大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Sioe Frenhinol Cymru
Ffion (ar y dde) gyda'i ffrind yn mwynhau ar nos Fercher Dydd Iau
Roedd y noson olaf yn y Pentre' Ieuenctid neithiwr yn wallgo!
Crazy Ape ac Empathy oedd y ddau fand oedd yn chware ac mae gennyf atgofion melys o'u perfformiad nhw yn yr un man llynedd. Roedd dillad gwallgo'r prif fand yn gweddu'n dda gyda'i enw, ac roeddent yn canu stoc o ganeuon adnabyddus. Roedd hwyliau da ar bawb yn y gig neithiwr, ac mae ond yn siom fod yr 诺yl ar ben am flwyddyn arall.

Unwaith eto heddi mae'r haul yn gwenu'n braf ar Lanelwedd, ac er fod hi'n eitha' poeth wrth gerdded o gwmpas does dim gymaint o dorf 芒 ddoe, felly ma'r frustration levels ychydig yn is!!

Gan amlaf ar ddiwrnod ola'r sioe ma' na ambell i fargen i'w phigo i fyny, felly trip siopa oedd y nod prynhawn 'ma. Ymysg yr holl stondinau'n gwerthu peiriannau trydan, dillad marchogaeth ceffylau ac eli esgidiau, ma na rhai eitha' da yn cuddio. Rwyf nawr yn berchen ar bar o flipflops haf lliwgar, a sgert newydd i'w gwisgo ar fy ngwyliau, a'r cyfan am llai na 拢15!

Un peth sydd wastad yn drist am ddiwrnod ola'r sioe yw gweld yr holl garafannau'n gadael. Ar 么l yr holl fwrlwm a'r awyrgylch ffantastig sydd i'w gael yn y gymuned gyfeillgar dros-dro, i fyny yn y maes carafannau, mae deffro i weld fod eich cymdogion wedi mynd a gadael peth cynta'n bore yn gwneud i chi sylweddoli pa mor gyflym mae'r pedwar diwrnod yn Llanelwedd yn mynd.

Arwydd Wrth edrych yn 么l felly, mae hi wedi bod yn flwyddyn arall cofiadwy yn y sioe, yn llawn hwyl a sbri, ac atgofion i gadw am byth. Mae'r sioe weithiau yn cael stic ystradebol am fod yn 诺yl 'ffermwyr' ond fel ma'r Sais yn gweud don't knock it till you've tried it. Fi'n addo wnewch chi fwynhau!

Welai chi flwyddyn nesa',
Ffion. x


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Eich neges

Rhaid cael 'Flash 9' i weld y ticer ar y ddalen hon. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam yma.

Bywyd Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy