大象传媒

Invictus: barn Emyr Lewis ac Evan Morgan

Morgan freeman

Nia Roberts yn trafod y ffilm 'Invictus' gydag Emyr Lewis ac Evan Morgan ar 大象传媒 Radio Cymru

11 Chwefror 2010

Rhoddodd chwaraewr rygbi o Gymru wyth a hanner i naw allan o ddeg i'r ffilm Invictus a welodd gyda'i fab 14 oed.

Yr oedd Emyr Lewis yng ngharfan Cymru ar gyfer yr ornest Cwpan y Byd sy'n ganolbwynt Invictus a bu'n s么n am brofiad yno ac am y ffilm ar raglen Nia Roberts ar 大象传媒 Radio Cymru fore Mercher, Chwefror 10.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Gydag ef yn y stiwdio yr oedd y parchedig Evan Morgan a fu'n s么n am y gerdd sy'n deitl y ffilm.

Ymhlith y pethau yr oedd Emyr Lewis yn ei gofio am ei ymweliad oedd y tlodi aruthrol.

Soniodd hefyd am y cyfeillgarwch oedd wedi tyfu rhwng Fran莽ois Pienaar, capten De Affrica, a Mandela ac edmygedd y ddau tuag at ei gilydd a hynny'n cymharu a'r rhwyg a fodolai rhwng y gwynion a'r duon pan chwaraewyd yng Nghaerdydd cyn hynny.

Yn ystod yr ymweliad cyfarfu Nelson Mandela ac fe chwaraeodd sawl gwaith yn erbyn Fran莽ois Pienaar a chwaraeir yn y ffilm gan Matt Damon.

"Mae'r ddau yn gymeriad[au] hollol wahanol ond roeddwn yn gallu gweld bod rhywbeth cadarn am eu cymeriadau nhw," meddai.

"Mwynheais i hi'n fawr iawn," meddai am y ffilm, "achos roeddwn i'n gallu gweld pan oeddwn i mas na i ddechrau bant bod yna anniddigrwydd yn amlwg rhwng y duon a'r gwynion achos roedden nhw wedi cael eu herlyn am shwd gymaint o amser [ac] i gyd oedd ar feddwl y dynion du oedd i ddial . . .

"Nelson Mandela sydd wedi dod a'r genedl yna at ei gilydd a defnyddio chwaraeon yn y modd yma - defnyddio rygbi i geisio dod a'r genedl at ei gilydd a fel mae'r ffilm yn datblygu rydym yn gallu gweld bod hwnna yn digwydd yn ystod y bencampwriaeth," meddai.

Ond dywedodd nad oedd yn hapus ar y pryd mai'r Springboks enillodd.

"Oherwydd roeddwn i'n meddwl mai'r t卯m gorau oedd Seland Newydd heb amheuaeth. Nhw oedd yn chwarae'r rygbi gorau; maeddu bron bob t卯m o rhyw ddeugain o bwyntiau. Ond ar 么l gwylio'r ffilm a gweld y diweddglo rwy'n falch nawr taw De Affrica enillodd achos rwy'n credu, wrth iddyn nhw ennill, mae wedi uno y genedl," meddai.

Wrth drafod perfformiadau'r actorion yr oedd Evan Morgan ac Emyr Lewis o'r farn bod Morgan Freeman yn wych fel Mandela . "[Doedd] neb arall yn America i chwarae'r rhan mewn gwirionedd," meddai Evan Morgan ac ategodd Emyr Lewis ei fod "wedi crynhoi beth oedd Nelson Mandela bwyti".

Canmolodd y ddau ran yr actor o Gymro, Julian Lewis Jones, hefyd.

"Yr oedd e'n arbennig o dda," meddai Evan.

Bu'r ddau yn trafod y sibrydion gwenwyn bwyd a gafodd y Crysau Duon y noson cynt.

Cyfeiriodd Emyr Lewis fod Jonmo Lomo yn y ffilm "rhyw bedair st么n yn rhy ysgafn".

O gael ei holi am y cawr o asgellwr dywedodd:

"Mae e'n ddyn mor ffein ond sa chi eisiau dod yn ei erbyn e ar gae rygbi . . . roedd s诺n ei draed e'n taro'r ddaear. Roedd e mor fawr. Roedd e'n rhedeg can meter mewn llai nag unarddeg eiliad ac roedd e'n bedair st么n ar bymtheg.

"Roedd e'n anferth. Roedd e'n ddyn anhygoel. Candidate for a cage oeddwn i'n i alw e," meddai.

Cytunodd y ddau bod Invictus yn ffilm i rai heb diddordeb mewn chwaraeon hefyd ei mwynhau a rhoddodd Evan naw allan o ddeg iddi ac Emyr wyth a hanner i naw allan o ddeg.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.