Yr eilydd Marco Materazzi sgoriodd eu g么l agoriadol wedi 26 munud, gyda pheniad yn dilyn cic gornel gan Totti.
Derbyniodd gobeithion y Weriniaeth Siec glec pan gafodd Jan Polak ei yrru o'r maes ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Sicrhaodd Filippo Inzaghi y fuddugoliaeth a lle'r Eidal yn y rownd nesaf pan dorrodd yn rhydd cyn curo Petr Cech.
PRIF DDIGWYDDIADAU
Sg么r terfynol - Y Weriniaeth Siec 0-2 Yr Eidal
86 mun: G么l - Y Weriniaeth Siec 0-2 Yr Eidal
Filippo Inzaghi, yn ennill ei 50fed cap yn sgorio'r ail i'r Eidal ac yn sicrhau'r fuddugoliaeth.
Hanner amser- Y Weriniaeth Siec 0-1 Yr Eidal
46 mun: Cerdyn Coch - Jan Polak (Y Weriniaeth Siec)
26 mun: G么l - Y Weriniaeth Siec 0-1 Yr Eidal
Peniad Marco Materazzi yn dilyn cic gornel Totti yn rhoi'r Eidal ar y blaen. Newyddion drwg i'r Weriniaeth Siec gyda Ghana ar y blaen yn erbyn yr UDA.
TIMAU
Y Weriniaeth Siec: Cech, Grygera, Kovac, Rozehnal, Jankulovski, Plasil, Polak, Nedved, Poborsky, Rosicky, Baros.
Eilyddion: Blazek, Galasek, Heinz, Jarolim, Jiranek, Kinsky, Koller, Mares, Sionko, Stajner.
Yr Eidal: Buffon, Zambrotta, Cannavaro, Nesta, Grosso, Camoranesi, Pirlo, Perrotta, Gattuso, Totti, Gilardino.
Eilyddion: Amelia, Barone, Barzagli, Del Piero, Iaquinta, Inzaghi, Materazzi, Oddo, Peruzzi, Toni, Zaccardo.
Dyfarnwr: Benito Archundia Tellez (Mecsico)