddiw, felly dwi'n meddwl mynd yn 么l i'r tent, gorffen pacio ac ail lenwi'r car. Dydw i ddim yn edrych ymlaen i gael fy nghar allan o'r maes parcio, dwi'n meddwl fydd o'n sownd!!!

Ryden ni wedi mwynhau ein wythnos yma ar y maes ond piti am y tywydd a'r holl faw. Mae pob darn o ddillad sydd gen i wedi ei orchuddio yn y baw ac rwy'n edrych ymlaen i fynd adref a chael bath cynnes! Rwy'n meddwl fydd yn rhaid cael caraf谩n y flwyddyn nesaf ac aros yn rhywle sydd 芒 chawodydd lot yn well!

Dyddiadur dyddiol Delyth


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Eich neges

Rhaid cael 'Flash 9' i weld y ticer ar y ddalen hon. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam yma.

Bywyd Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy