Llwyddodd Zdenek Grygera i dorri i lawr yr agell dde a chroesi'n berffaith i Jan Koller yrru peniad grymus i gefn y rhwyd wedi pum munud cyn i daran o ergyd gan Tomas Rosicky ddyblu eu mantais cyn yr egwyl.
Cafwyd ergyd i'r Weriniaeth Siec wedi Koller orfod cael ei gludo o'r maes wedi'r egwyl.
Er hyn, roedd y Sieciaid yn rheoli'r g锚m a seliwyd y fuddugoliaeth 芒 chwip o g么l gan Rosicky, dderbyniodd pas gan Karel Poborsky cyn carlamu i'r cwrt cosbi a chodi'r b锚l dros Kasey Keller.
TIMAU
UDA: Keller, Onyewu, Mastroeni, Pope, Cherundolo, Reyna, Beasley, Convey, Lewis, McBride, Donovan.
Eilyddion: Albright, Berhalter, Bocanegra, Ching, Conrad, Dempsey, Hahnemann, Howard, Johnson, O'Brien, Olsen, Wolff.
Y Weriniaeth Siec: Cech, Grygera, Rozehnal, Ujfalusi, Jankulovski, Poborsky, Galasek, Rosicky, Plasil, Nedved, Koller.
Eilyddion: Baros, Blazek, Heinz, Jarolim, Jiranek, Kinsky, Kovac, Lokvenc, Mares, Polak, Sionko, Stajner.
Dyfarnwr: Carlos Amarilla (Paragwai).