Y g诺r o'r Ffindir oedd wedi arwain drwy gydol y rali yn y Ford Focus ac mae'n gorffen y tymor bwynt y tu 么l i bencampwr y byd, Sebastien Loeb.
Roedd Sebastien Loeb o Ffrainc, fethodd y tair rali ddiwethaf oherwydd anaf, eisoes wedi ennill y bencampwriaeth.
Manfred Stohl yn y Peugeot orffennodd yn ail, yn funud a 35.5 eiliad y tu 么l i Gronholm gyda Petter Solberg yn y Subaru yn drydydd.
Hwn oedd seithfed fuddugoliaeth Gronholm o'r tymor wedi iddo ennill yn Monte-Carlo, Sweden, Groeg, y Ffindir, Twrci a Seland Newydd.
Canlyniad Rali Cymru GB:
1. Marcus Gronholm (Fin) Ford, tair awr 20 munud 24.8 eiliad
2. Manfred Stohl (Aut) Peugeot, 1:35.5
3. Petter Solberg (Nor) Subaru, 1:55.2
4. Jari-Matti Latvala (Fin) Ford, 2:37.1
5. Xevi Pons (Esp) Citroen, 3:19.9
6. Chris Atkinson (Aus) Subaru 3:27.5
7. Dani Sordo (Esp) Citroen, 4:08.3
8. Francois Duval (Bel) Skoda, 4:22.6
9. Harri Rovanpera (Fin) Skoda, 8:00.3
10. Jan Kopecky (Cze) Skoda, 8:27.8
|