Llyn Fawr, Hirwaun
Safle hynod o bwysig lle darganfuwyd tystiolaeth gynharaf o waith haearn ar Ynysoedd Prydain. Llyn gwneud ydy Llyn Mawr wedi'i greu yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Pan oedd gweithwyr yn clirio mawn o waelodion y llyn blaenorol darganfuwyd gwrthrychau efydd a haearn, gan gynnwys dau grochan efydd anferth, yn awr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, bwyellau efydd a chrymanau, tresi harnes cheffylau efydd, rasel triongl ar gyfer siafio, a rhan o gleddyf haearn wedi'i addurno'n gelfydd gyda dolen o esgyrn. Mae'r cleddyf yn enghraifft brin o offer milwrol wedi'i fewnforio. Mae cryman haearn yn cynrychioli y dystiolaeth gynharaf o waith haearn brodorol ar ynysoedd Prydain, yn dyddio i tua 600 CC. Credai archeolegwyr i'r gwaith metel yma gael ei daflu i'r llyn 2500 o flynyddoedd yn ôl fel offrwm i dduwies y dwr. Roedd y Celtiaid yn taflu offrymau defod i'r dwr mewn gobaith o dawelu'r duwiau. Yn fwy na thebyg roedd seremoniau o'r fath yn cael eu trefnu gan glerigwyr Celtaidd proffesiynol, a adnabyddwyd fel derwyddon. Mae'r casgliad yn y llyn yn dystiolaeth hynod bwysig o system o gredodau dwfn. Yn fwy na thebyg roedd y seremoniau yma yn ddigwyddiadau mawr a phobl o bob man yn eu mynychu, gan ddangos ymdeimlad cynyddol o anobaith ynglyn â gelynion newydd, pwerus ar y gorwel. Hyd yn oed heddiw, wrth sefyll ar yr argae concrid o'r gronfa ddwr, mae'r amffitheatr naturiol Llyn Mawr wrth droed y Rhigos yn creu awyrgylch unigryw. Cyfarwyddiadau Gadewch yr A465 (ffordd y Blaenau) yn Hirwaun a chymerwch yr A4061. Ar ôl pasio Pwll Glo'r Twr ar y dde, y ffordd nesa ar y dde yw trac coedwigaeth at y safle sydd ar gyfer cerddwyr yn unig. Nid oes maes parcio. Mae'r safle tua hanner milltir ar hyd y trac coedwigaeth. ©´¡°¿°ä°ä
|