In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Fideo o sesiwn byw Clinigol ar gyfer Radio Wales. Mae'r trac 'Am Wastraff' oddi ar yr albwm gyntaf, 'Melys' a ryddhawyd ar label Rasp yn 2009.
"...y band mwya' masnachol a dawnsiadwy yng Nghymru... digon o diwns a chydweithio diddorol... dewr, dwl, dyfeisgar a diddorol." (Huw Stephens)
Dau frawd o Gaerdydd, Geraint ac Aled Pickering, sy'n teithio'r byd mewn fan hufen ia yw CLINIGOL. Dyma fand sy'n gyfrifol am rai o diwns pop-dawns hapusaf yr iaith Gymraeg. Yn eu helpu yn y fan hufen ia mae llwyth o ferched 'sexyenwoggwych', fel Siwan Morris, Elin Fflur, Caryl Parry Jones, Heather Jones, Margaret Williams, Cofi Bach, Nia Medi ac El Parisa.
Rhyddhawyd sengl gyntaf y band Eiliad ar label Ciwdod yn 2006. Yna, rhyddhawyd y senglau Y Gwir a Hufen Ia cyn rhyddhau albym gynta'r band Melys ar label Rasp yn 2009.
Daeth yr EP Swigod 芒'r band i sylw'r wefan pop boblogaidd a dylanwadol, "popjustice" yn 2010 a ddisgrifiodd y sain fel "Big Pop Music!" . Rhyddhaodd y band ei ail albwm llwyddiannus, Discopolis yn 2012.
Newyddion
Albym gyntaf 'Clinigol'
Mae'r grwp electro-pop 'Clinigol' newydd ryddhau eu albwm gyntaf, 'Melys'.
Albym gyntaf 'Clinigol'
Mae'r grwp electro-pop 'Clinigol' newydd ryddhau eu albwm gyntaf, 'Melys'.
Be fydd ar eich Stereo yn 2006?
Ionawr 5, 2006
Sesiynau
Clinigol
Ebrill 2005
Adolygiadau
Clinigol
Ionawr 03 2007
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
大象传媒 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.