Llyn Cerrig Bach
Dyma safle pwysig iawn o Oes yr Haearn. Mae Llyn Cerrig Bach wedi bod yn ffynhonnell i'r casgliad mwyaf o ddeunyddiau Oes Haearn i'w darganfod hyd yn hyn yng Nghymru. Dargafnuwyd y casgliad anhygoel yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn ystod adeiladu maes awyr yr RAF. Darganfu gweithwyr dros 150 o wrthrychau efydd a haearn o'r mawn a oedd wedi ffurfio mewn llyn oedd yno ers talwm. Mae'r casgliad yn cynnwys cleddyf haearn, darnau o darian, gwaywffyn, tresi ceffylau, plac efydd, olwynion cerbyd rhyfel haearn, darnau o grochan a dwy dorfgadwyni haearn (mae nifer o'r rhain i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd heddiw). Credir i'r gwrthrychau gwerthfawr yma gael eu taflu i'r llyn fel offrwm i dduwies y llwyth. Mae nifer bychan o esgyrn anifeiliaid a gasglwyd gan y gweithwyr yn arwydd efallai o offrymau ychwanegol. Roedd arferiad Oes yr Haearn o aberthu eitemau gwerthfawr, yn ogystal ag anifeiliaid a bodau dynol, ynghlwm â defod arwyddocaol. Roedd rhai o'r gwrthrychau metel wedi'u difrodi'n bwrpasol. Roedd y cleddyfau haearn wedi'u plygu ac o ganlyniad yn ei gwneud yn amhosibl iddynt gael eu defnyddio fyth eto. Mae'r darganfyddiadau wedi'u dyddio rhwng yr 2il ganrif CC a 60OC sy'n awgrymu fod y llyn yn fan pwysig i gynnig offrymau i'r duwiau. Credir i'r datblygiad hwn ddigwydd yn ail hanner Oes yr Haearn. Nid ydym yn gwybod pam i'r llyn yma gael ei ddewis fel man i aberthu ond mae archeolegwyr wedi dyfalu ei bod hi'n bosib fod rhywbeth pwysig wedi digwydd yma. A allai'r digwyddiad yma fod wedi digwydd ar drothwy ymosodiad y Rhufeiniaid ar Lyn Cerrig Bach? Credir hefyd fod Llyn Cerrig Bach wedi bod yn brif ganolfan i weithgareddau defodol. Disgrifiodd yr hanesydd Rhufeinig, Tactius, Mona (Ynys Môn) fel canolfan pwer derwyddol, gan ddisgrifio'r llwyni derw cysegredig sydd ar yr ynys. Mae darganfyddiadau tebyg i Lyn Cerrig Bach wedi'u gwneud ar y cyfandir ac yn dystiolaeth o batrwm o weithgaredd defodol a oedd yn gyffredin yn ystod Oes yr Haearn. Wrth ymweld â'r safle heddiw yr hyn sy'n weddill o'r llyn yw hydoedd bychain o ddwr. Mae plac ar y safle i ddynodi darganfyddiadau'r Ail Ryfel Byd. Cyfarwyddiadau Yn awr ar dir yr RAF. Dilynwch yr A5 i Gaergeiliog. O ochr orllewinol y pentref, trowch i'r chwith wrth y Tollborth. Ar ôl croesi'r bont reilffordd, cymerwch y chwith nesaf tuag at faes awyr yr RAF. Mae'r safle wedi'i farcio gan glogfaen fawr. © y Goron: CBHC
|