大象传媒

The Gentle Good

The Gentle Good

'Mae'n ganu gwerin tywyll sy'n tylinio'ch tu fewn ac yn gwneud i'ch esgyrn feddalu... Mae'r 'Gentle Good' yn darparu'r trac -sain i'ch trwmgwsg'. (Maxie Gedge)

Gareth Bonello yw'r 'Gentle Good' ac mae'n artist sy'n adlewyrchu ei enw gyda'i gerddoriaeth soniarus a melodaidd.

Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, mae Gareth wedi bod yn perfformio yn s卯n byw y Brifddinas ers rhyw 5 mlynedd bellach. Mae'n canolbwyntio ar yr acwstig gwerinol ac yn canu caneuon traddodiadol a'i gyfansoddiadau ei hun yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae ei gerddoriaeth yn gyfuniad o'r gwerin traddodiadol, technegau git芒r o'r 60gau a llinynnau swmpus gyda thinc o psychedelia.

Rhyddhaodd albwm newydd, Tethered for the Storm ym Mawrth 2011 ar label Gwymon gan ddefnyddio pedwarawd llinynnol a phiano grand fel rhan o'r ensemble cerddorol. Mae'r albwm yn adlewyrchu bywyd yr artist yng Nghaerdydd gyda dylanwadau amrywiol -o farddoniaeth Philip Larkin a John Donne i'r Hen Benillion Cymraeg.

Yn 2008 cyhoeddodd ei albwm While You Slept I Went Out ag enillodd cryn ganmoliaeth. Ond daeth y Gentle Good i'r amlwg i lawer yn 2009 pan berfformiodd yng Ngwyliau South by Southwest yn yr UD, y Green Man a Glastonbury ymhlith eraill. Mae wedi ennyn clod gan y beirniaid gyda'i gerddoriaeth swynol yn cael ei chymharu gydag artistiaid fel Bert Jansch, John Renbourn, Nick Drake and John Martyn.

Enillodd Wobr Cylchgrawn Seler am yr Artist Unigol Gorau yn 2010 ac mae'n wyneb cyfarwydd erbyn hyn ar y s卯n gerddorol Gymreig yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Newyddion

Sesiynau

Gareth Bonello/Gentle Good

Sesiwn Acwstig The Gentle Good

14 Mawrth 2011

Sesiwn acwstig y Gentle Good ar gyfer rhaglen Huw Evans.

Adolygiadau

Tethered for the Storm, The Gentle Good

Adolygiad - The Gentle Good, Tethered for the storm

03 Rhagfyr 2010

Beth yw barn yr adolygwyr am CD The Gentle Good?

Adolygiad CD The Gentle Good, While You Slept

01 Rhagfyr 2008

Beth yw barn yr adolygwyr am While You Slept I Went Out Walking gan The Gentle Good?

Eraill

Sesiwn Unnos 5

Y bumed Sesiwn Unnos ar gyfer Radio Cymru gyda'r gantores Gwyneth Glyn, Gareth Bonello, Aled Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog a Pete Richardson a Sion Glyn o'r Niwl. Y dasg: cyd-weithio i gyfansoddi, recordio, cymysgu a rhyddhau EP newydd mewn un noson.


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

大象传媒 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.