|
Newidiwyd diwethaf:
17
Mai
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am d卯m Saudi Arabia ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Gr诺p H: v Tunisia 14 Mehefin 1700 BST, Munich
v Wcrain 19 Mehefin 1900 BST, Hamburg
v Sbaen 23 Mehefin 1500 BST, Kaiserslautern
Nid yw paratoadau Saudi Arabia ar gyfer Cwpan y Byd wedi bod yn ddelfrydol gyda Gabriel Calderon, yr hyfforddwr, gael ei ddiswyddo ym mis Rhagfyr.
Roedd yn sioc i gefnogwyr p锚l-droed y wlad wedi'r Archentwr ail adeiladu'r t卯m yn dilyn perfformiad siomedig yng ghwpan Asia 2004 o dan arweiniad yr hyfforddwr o'r Iseldiroedd Gerard Van der Lem.
Mae ei olynydd, Marcos Paqueta o Frasil, yn adnabod nifer o'r garfan gan mai ef oedd hyfforddwr clwb Al Hilal o Riyadh gipiodd Cwpan a Chynghrair Saudi Arabia yn 2005.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Dyma fydd y pedwerydd ymddangosiad yn olynol i Saudi Arabia ond nid ydynt wedi gwneud llawer o argraff ers trechu Morocco a Gwlad Belg yn 么l ym 1994.
Dim ond un pwynt maent wedi gasglu o'u holl gemau yn y ddau bencampwriaeth ddiwethaf ac ni fydd ganddynt atgofion melys o'r grasfa 8-0 yn erbyn Yr Almaen yn 2002.
S锚r y t卯m: Sami Al-Jaber yw'r unig aelod o'r garfan chwaraeodd yng Nghwpan y Byd 1994. Wedi ymddeol yn dilyn y siom yng Nghwpan y Byd 2002, newidiodd yr ymosdwr 33-mlwydd-oed ei feddwl er mwyn sicrhau lle'r Saudi yn Yr Almaen.
Mae'r golwr, Mabrouk Zaid, wedi bod yn rhan allweddol o lwyddiant ei glwb, Al Ittihad, wrth iddynt ennill Cynghrair Pencampwyr Asia y 2004 a 2005.
Barn 大象传媒 Cymru'r Byd: Mae'n annhebygol bydd Saudi Arabia'n llwyddo i wella ar eu perfformiad yn1998 a 2002 a chamu allan o'r gr诺p.
|
|
|
|
|
|
|
|
听 听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|