大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 20 Ionawr 2011

Adam Jones allan am ddau fis

Mae'n bur debygol na fydd Adam Jones yn chwarae unrhyw ran i Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Adam Jones

Anafodd y prop pen-tynn ei benelin wrth chwarae i'r Gweilch yn erbyn Gwyddelod Llundain yng Nghwpan Heineken ddydd Sul, ac mae'r rhanbarth wedi cadarnhau ei fod yn wynebu dau fis ar y cyrion.

Ond nid yw'r Gweilch wedi dweud bod angen llawdriniaeth, gan gynnig llygedyn o obaith i Jones allu gwella yn gynt na'r disgwyl er mwyn chwarae ar ddiwedd y bencampwriaeth.

"Mae'r profion wedi cadarnhau ein hofnau bod difrod sylweddol i'r ligament a'r meinwe yn y benelin chwith," meddai ffisio y Gweilch Chris Towers.

"Rydym wedi trafod yr anaf yn ddwys, gyda'r arbenigwyr a th卯m meddygol URC, a'r gred yw y bydd Adam allan am o gwmpas wyth wythnos."

Mae Jones, sydd wedi ennill 68 cap, yn cael ei ystyried fel un o chwaraewyr gorau'r byd yn ei safle, a daw'r anaf yma wythnos ar 么l i Gymru golli ei bartner yn rheng-flaen, Gethin Jenkins.

Bydd Jenkins yn colli'r bencampwriaeth gyfan oherwydd anaf i fys ei droed.

Mae Jones a Jenkins wedi helpu sicrhau sylfaen hynod gadarn i Gymru yn y sgrym dros y blynyddoedd diwethaf, ond bydd gwrthwynebwyr t卯m Warren Gatland yn sicr o dargedu'r rheng-flaen yn ystod y Chwe Gwlad.

"Mae hi dipyn bach o gur pen," dywedodd hyfforddwr blaenwyr Cymru Robin McBryde. "Dydi o ddim yn ddelfrydol cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ond mae'n rhaid i ni ymateb mewn ffordd positif."

Mae Paul James wedi profi'n ddirprwy dibynadwy i Jenkins ar yr ochr agored, ond mae'r opsiynau'n brin i Gatland o ran propiau pen-tynn.

Oni bai am Jones, prop 20 oed y Scarlets Simon Gardner oedd yr unig Gymro arall i gychwyn g锚m i unrhyw un o'r pedwar rhanbarth Cymreig dros y penwythnos.

Mae Craig Mitchell o'r Gweilch wedi bod yn ymarfer gyda'r garfan genedlaethol, ac mae Scott Andrews o'r Gleision yn opsiwn arall.

"Maen nhw'n fechgyn ifanc, efallai dipyn bach yn ddibrofiad ond mae'n rhaid i chi gael profiad rhywbryd," ychwanegodd McBryde.

"Gobeithio allan o'r criw yna allwn ni ddod allan ohoni'n iawn. Mae 'na ddigon o dalent yna ac mi faswn i'n ddigon hyderus mewn unrhyw un o rheini i gamu ymlaen a chymryd eu lle yn gwisgo'r crys coch rhif tri."


chwaraeon



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy