Bryngaer Tre Ceiri
Os ydych ond yn ymweld ag un safle Oes Haearn yng Nghymru, efallai mai hwnnw fyddai bryngaer ysblennydd Tre Ceiri, sy'n golygu "Tref o Gewri". Yn aml cyfeirir ato fel y fryngaer fwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru. Ceir rhagfuriau carreg pwysig yn amgylchynu'r gylched cyfan, ac mewn mannau mae'n dal i sefyll dros 3 metr mewn uchder. Mae'r golygfeydd yn anhygoel. Hefyd mae'r gaer yn sefyll ar un o gopaon Eifl. Mae'r mewndir yn llawn adeiladau wedi'u gwneud o wal gerrig a gellir gweld weddillion 150 o gytiau gyda rhai o'r waliau yn dal i sefyll dros 1 metr o uchder. Mae rhai yn dai crwn, eraill yn betryal neu'n hirgrwn. Mae'r cytiau yma mewn grwpiau o bedwar neu bump cylch ar draws y gaer. Maent yn amrywio mewn maint a siâp - mae rhai o'r rhai crwn yn 8 metr ar draws, eraill yn llai na 3 metr. Wedi'i osod ar y copa cul o'r bryn, mae'r safle yn amgylchynu tua 2.5ha gyda'r brif fynedfa wrth y pen gorllewinol isaf. Gellir dod o hyd i fynedfa arall ar yr ochr ogleddol ac mae'r ddwy fynedfa wedi'u hamddiffyn. Mae carnedd Oes Efydd ar frig y safle. Cyfarwyddiadau Cymerwch yr A499 i'r gogledd o Bwllheli. Yn Llanaelhaearn, cymerwch y B4417 tuag at Nefyn. Llai na milltir o'r groesffordd i'r B4417, mae llwybr ar y dde, sy'n mynd â chi fyny'r bryn am Tre Ceiri. Byddwch yn ymwybodol fod safleoedd parcio yn brin iawn. Byddwch yn ofalus i beidio â symud unrhyw gerrig ar y safle. © y Goron: CBHC
|