大象传媒

The Girl Who Played with Fire

02 Medi 2010

15Tair seren allan o bump

  • Y S锚r: Noomi Rapace, Michael Nyqvist.
  • Cyfarwyddo: Daniel Alfredson.
  • Sgrifennu: Addasiad Jonas Frykberg o'r nofel The Girl Who Played With Fire gan Stieg Larsson.
  • Hyd: 129 munud

Salander yn dal i deimlo'r gwres

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Mae Salander yn 么l! Rai dyddiau ar 么l cyhoeddi enw'r Americanes fydd yn ei chwarae yn fersiwn Hollywood o'r gyfres Millenium, agorodd The Girl Who Played With Fire - ail ffilm y saga o Sweden.

Dyn a 诺yr ai chwarae 芒 th芒n y mae Rooney Mara wrth ymuno 芒 Daniel Craig yn yr addasiad Saesneg o'r gyfres boblogaidd ond does dim dwywaith ei bod yn dilyn 么l troed actores sydd wedi derbyn s锚l bendith miliynau o selogion Salander - a'r Swedes o dras Sbaenaidd Noomi Rapace yw honno.

Cyn mynd ddim pellach, hoffwn sicrhau'r rhai hynny ohonoch fu'n byw ar y lleuad ers tair blynedd - ac felly'n gwbl ddiarth i'r nofelau ditectif anturus - nad yw hi'n angenrheidiol eich bod wedi darllen y cyfrolau i fedru mwynhau'r addasiadau ffilm.

Ond fe byddai'n dda o beth gwylio'r ffilm gyntaf yn y gyfres - The Girl With the Dragon Tattoo sy'n awr ar DVD - os am fwynhau'r dilyniant yn iawn.

Yn y ffilm honno daw y newyddiadurwr ymgyrchol Michael Blomquist a'i ymchwilydd anghonfensiynol Lisabeth Salander at ei gilydd i ddarganfod y gwir dychrynllyd y tu 么l i ddiflaniad merch ifanc ddeugain mlynedd yn 么l.

Ymhen blwyddyn

Bellach, mae blwyddyn wedi pasio ers y datguddiad dadlennol hwnnw a Blomquist yn ymchwilio'n awr i'r cysylltiadau cyfrin rhwng yr heddlu cudd a'r fasnach ryw yn Sweden.

Mae Salander, sy'n dal i fod dan warchodaeth swyddogol y wladwriaeth - a'r cyfreithiwr ysglyfaethus Nils Bjurman yn benodol - ar ffo ers tro ond o ddeall bod Bjurman yn esgeuluso ei ddyletswyddau daw yn 么l i'w atgoffa pwy yw'r bos - sy'n ei gythruddo ymhellach, a'i ysbrydoli i ffeindio hitman go handi i gael gwared 芒 hi a'i holl broblemau.

Yn anffodus iddo ef, caiff Bjurman a ph芒r priod oedd yn ymchwilio i'r fasnach ferched, eu llofruddio mewn gwaed oer a phan ddaw'r heddlu i holi ymddengys mai un enw yn unig sydd yn y ffr芒m; Lisabeth Salander.

O glywed hyn, caiff Blomquist ei sbarduno i ymgyrchu ar ei rhan a chanfod cysylltiad pendant rhwng ei waith ymchwil a'r marwolaethau erchyll hyn. Ond yn gyntaf, rhaid iddo ddarganfod pam bod grymoedd sinistr ar waith sydd am sicrhau y bydd Salander yn talu'n ddrud am chwarae 芒 than pan oedd hi'n ddeuddeg oed.

Gwybod mwy

I'r rheiny gafodd eu siomi gan Salt ac sy'n dymuno bach mwy o gig ar asgwrn prif gymeriad, dyma'r ffilm. Cawn wybod cryn dipyn am gefndir yr arwres anghymdeithasol o'i thueddiadau deurywiol i'r rhesymau pam ei bod yn dal dan warchodaeth y wladwriaeth yn ei hugeiniau hwyr a pham ei bod yn mynnu teyrngarwch di-gwestiwn criw dethol o ddynion, gan gynnwys Joe Calzaghe Sweden- Paolo Roberto!

Un o'r pethau mwyaf trawiadol am y ffilm - sy'n tyrchu ymhellach i anghyfiawnderau gan "ddynion sy'n cas谩u merched" - a defnyddio teitl gwreiddiol y nofel gynta - ydy dangos sut mae'r fasnach ryw ryngwladol yn llwyddo i ffynnu mewn gwlad orllewinol, gydwybodol, diolch i ddiffyg mawr mewn deddfwriaeth a dealltwriaeth o'r troseddau dan sylw .

Tanlinellir hyn yn go gynnil wrth gyfosod normalrwydd swbwrbaidd y "cwsmeriaid" cyffredin - mewn canolfan arddio neu'r parlwr gorau - 芒 throseddau tro毛dig gan gadarnhau bod y dynion hyn yr un mor atebol 芒'r gangmasters gwaetha'.

Ar adegau, mae tystysgrif 15 y cynhyrchiad yn teimlo'n annigonol gan fod iddo rannau arswydus iawn a rhaid cyfadde i mi sgrechian sawl gwaith; yn enwedig pan ddaeth un o elynion perycla Salander ar y sgrin - Ronald Niedermann - cawr o ddyn gwallt golau sy'n dwyn baddies gorau James Bond i gof.

Ar gyfer y teledu

Ond rhaid hyd yn oed i mi, fel un o gefnogwyr selocaf Salander, gyfaddef nad yw'r ffilm hon cweit gystal 芒'r gynta am ei bod - fel yr olaf yn y gyfres, The Girl Who Kicked a Hornet's Nest - yn ffilm a gynhyrchwyd ar gyfer y teledu.

Dydy hynny ddim i awgrymu ei bod yn gynhyrchiad gwael. I'r gwrthwyneb yn llwyr - mae'r un awyrgylch soffistigedig yn perthyn iddi 芒 phennod wych o Wallander ond, yn anffodus, mae slicrwydd hollbresennol y ffilm gynta gan Niels Arden Opley ar goll ac mae yna lawer gormod o gymeriadau ar gyfer cynhyrchiad sy ond ychydig dros ddwyawr o hyd.

A bod yn deg 芒'r sgriptiwr, aeth Jonas Frykberg i bellafion i sicrhau y byddai'r stori gymhleth hon yn gweithio ar ei ffurf weledol ond mae The Girl Who Played With Fire yn cynnwys golygfa "glo" sydd ymhlith y fwyaf agored i mi ei gweld erioed ac er fy mod i wedi darllen beth fydd ffawd y cymeriadau ro'n i'n dal i awchu am gael gweld be' sydd yn digwydd nesaf - rhywbeth na chaiff ei wireddu tan toc cyn y Nadolig.

Serch hyn oll, dwi'n dal i fynnu fod hon yn well o lawer na nifer o ffilmiau antur o'i bath, a diolch i ddefnydd helaeth o olygfeydd ar hyd strydoedd Stockholm mae'n llwyddo i ysbrydoli d么s go hegar o wanderlust hefyd. Tocyn unffordd i Arlanda os gwelwch yn dda!


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.