Adolygiad gan Glyn Evans
Actorion: Sandra Bullock, Ryan Reynolds, Betty White.
Cyfarwyddo: Anne Fletcher.
Sgrifennu: Pete Chiarelli.
Hyd: 108 munud.
Mae'r llun ar y poster yn dweud y cyfan - bron. Dyn wedi ei wthio a'i gefn yn dynn yn erbyn wal ac o'i flaen merch bwerus ei gwedd yn dal blwch modrwy dan ei drwyn.
Y dyn ydi Andrew Paxton (Ryan Reynolds) a'r ferch yw'r ddraig o ddynes y mae'n gweithio iddi, Margaret Tate (Sandra Bullock).
Yn y ffilm Bullock yw'r gelyn o Ganada sy'n rhedeg cwmni cyhoeddi yn Efrog newydd lle mae pob gweithiwr arall yn byw mewn ofn ohoni.
Gan gynnwys ei chynorthwydd personol a gwas bach, Reynolds, sy'n cydymffurfio a phob gorchymyn o'i heiddo waeth pa mor ddifr茂ol.
Pan yw'n cyrraedd y swyddfa mae'r staff yn e-bostio'i gilydd gyda'r geiriau "It's coming" a "The witch is on her broom".
Golygfa, yn wir, sy'n ein hatgoffa gymaint o ddyfodiad Meryl Streep ar gychwyn The Devil Wears Prada y gallent fod yn gopi ohonynt.
Adlais ffilmiau eraill
Yn wir mae llawer yn y ffilm hon sydd yn adlais o ffilmiau eraill. Cymaint fel y disgrifiwyd hi gan un adolygydd fel ffilm "torri a gludo" mor amddifad yw hi o wreiddioldeb.
Ond mwy am hynny yn y munud.
Mistar ar y fistras
Yn fuan iawn yn y ffilm gwelir bod mistar ar Mistras Mostyn ac mae awdurdodau'r Unol Daleithiau ar fin anfon Margaret Tate yn 么l i Ganada am flwyddyn a'i hamddifadu o'i swydd oherwydd amryfusedd yngl欧n 芒'i visa.
Ei hateb sydyn hi i'r argyfwng hwnnw yw gorchymyn Andrew Paxton i'w phriodi. Mae yntau mor ddiasgwrn cefn ag i ufuddhau i'w gorchymyn er mwyn diogelu ei ddyfodol.
Er mwyn argyhoeddi'r awdurdodau rhaid cymryd camau ar frys i baratoi ar gyfer y briodas bapur gydag ymweliad 芒 rhieni Andrew yn Sitka, Alaska, - a ffilmiwyd yn Rockport, Massachusetts, mewn gwirionedd.
Mae sawl peth yn y cyfarfyddiad 芒 rhieni Andrew i'n hatgoffa o Meet the Parents ond bod cath bersian Robert DiNiro yn awry n gi bach gwyn a blewog Joe a Grace Paxton (Mary Steenburgen a Craig T Nelson).
Er yr wyneb serchus a gyflwynir i'r awdurdodau mae'n gas gan 'y ddau gariad' ei gilydd mewn gwirionedd - ond mewn ffilmiau o'r fath dydi'r hen ymadrodd am gariad yn tyfu o gicio a brathu byth yn bell o gof sgriptwyr ac mae'n agos iawn at benelin Pete Chiarelli.
Nid fy lle i ydi datgelu a fydd yr hyn a debygwn yn digwydd ynteu a fydd y stori yn gwyro oddi ar ei llwybr tebygol wrth i Andrew gyfarfod eto 芒'i hen gariad, Gertrude, (Malin Akerman) a wrthododd ei briodi a symud gydag ef i Efrog Newydd dair blynedd ynghynt.
A beth am y berthynas gecrus rhwng Andrew a'i dad? Ac a fydd y nain 90 oed, Granny Annie (Betty White 87 oed) yn achub y dydd ynteu'n marw o drawiad ar y galon ar yr ennyd dyngedfennol?
Os gwelsoch chi ffilm o'r blaen . . . Yn enwedig os gwelsoch chi'r un ffilmiau 芒 Pete Chiarelli ac Anne Fletcher.
The Proposal - wast ar amser felly?
Rhoswch funud, nid criw The Proposal sgriptiodd yr adolygiad hwn!
Na, diolch yn bennaf i Sandra Bullock a Ryan Reynolds a'r gwrthdaro rhyngddyn nhw mae rhywbeth yn slic, yn annwyl ac yn bleserus iawn am y ffilm hon.
Mae hefyd yn symud yn dda ac mae'r actorion eraill hefyd yn gwneud diwrnod teg o waith gan beri inni anghofio'r diffyg gwreiddioldeb a'r darnau set.
Mae golygfeydd gwirioneddol fendigedig megis brwydr Bullock, y ci a'r eryr; y dawnsiwr erotig (Oscar Nunez) a Bullock yn byrddio'r cwch.
Gwell na da
Yn wir, mae Bullock yn well na da - heb fod cystal ers Miss Congeliality yn 么l rhai.
Mae'n argyhoeddi fel y bos o rew sy'n sacio dyn 芒 brawddegau sydd mor ddiemosiwn a gwydr. Mae'n argyhoeddi fel y ferch o'r ddinas yn unigeddau Alaska - er nad ydi Sitka, mewn gwirionedd, mor ddinabman a'r argraff a roddir yma yn 么l y rhai sy'n gwybod ac, yn sicr, dydi o ddim mor agos i gylch yr Arctig ag iddi fod yn olau dydd drwy'r nos yno.
Mae'n argyhoeddi wrth ddadebru a chynhesu.
Ac yn hyfryd mewn golygfa hanner noeth gyda Reynolds.
Efallai na fydd The Proposal yn ennill nac Oscar nac unrhyw wobr arall ond mae'n bleser pur i'w gwylio. Yn ffroth ac yn swigod. Yn gynhesrwydd ac yn sentiment. Yn hen hwyl iawn sy'n mynd i drethu meddwl na dychymyg neb.
Diolch Sandra. Diolch Andrew. Fyddai o ddim yn syniad ff么l ichi wneud yr un peth eto - er imi ddarllen i Sandra Bullock ddweud dro'n n么l na fyddai hi'n gwneud yr un ffilm rom-com byth eto am mai rybish ydyn nhw.
Ond yr oedd hynny cyn iddi gael cynnig The Proposal yn 么l y s么n.