- Y S锚r: Tom Cruise, Cameron Diaz
- Cyfarwyddo: James Mangold.
- Sgrifennu: Patrick O'Neill.
- Hyd: 109 munud
Cynnig arall wedi 'Vanilla Sky'
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Pryd welsoch chi ram-antur gomig rygwladol ddwetha?
Os maddeuwch chi imi am anghofio Killers gydag Ashton Kutcher a Katherine Heigl yn gynharach eleni - a byddai'n talu i chwithau wneud yr un peth - rhaid dychwelyd i 2005 pan ddaeth y siwpyrnofas sinematig, Brad Pitt ac Agelina Jolie, ynghyd i greu gwreichion godinebus yn y cynhyrchiad canolradd Mr & Mrs Smith.
Os gallwch chi gofio'r cyfnod CB (Cyn Brangelia) fe drigodd dau seren arall yn y ffurfafen oedd eto i'w heclipsio ar y pryd.
Cyn difetha ei yrfa gan Xenu a soffa Oprah, roedd Cruise yn dal mewn rheolaeth diolch i'r gyfres Mission Impossible a phrofodd ffilmiau fel There's Something About Mary a Charlie's Angels nad oedd na'r un ferch i gystadlu 芒 Cameron Diaz am y cyfuniad o ysgafnder comig a bikini-bod.
Syniad da
Ni phrofodd yr un ohonynt lwyddiant ysgubol ers dechrau'r Dim-Dimau - pan rannodd y ddau'r sgr卯n yn Vanilla Sky - ac felly, yn ddiweddar, dyma daro ar syniad o aduniad a fyddai'n debyg o ddangos y ddau ar eu gorau yn un o flocbysters mwyaf cwyrci 2010.
Dyna - yn ei hanfod - gefndir y cynhyrchiad Knight and Day, ac i fod yn deg, doedd o ddim yn syniad rhy ff么l. Ond byddai wedi elwa o barhau ar y berw
Mae'r ffilm yn agor wrth i ddau gymeriad daro ar ei gilydd ar ddamwain ym maes awyr Witchita, cyn cyfarfod eto ar awyren i Boston.
Adferwraig hen geir yw June Havens (Cameron Diaz) ac ar ras i gyrraedd adre ar gyfer paratoadau priodas ei chwaer.
Ond fel un sy'n ffoli ar ffawd, mae hi'n gwirioni ar ddoethinebau'r dieithryn enigmatig Roy Miller (Tom Cruise gan ddyheu am y cyfle i'w adnabod yn well.
Tra bo'r eneth eiddgar yn ymbincio yn y bathrwm, down i ddeall bod mwy i'r dieithryn hwn na llinellau slic a gw锚n gawslyd ond ei fod hefyd yn ysb茂wr ar ff么 rhag gelynion oherwydd bod yn ei feddiant declyn all achub y byd.
Gyda'r June ddiniwed mewn peryg, caiff Roy wared 芒'r dihirod mewn chwinciad chwannen ac erbyn iddi ddychwelyd i'w sedd yn barod am sws, mae yntau wrth lyw'r awyren yn paratoi i lanio mewn cae o 欧d.
O hynny mlaen, datblyga'r ffilm yn helfa ryngwladol, wrth i Roy hudo June i gyfres o leoedd yn Awstria, Sbaen a'r Azores er ei diogelwch ei hun.
Does dim llawer o bwrpas datgelu rhagor rhag sbwylio'r stori i'r rheiny sy'n mwynhau'r saga hyd yma .
Digon yw dweud i'r ffilm fynd ar chw芒l ar 么l cychwyn mor gadarn ond ei bod yn parhau i adlonni, os nad ein gwefreiddio, tan y diwedd un.
Mae'r pwynt ola ma'n peri dryswch llwyr ag ystyried uchelgais- a chyllid - cynhyrchiad mawr o'r fath.
Yr hyn sydd o blaid Knight and Day ydy dau brif actor sy'n cael llond trol o hwyl am ben eu delweddau eu hunain - y naill fel Control-Freak a'r llall fel y ditz - a chawn ninnau'n diddanu heb gael ein diflasu'n ormodol am ychydig dan ddwyawr.
Rhaid dweud bod yr hiwmor swreal a geir drwyddi draw yn llwyddo i gydbwyso'r ffrwydradau ffantastig, wrth i Cruise chwarae psycho gor-ystyriol sy'n cymryd pob cyfle i ganmol 'rhen June rhwng pob cyflafan.
Ond yn dilyn cynyrchiadau antur fel Casino Royale a thrioleg Bourn - sy'n cyfuno gorddos o adrenalin 芒 chwistrelliad o chwant - rhaid gofyn i ba raddau y gall ffilm fel hon ychwanegu hiwmor swreal at y potes heb golli'i momentwm yn llwyr, yn arbennig pan nad oes dihiryn amlwg i'w ofni.
Un llwyddiant
Dim ond un cynhyrchiad y galla i feddwl amdano lwyddodd i gyfuno'r cynhwysion hyn oll mewn ffordd gynnil a meistrolgar, a Grosse Pointe Blank (1997) oedd hwnnw, comedi dywyll lawer llai uchelgeisiol, am hitman sy'n cyfuno ymweliad 芒'i aduniad ysgol gydag "un swydd olaf".
Y gyfrinach y tro hwnnw - fel ag yn achos pob ffilm lwyddiannus - yw sgript gadarn, a pherfformiadau cofiadwy, gan ddau actor ag iddynt gemeg cwyrci ond hoffus, John Cusack a Minie Driver.
Rwy'n tybio nad cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith fod sgript Knight and Day yn eiddo i Patrick O'Neill- cyw-awdur actiodd ran fechan yn y cynhyrchiad cynharach hwnnw- ac i'w brofiad ei ysbrydoli i sgwennu teyrnged o fath.
Wel, os oes amser gennych i blymio i dwll du anobaith s锚r difflach, gwyliwch Knight and Day ar bob cyfri - ond fy nghyngor i fyddai ichi brofi seren wib go sbesial sydd wedi llwyddo i gadw'i sglein.