Gyda'r Nadolig yn nes谩u, mae'r gweisg Cymraeg wedi bod yn brysur yn cyhoeddi cyfrolau newydd i lenwi'r hosan.
Yn eu plith ceir tair cyfrol sy'n adrodd hanes rhai o fawrion byd y campau yma yng Nghymru.
Y Crwt o'r Waun - Gareth Edwards (Gwasg Gwynedd)
Yn y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres y Cewri, Y Crwt o'r Waun, ceir hanes un y mae rhai yn honni iddo sgorio y cais gorau erioed yn hanes rygbi.
Mae Gareth Edwards hefyd yn cael ei ystyried y chwaraewr rygbi gorau erioed ac roedd yn aelod allweddol o d卯m Cymru gafodd lwyddiant ysgubol yn ystod y Saithdegau.
Dyma lyfr ddylai apelio at y rhai hynny sydd yn byw a bod rygbi yn ogystal 芒'r rhai nad ydynt yn gwirioni gymaint ar y g锚m.
>
O'i blentyndod hapus yng Ngwauncaegurwen i'w addysg yn Ysgol Fonedd Millfield i'w lwyddiant ar feysydd rygbi'r byd - mae'r hanes rhwng dau glawr wedi ei gywain gan Alun Wyn Bevan.
Gweld S锚r: P锚l-Droedwyr Gorau Cymru o'r 60au hyd Heddiw - Ian Gwyn Hughes (Gwasg Gomer)
Pwy yw'r p锚l-droediwr gorau erioed i gynrychioli Cymru?
Mae'r sylwebydd Ian Gwyn Hughes wedi dewis 13 o chwaraewyr y mae'n eu hystyried yn oreuon ein cenedl ers y Chwedegau gan gychwyn gyda John Charles a gorffen gyda Ryan Giggs.
>
Mae yma bortreadau o'r chwaraewyr drwy lygaid personol prif ohebydd p锚l-droed 大象传媒 Cymru.
Heblaw am Charles, gwelodd Ian bob un o'r chwaraewyr yn chwarae a bu'n cydweithio 芒 rhai yn rhinwedd ei swydd.
Stephen Jones - O Clermont i Nantes - Stephen Jones, Lynn Davies (Y Lolfa)
Cawn gipolwg ar yr hyn ddigwyddodd yn ystod ymgyrch aflwyddiannus yng Nghwpan Rygbi'r Byd eleni drwy lygaid y capten, Stephen Jones mewn llyfr a sgrifennodd y chwaraewr gyda Lynn Davies.
>
Mae'r gyfrol hefyd yn dilyn cyfnod Stephen gyda th卯m Clermont Avergne yn Ffrainc cyn iddo ddychwelyd i'w gartref ysbrydol - Parc y Strade, Llanelli.
Llyfr arall sydd ar gael yw cyfieithiad a diweddariad Saesneg o fywgraffiad Robin McBryde - 'Y Cymro Cryfa' - gyhoeddwyd y llynedd.
Mwynhewch y darllen dros yr 诺yl!
|