Scancwyr soniarus o gysgodion llechi tywyll Blaenau, roedd Anweledig efo merched noeth ar y llwyfan yn eu gigs cyn bod Derwyddon Dr Gonzo allan o'u clytiau.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Dyma gerddoriaeth pop Cymraeg sy'n nofio mewn m么r o saws jerk, madarch gwyllt, a chwys poeth. Cydiodd Anweledig ym mantell reggae Geraint Jarman a Llwybr Llaethog a rhedeg efo hi'n wyllt trwy strydoedd Cymru gyda ieuenctid ifanc y wlad yn eu dilyn nhw'n ffyddlon mewn rhes conga crwydrol.
Cychwynnodd Anweledig ar eu taith gwyllt i brif lwyfannau Cymru pan enillon nhw gystadleuaeth band gorau yn Steddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol yn 1994.
Aelodau
- Ceri Cunnington
- Gai Tomes
- Iwan 'Oz' Jones
- Rhys Roberts
- Alwyn Evans
- Joe Buckley
- Edwin Humphries
- Barri Gwilliam
- Arwel Davies
- Ac eraill...
Yn 1998 rhyddhaodd y band Sombreros yn y Glaw, gan ennill lle i'w hunain ar waliau brethyn coridor enwogion cerddoriaeth Cymru.
Nhw oedd y band i weld yn fyw, gyda gigiau yn aml yn gorffen efo stafell yn llawn o gyrff ifanc chwyslyd yn 'skankio' o amgylch y stafell fel petai pob aelod o Madness newydd danio roced fyny'u penolau nhw. Doedd dim ots os oeddech chi'n ffan o'r gerddoriaeth neu ddim.
Dwi di gweld hyd yn oed y bobl fwya negyddol yn rhestru rhesymau dros beidio hoffi'r gr诺p ar ddechrau gig, ond yn rhedeg yn wyllt i mewn i wal mewn ffit o 'ecstasi' gwallgof erbyn diwedd y g芒n Eisteddfod.
Roedd 'na rhywbeth am y gerddoriaeth, ac yn fwy pwysig, y ffordd roedd y band yn chwarae pob gig fel eu gig ola, weithiau hyd yn oed gydag aelodau (fel arfer Gai) yn dyrnu aelodau arall (fel arfer Ceri).
Nhw oedd un o'r bandiau cyntaf yng Nghymru ers Edward H Dafis i fagu ddilyniant ffyddlon anferth o Gymry ifainc oedd yn mwynhau dim mwy na meddwi'n rhacs, mynd i gig, ac o bosib gadel yn hanner noeth, hanner call a gyda merch brydferth gigog o'r enw Hannah Cae Isaf.
Yn weddol fuan ar gychwyn eu gyrfa daeth Anweledig yn rhan annatod o gerddoriaeth fyw Cymraeg. Ddim ers Sulwyn Rees o'r Chwys ydyn ni wedi cael prif leisydd fel Ceri Cunnington, efo'i lygaid gwyllt a gw锚n gwallgof yn eich herio i drio beidio mwynhau'r synnau ffync reggae oedd yn bownsio allan o'i geg ac o'r system sain gwlyb mewn cae yn Nefyn.
Celwydd byddai ceisio gwadu bod fi heb wario noson feddwol yn Eisteddfod T欧 Ddewi 2001 (ac ambell i 'Steddfod' arall) yn dawnsio'n wyllt gyda channoedd o bobol eraill tra bod cyrn Anweledig, llygaid Ceri, a chaneuon Gai yn ein hypnoteiddio ni a'n gorfodi i ddawnsio'r ddawns wirion 'na ry'n ni gyd yn gwneud wrth wylio Anweledig.
Huw Evans
Newyddion
13 Rhif Lwcus i'r Hogia' o Flaenau!
27 Gorffennaf 2005
13 Rhif Lwcus i'r Hogia' o Flaenau!
27 Gorffennaf 2005
Erthyglau
Ceri Cunnington
Mai 13, 2004
Ceri Cunnington
Mai 13, 2004
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
大象传媒 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.