- Y S锚r: Nicolas Cage, Jay Baruchel, Alfred Molina, Teresa Palmer, Toby Kebbell, Omar Benson Miller, Monica Bellucci
- Cyfarwyddo: Jon Turteltaub.
- Hyd: 111 munud
- Hefyd: The Last Airbender gan M Night Shyamalan gyda Noah Ringer, Dev Patel a Nicola Peltz. PG. 103 munud.
Bendar a phrentis
Adolygiad Glyn Evans
Mae The Sorcerer's Apprentice yn ffilm hwyliog sy'n cychwyn n么l yn nyddiau Myrddin ddewin ac yn dod i ben ym Manhattan yr Unol daleithiau y dwthwn hwn.
Ar gychwyn y ffilm eglurior sut yr oedd gan Myrddin - barfog, llaeswisg ddoeth yr olwg ond yn un na fyddai'r rhai sy'n gyfarwydd a'r chwedlau Cymreig am Fyrddin yn gyfarwydd ag ef - dri disgybl neu brentis, Balthazar (Nicolas Cage), Horvath (Alfred Molina) a Veronica (Monica Bellucci).
Ond fe y digwyddai yr adeg honno mae un, Horvath, yn cael ei ddenu i'r ochr ddu, ac yn hudo Veronica i'w ganlyn, yn weision u Morgana (Alice Maude Krige) sydd bob tamaid mor drwg ag yw Myrddin o dda.
Gyda'r tri yn cael eu caethiwo mewn llestr, nid annhebyg i'r doliau Rwsaidd hynny, y matryoshka eglurir y bydd yn rhaid disgwyl treigl y canrifoedd nes geni yr unig un all drechu Morgana a sicrhau goruchafiaeth y Da dros y Drwg.
Ac yn lle arall ond Manhattan 2010 fyddech chi'n dod o hyd i'r dewin hwnnw a elwir yn "Prime Merlinian.
Myfyriwr ffiseg ifanc o'r enw Dave Stutler sydd mewn cariad a merch benfelen ddeniadol na allaf gofio ei henw dim ond ei gw锚n a'r diffyg syndod ar ei hwyneb wrth iddi gael ei thynnu i'r helynt.
Ef, Dave, sy'n gyfrifol am ryddhau'r triawd o'r matryoshka a rhoi penrhyddid i Horvath a Veronica daenu gwae, dinistr a th芒n.
Ef yw prentis Balthazar yn y teitl
Gyda ffrwydrad bob yn ail mellten a mellten bob yn ail gair gallwch ddychmygu beth sy'n digwydd wrth i'r ffilm garlamu'n hwyliog a chyda rhywfaint o hiwmor hefyd tua'i diweddglo anorfodn pleserus o sinema a ddisgrifiwyd gan un adolygydd fel cymysgedd o The |Karate Kid a Harry Potter ond yn llawer mwy hwyliog na hwnnw.
Yr ydych chi'n medru dweud bod Nicolas Cage wrth ei fodd gyda'i wallt yn gaglau wedi'u llifo ac yn gwsgo c么t ledr laes a het y byddai cowboi yn ffeirio'i sbardunau amdani.
Mae Baruchel hefyd yn argyhoeddi hefyd fel y prentis damweiniol ond hynod wybodus a go brin bod angen dweud fod Alfred Molina yn ddihiryn hyfryd.
Ond na thwyllwn ein hunain fod The Sorcerer's Apprentice yn unrhyw beth mwy na hwyl a chynnwrf munud awr. Llif Awst cwbl draddodiadol o ffilm gyda golygfa o'r ffilm Fantasia yn cael ei hail greu gydag ysgubau go iawn y tro hwn yn rhan o'r hwyl.
Fel fflamia
Un peth sy'n sicr, mae'n dipyn mwy o hwyl na'r ffilm ffantasi arall gyrhaeddodd y sinema yr un pryd, The Last Airbender gan M Night Shyamalan sydd allan o ffafr 芒'r beirniaid ers sawl ffilm bellach.
Yn y ffilm hon, a saethwyd - am swm o arian a fyddai'n eich dychryn fwy na'r ffilm - yn Seland Newydd, Yr Ynys Las a'r Unol Daleithiau mae'r byd yn wynebu difodiant trwy law Cenedl y T芒n - y Fire Nation - sydd a'i bryd ar reoli'r bydysawd.
Dim ond Anag yr Airbender a waterbender dlos o rewdir pegwn y de sy'n darian rhwng gwareiddiad a dinistr.
Ac mae'n nhw'n mynd ati fel fflamia i wneud hynny os maddeuwch yr ymadrodd.