- Y S锚r: Anna Wintour, Grace Coddington, Siena Miller, Mario Testino, Andre Leon Talley.
- Cyfarwyddo: R.J. Cutler.
- Hyd: 86 munud
Y Gymraes yn nheyrnas Vogue
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Pur anaml fydda i'n rhoi sylw i DVD newydd, gan fod y rhan fwyaf o ffilmiau gwerth chweil yn cyrraedd y sinema yn gyntaf.
Yn achos The September Issue, fodd bynnag, ni chafodd y ffilm ddogfen ei rhyddhau o gwbl yng Nghymru, ond fis yn unig ers ei 辫丑谤别尘颈猫谤别 mawreddog yn Efrog Newydd, mae hi ar gael i'w phrynu a'i gwylio gartref.
Mae hi'n un o'r ffilmiau dogfen difyrraf i mi ei gweld eleni ac yn werth rhoi sylw iddi gan fod y cynhyrchiad - sy'n dilyn y paratoadau ar gyfer rhifyn Vogue mwya'r flwyddyn, dan arweiniad y golygydd Machiaveliaidd, Anna Wintour, yn ein cyflwyno i Gymraes ddiddorol iawn.
Tensiwn, br芒d a chomedi!
Yn gyntaf oll, hoffwn bwysleisio nad ffilm i fashonistas yn unig yw hon. Mae The September Issue yn cystadlu 芒 gweithiau gorau Shakespeare diolch i olygfeydd llawn tensiwn, br芒d, comedi a ffars, oll wedi'u gosod o fewn muriau llys La Wintour.
Mae'r ffilm yn canolbwyntio'n bennaf ar y chwe mis arweiniodd at rifyn Medi 2007 o'r Vogue Americanaidd, a'r holl waith yngl欧n 芒 hynny o fynychu wythnosau ffasiwn Efrog Newydd, Paris, Llundain a Milan, hyd at ddewis prif them芒u tymor yr hydref, penodi cynllunwyr a ffotograffwyr i wireddu'r weledigaeth, a chanlyn yr hysbysebwyr hollbwysig, sy'n cyfrannu at faint anferthol y rhifyn blynyddol.
Cynrychiolir amrywiaeth o bersonoliaethau cryfion, sy'n cystadlu am sylw - a bendith - y golygydd, o gynllunydd profiadol fel Stefano Pilati (Yves Saint Laurent) i un cwbl dibrofiad fel Thakoon; y ffotograffwyr byd-enwog Mario Testino a Patrick Demarchelier, a'r is-olygydd dylanwadol Andre Leon Talley, cawr croenddu sydd wrth ei fodd gwisgo clogyn.
Wyneb y rhifyn
Cawn hefyd weld sut y caiff yr actores Siena Miller ei phenodi'n wyneb y rhifyn dan sylw, sefyllfa sy'n cynnig mewnwelediad ddiddorol i'r tensiynau byw sy'n bodoli ymhlith staff y cylchgrawn yngl欧n 芒 phwyslias Wintour ar ddyrchafu selebs uwchlaw'r ffasiwn.
Yn wir, mae'r golygfeydd sydd yn cyfeirio at Miller ymhlith y rhai doniolaf - a'r creulonaf.
Mae'n wyrth, yn wir, iddi fynychu'r 辫谤别尘颈猫谤别 o gwbl ond dyna ni, mae unrhyw gyhoeddusrwydd yn gyhoeddusrwydd gwerthfawr yn y g锚m hon.
O ran portread y cynhyrchiad o Anna Wintour, y cyngor gorau yw anghofio perfformiad ysgubol Meryl Streep fel Miranda Priestly yn The Devil Wears Prada (2006) - cymeriad a ysbrydolwyd gan olygydd Vogue ac a addaswyd o nofel Laura Weisberger yn seiliedig ar ei phrofiad yn cynorthwyo Wintour am flwyddyn.
Mae "Nuclear Wintour" ei hun yn gymeriad sydd hyd yn oed yn fwy dychrynllyd o oeraidd yn y cnawd ond yr hyn sydd yn ddiddorol yw bod y ffilm yn dangos pam fod angen meddwl busnes chwim a phenderfynol ar arweinydd diwydiant sydd yn cynhyrchu biliynau o ddoleri yn flynyddol.
Mae'n amlwg o'r ffilm fod ganddi ddylanwad pellgyrhaeddol ym mhob agwedd o'r diwydiant anferthol hwn a'i bod yn gweithio'n ddiflino i gynnal ei safonau uchel ei hun.
Yn ferch i gyn olygydd yr Evening Standard, Charles Wintour, daw'n glir ei bod yn cymryd ei chyfrifoldeb fel capten llong Vogue o ddifri ac yn ymwrthod yn llwyr 芒'r rhagfarn gyffredinol mai ffwlbri ffuantus yw ffasiwn yn y b么n.
O Ynys M么n
Wintour, heb os, sydd yn cynrychioli ymennydd y cynhyrchiad ond does dim dwywaith pwy sy'n cynrychioli calon y ffilm - Grace Coddington, sef prif gynllunydd y cylchgrawn.
Ac o Fae Trearddur, Sir F么n y daw hi yn wreiddiol. Gadawodd Gymru am Lundain yn 18 oed yn y Chwedegau ar 么l ennill cystadleuaeth modelu gyda Vogue cyn i ddamwain car ei harwain i yrfa lwyddiannus y tu 么l i'r camer芒u.
Cai'r Gymraes drawiadol ei phortreadu fel cyfuniad o fam i bawb a brwydwraig ffyrnig - yn enwedig pan gaiff ei gwaith celfydd ei diddymu'n ddidostur gan y Wintour wrachaidd.
Yn wir, rhwng y ddwy y mae tensiwn mwyaf diddorol y cynhyrchiad - y naill a'i bob llym a sbectolau haul hollbresennol a'r llall a'i chyrls coch yn fframio wyneb cwbl ddi-golur.
A chaiff eu cefndiroedd a'u gweledigaethau gwahanol eu cyfosod yn ddestlus gydol y ffilm.
Mae'n glir, fodd bynnag, bod parch mawr rhwng y ddwy diva ac eiliad mwyaf teimladwy'r ffilm, i mi yn sicr, oedd y golygydd galon-galed yn cyfeirio at Grace y Gymraes fel athrylith wrth ei gwaith.
Prawf, yn wir, fod y 'cynhesu bydeang' wedi cyrraedd swyddfeydd gaeafol Vogue!