Castell Henllys
Mae ymwelwyr â Chaer Oes yr Haearn Castell Henllys ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn edrych ar rywbeth sy'n mynd â nhw'n ôl 2,300 o flynyddoedd mewn amser, i cyn hanes Prydain. Mae adeiladau yma wedi'u hailadeiladu gan ddefnyddio tystiolaeth a gloddiwyd ar y safle. Mae'r anheddiad Oes yr Haearn sydd wedi'i ail adeiladu yn cynnwys tri thy crwn to gwellt anferth, gof ac ysgubor crwn to gwellt (oddi ar y llawr ar bedwar postyn) gyda ffens o amgylch y blaen, yn ogystal â thy'r pennaeth a chysgodfa i'r anifeiliad. Mae'n werth mynd ar ymweliad yno gan ei fod yn rhoi cipolwg ar amgylchiadau byw a gweithiol y deiliad gwreiddiol. Mae archeolegwyr o Brifysgol Efrog wedi bod yn cloddio yma bob haf gan ddarganfod tyllau pyst a phyllau yn cynrychioli tai crwn. Mae cynllun ar gyfer adeiladau pedwar postyn, a gredir eu bod yn ysguboriau wedi'u codi oddi ar y llawr i amddiffyn yr yd rhag llygod mawr, tystiolaeth o waith crefft, gwaith haearn, yn ogystal â gweithgareddau amaethyddol wedi dod i'r wyneb. Mae haneswyr yn awgrymu i'r anheddiad gartrefu cymuned o sawl teulu gyda phoblogaeth efallai o tua 100 neu fwy o bobl. Cyfarwyddiadau Dilynwch yr A487 o Drefdraeth i Aberteifi. Tua 6.4 cilometr o Drefdraeth, mae'r safle wedi'i nodi ar bostyn. Trowch i'r chwith i fynd i faes parcio'r safle. Mae'r safle ei hun tua 100 metr ar droed. Oriau agor: Ebrill - Hydref 9.30-1700. Ffôn 01239 891319 ar gyfer ymholiadau. © y Goron: CBHC
|