大象传媒

Shame

Carey Mulligan yn Shame

18 Tachwedd 2011

Adolygiad Lowri Haf Cooke o Shame efo carey Mulligan yng Ng诺yl Sountrack, Caerdydd, 2011

18Pedair seren allan o bump

  • Y S锚r: Michael Fassbender, Carey Mulligan.
  • Cyfarwyddo: Steve McQueen.
  • Sgrifennu: Steve McQueen ac Abi Morgan.
  • Mae hi'n ddwy flynedd ers i 糯yl Ffilm Rhyngwladol Soundtrack gael ei chynnal yng Nghaerdydd , a dwi'n dal i gofio'r wefr o weld clasur o ffilm agoriadol, The Red Shoes gan Powell a Pressburger, cyn cael fy llorio'n llwyr gan wychder Separado gan Dyl Goch a Gruff Rhys.

    Eleni, gyda thoreth o ffilmiau a'u pwyslais ar gerddoriaeth, y gyntaf i greu argraff oedd Shame gan yr artist o Loegr, Steve McQueen.

    Y tro dwetha i mi weld ffilm gan y cyfarwyddwr hwn bu'n rhaid gadael y sinema 芒 mhen dan gwfl ar 么l colli cymaint o ddagrau tua'i therfyn. Afraid dweud, roedd gwylio Hunger - ffilm ragorol am hanes y gweriniaethwr Gwyddelig Bobby Sands, a ymprydiodd i farwolaeth yng ngharchar y Maze, Belffast, ym 1981 - yn brofiad dirdynnol tu hwnt.

    Nid wylo wnes i ar ddiwedd ei ffilm ddiweddara, ond roedd fy ymateb i Shame - sef ffilm a chanddi destun pur wahanol - yr un mor bwerus.

    Mae'n dilyn hanes Brandon (Michael Fassbender), dyn sengl a soffistigedig yn ei dridegau sydd yn byw bywyd delfrydol yn Efrog Newydd.

    Mae ganddo swydd gyfrifol ym myd busnes ac yn byw mewn fflat braf a golygfa wych o'r ddinas ac yn denu merched yn ddi-drafferth.

    Ond y mae Brandon yn meddu ar gyfrinach y mae ganddo gywilydd mawr ohoni - mae e'n gaeth i ryw, i'r graddau fod hynny'n amharu ar ei fywyd ac yn ei arwain at y dibyn pan ddaw ei chwaer, Sissy (Carey Mulligan) , i aros ag ef.

    Hynod ddadlennol

    Dyfnheir ein dealltwriaeth o'i obsesiwn eithafol ar hyd y cynhyrchiad ond cawn gip hynod ddadlennol tua dechrau'r ffilm pan welwn ef yn syllu i fyw'r camera o'i wely gwag, yn anwybyddu galwadau argyfyngus ei chwaer yn dilyn noson yng nghwmni putain.

    Ar y tr锚n i'r gwaith yn nes ymlaen, caiff ei lygaid gleision eu denu gan ferch walltgoch hardd ac fe'i gwylia'n ofalus am yn hir.

    I ddechrau, mae'r ferch yn ymateb yn ffafriol, gan wrido mewn pleser dan sylw'r dieithryn golygus ond ymhen tipyn, try'r ennyd erotig yn atraith annifyr ac fe saif ar ei thraed i adael gan arddangos ei modrwy briodas yn glir.

    Mae'n ei dilyn trwy brysurdeb yr orsaf dan argraff wahanol nes iddo'i cholli hi a gorfod dychwelyd i'r tr锚n yn llawn rhwystredigaeth.

    Golygfa sy'n para llai na phum munud yw hon ond diolch i linynnau epig y trac sain trydanol a llonyddwch y camera wrth iddo'i gwylio o bell, caiff y gynulleidfa ei denu yn syth i'w fyd a'i feddylfryd gan uniaethu'n llwyr 芒'r stori garu wyrdroedig a hynod drasig hon.

    Yn amlwg, mae pethe'n poethi, ac mae llond lle o olygfeydd amrwd ar hyd y ffilm hon sydd yn egluro'r tystysgrif 18.

    Ond yn yr eiliadau mwyaf eithafol - ac effeithiol - mae'r camera'n mynnu canolbwyntio ar wynebau ac ystumiau bychain sy'n datgelu breuder ingol a'r angen sydd gan bobol i gysylltu ag eraill - am bleser yr eiliad, ac i geisio canfod rhyw fath o ystyr i flerwch mawr bywyd.

    Yn ysgubol

    Mae Michael Fassbender yn gwbl ysgubol fel Brandon ac yn dod 芒 chryn dipyn o empathi ac onestrwydd i ran y gallai rhywun arall fod wedi ei chwarae fel American Psycho go sinistr.

    Enillodd y Gwyddel o dras Almaenaidd - a ddarbwyllodd yn llwyr fel Bobby Sands yn Hunger yn 2008 - wobr yr Actor Gorau yng Ng诺yl Ffilm Fenis eleni, a byddai'n wych i'w weld yn ennill rhagor dros y tymor gwobrwyo pe bai'r beirniaid yn fodlon gweld tu hwnt i'r pwnc dadleuol.

    Y mae Carey Mulligan, o dras Cymreig, hefyd yn creu argraff fel y chwaer fywiog ond hynod fregus, yn dilyn rhan tipyn mwy llonydd yn Drive, ac mae'r olygfa lle mae gofyn iddi ganu New York, New York mewn arddull blues mewn bar yn uchafbwynt sicr.

    Y gerddoriaeth

    Y mae'r gerddoriaeth wreiddiol hypnotig gan Harry Escott yn gwrthgyferbynnu'n dda 芒 thraciau oeraidd a dinesig gan Blondie a hoff ddarnau Brandon gan Bach - ac yn gweithio'n wych gyda'r cyfarwyddo gofalus , gan helpu i hoelio'r sylw tan yr olygfa amwys olaf.

    Ceir awgrym cynnil fod gan y brawd a'r chwaer gefndir teuluol reit gymhleth ond mae hynny'n wir am nifer fawr o bobol. Ar y cyfan, mae'r ddau'n dilyn bywydau cyfoes go gyffredin, ac mewn byd lle mae'r we a rhwydweithiau cymdeithasol wedi dod i chwarae rhan mor ganolog , a phriodas bellach yn sefydliad mor frau, mae'n debyg y bydd nifer yn cydymdeimlo i ryw raddau 芒 sefyllfa o'r fath.

    Serch y teitl awgrymog, dydy'r camera ddim yn beirniadu Brandon o gwbl, a dyna sydd yn gwneud Shame yn ffilm mor ddiddorol, a grymus dros ben.

    Bydd Shame allan Ionawr 13 .


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.