大象传媒

Avatar

Rhan o boster y ffilm

23 Rhagfyr 2009

12ATair  seren

  • Y S锚r: Sam Worthington, Sigourney Waever, Michelle Rodriguez, Giovanni Ribisi, Zoe Saldana, Stephen Lang
  • Cyfarwyddo: James Cameron.
  • Sgrifennu: James Cameron.
  • Hyd: 161 munud

Dan ddylanwad . . .

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Mae na heip ac mae na heip ac o gofio i'r cyfarwyddwr James Cameron gyhoeddi mai fo oedd "Brenin y Byd" ar 么l i'w gynhyrchiad Titanic ennill 11 gwobr Oscar ym 1997, teg dweud y bu cryn ddisgwyl am ei flocbystar nesaf.

Y rheswm, mae'n debyg, am yr hir aros oedd i'r dyn ei hun dreulio ymhell dros ddegawd yn datblygu'r dechnoleg 3D ddiweddara er mwyn cael gwireddu'r freuddwyd fawr gafodd ar ddechrau ei yrfa o gynhyrchu Avatar.

Planed Pandora

Dilyn dyn o'r enw Jake Sully (Sam Worthington) wnawn ni; milwr o'r dyfodol agos, sydd wedi cytuno i gael ei ddanfon i blaned bellenig Pandora i gynorthwyo gydag ymchwil wyddonol i'r trigolion lleol, y Nav'vi.

Daw'n amlwg bod i'r blaned hon st么r ddihysbydd o adnodd naturiol sydd ei angen i ddiwallu anghenion dybryd y Ddaear ac i 'Y Gorfforaeth' sefydlu cynllun mwyngloddio anferthol yno fyddai'n dinistrio coedlan gysegredig y Na'vi - creaduriaid glas, lled-ddynol, sy'n ystyried natur yn ganolog i'w diwylliant.

Diolch i gymorth gwyddonydd pigog, Dr Grace Augustine (Sigourney Weaver), caiff Jake - sydd mewn cadair olwyn ar 么l cael ei glwyfo ar faes y g芒d ac wedi teithio i Pandora 'r么l derbyn addewid y cai goesau newydd yn d芒l am ei wibdaith wyddonol - ei drawsnewid yn Avatar, neu ffurf sy'n cynrychioli aelod o'r Na'vi, er mwyn dod i'w hadnabod, a darganfod gwybodaeth fyddai o ddefnydd i'r Gorfforaeth, ac i'r fyddin o filwyr a pheiriannau sydd hefyd yno i ddechrau ar y dinistr mawr.

Dechrau holi

Yn naturiol, ar 么l cael ei dderbyn gan hil heddychlon y Na'vi, a threulio cyfnod sylweddol yng nghwmni merch i arweinydd y llwyth, Neytiri (Zoe Saldana), dechreua Jake gwestiynu i ba fyd mae o'n perthyn, gan gydymdeimlo ag ymgyrch y brodorion yn erbyn y dynion dienaid gaiff eu harwain i ryfel enbyd gan Colonel Miles Quaritch (Stephen Lang).

Mae'n stori gweddol syml ar un ystyr ac yn adlewyrchu'r tensiwn parhaol rhwng natur ein planed ni heddiw a buddiannau cyfalafol dynolryw.

Dinistr ein coedwigoedd trofannol mewn gwisg arall fydol yw canolbwynt y ffilm, wrth gwrs.

Yn ogystal a bod yn rhywbeth i'w ganmol mewn blocbyster Hollywood mae hwn hefyd yn benderfyniad strategol, ymarferol, gan fod y goedwig yn cynnig enghreifftiau di-ri o blanhigion a chreaduriaid sy'n dod yn fyw o'n blaenau diolch i'r effeithiau 3D.

Ond i mi aeth y cynhyrchiad dros ben llestri braidd trwy gynnig trosiad mor ddrudfawr o ddinistr ein planed ein hunain.

Gwario $300 niliwn

Mae na s么n i Cameron wario $300 Miliwn i greu Avatar, gan gynnwys comisiynu ieithegydd o Los Angeles i dreulio pum mlynedd yn creu iaith y Na'vi ond hyd y gwela i, yr unig bobol a w锚l unrhyw werth yn hynny ydy'r rhai hynny sy'n ystyried Jedi yn grefydd a Klingon fel ail iaith ddefnyddiol.

Hefyd, o ystyried mai dyma fy mhrofiad cyntaf o wylio ffilm 3D ac i mi gyffroi'n l芒n o dderbyn y sbectolau hud, siomedig braidd oedd y profiad mewn gwirionedd.

Yr unig beth fedra i riportio ydy imi brofi mwy o ddail na'r arfer yn siffrwd heibio 'nhrwyn er imi ddisgwyl llawer gwell na hynny!

Synnwn i ddim na fydd eraill yn anghytuno'n chwyrn 芒 hyn ond mae'n bosib bod y bobol hynny wedi arfer 芒 safon graffeg gemau cyfrifiadurol - maes sy'n apelio dim ata i.

A dweud y gwir, dwi'n cydymdeimlo'n llwyr 芒'r rhai hynny a fathodd is-deitl addas iawn i'r ffilm yn yr Unol Daleithiau, sef Dances with Smurfs.

Ac eithrio perfformiadau cryfion gan Sam Worthington (Terminator Salvation), Sigourney Weaver (cyfres Alien, ymhlith nifer o glasuron eraill), a Stephen Lang, yr argraff fwyaf adawodd y ffilm arna i oedd ei bod hi'n cynrhychioli cawdel o gyfeiriadau sinematig at ffilmiau yn cynnyws Dances With Wolves, Last of the Mohicans, Braveheart, ac Apocalypse Now.

Ar adegau, ymddengys Avatar yn groesbeilliad swreal o Aliens a Titanic, diolch i bresenoldeb robotiaid anferthol a thrac sain lled-Geltaidd gan James Horner, sy'n gwneud synnwyr perffaith gan i Cameron lywio'r ddau gynhyrchiad hynny i lwyddiant rhyfeddol.

Yr un llwyddiant

Mae'n bur debyg y gwnaiff y ffilm hon brofi'r un llwyddiant, serch ei hyd dychrynllyd, gan ei bod hi'n wir fod na rywbeth eitha arbennig am yr heip y tro hwn.

Yn sicr, os da chi'n ffans o gart诺ns, gemau cyfrifiadurol, a'r pibau Gwyddelig, byddwch wrth eich bodd.

Fel arall, fy nghyngor i fyddai hepgor Avatar, a rhentu unrhyw un o'r ffilmiau rhagorol eraill gafodd ddylanwad amlwg arni.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.