- Y S锚r: Anton Yelchin, Bruce Greenwood, Chris Pine , Eric Bana, John Cho, Karl Urban, Leonard Nimoy, Simon Pegg, Winona Ryder, Zachary Quinto, Zoe Saldana.
- Cyfarwyddo: J J Abrams.
- Sgwennu: Roberto Orci ac Alex Kurtzman.
- Hyd: 126 munud
Ymhlith y s锚r
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Gwell dechrau gyda chyfaddefiad; mae'n gas gen i wyddonias, a dwi ymhell o fod yn Trekkie, ond rhaid dweud i hysbyseb y ffilm Star Trek ddiweddara fy nenu i ailystyried fy rhagfarnau rhonc yn erbyn ffilmiau sci-fi.
Y cwestiwn mawr oedd gen i felly wrth fynd i weld cynhyrchiad y cyfarwyddwr JJ Abrams oedd ai dyma enghraifft arall o drailer dau funud yn rhagori ar ddwyawr o gyffro galaethol?Siomi'r ochr orau
Rhaid dweud, ar y cyfan, imi gael fy siomi ar yr ochr orau.
Mae pum munud cynta'r ffilm yn gywasgiad o antur, hiwmor a llond llong ofod o emosiwn, a rhywsut yn sefydlu yr hyn fethodd y gyfres deledu wreiddiol o'r Chwedegau - yn ogystal 芒'r chwe ffilm a gynhyrchwyd rhwng y Saithdegau a'r Nawdegau - i'w wneud, sef cyflwyno cefndir y Capten James Tiberius Kirk.
Yn wir, rhaid pwysleisio mai'r syniad o archwilio cefndir y cymeriadau gwreiddiol ddenodd Abrams - cynhyrchydd uchel ei barch yn y byd teledu Americanaidd am sefydlu'r raglen ddrama high-concept, Lost - i gyflwyno adweithiad o un o'r cyfresi mwyaf llwyddianus erioed.
Aberthu ei hun
Mae'r ffilm yn dechrau gyda hunanaberth y Capten George Kirk wrth iddo arbed ei wraig a'i blentyn newydd anedig rhag cael eu lladd gan griw o Romulaniaid - prif elynion y Starfleet, sef rhyw fath o Genhedloedd Unedig bydysol - yn dilyn diddymiad eu planed.
Ymddengys mai Vulcan o'r enw Spock yw eu prif darged, a'u bod nhw wedi teithio o'r dyfodol i'w rwystro ef rhag dinistrio eu cartref.
Plentyndod anodd
Symudwn yn gyflym o'r sefyllfa enbydus hon yn y gofod pell i wastatir amaethyddol yn Iowa - cae chwarae'r glaslencyn anystywallt Jim Kirk - wrth iddo rasio yn erbyn heddwas at ddibyn clogwyn yng nghar ei ewyrth, cyn carlamu mlaen rhyw ddegawd at ffrae mewn bar rhwng criw o is-raddedigion o academi Starfleet a'r un cymeriad gwyllt, James T Kirk.
Caiff ei berswadio gan un o'r capteiniaid i ymuno 芒 phrifysgol Starfleet, ac yno daw wyneb yn wyneb 芒 Spock, un o s锚r mwyaf disglair yr academi anrhydeddus.
Gwyddwn ei fod yntau hefyd wedi profi plentyndod anodd oherwydd ei gefndir cymhleth - ei drin yn israddol am bod ei fam o'r hil ddynol ond ei dad yn Vulcan - a thros y ddwyawr nesa profwn sut y daw'r ddau gymeriad gwrthgyferbyniol yma'n ffrindiau pennaf, yn wyneb pob math o rwystrau, gan gynnwys Romulaniaid blin, draig goch ddychrynllyd, capteiniaeth yr USS Enterprise, a ieithegydd atyniadol o'r enw Uhura.
Cawn hefyd gwrdd ag aelodau eraill y t卯m, gan gynnwys Chekov, Sulu, "Bones" McCoy a Scottie, a wyneb cyfarwydd iawn o'r gorffenol - sydd wedi teithio o'r dyfodol i fod o gymorth i Kirk er mwyn sicrhau llwyddiant yn erbyn y Romulaniaid.
Andros o hwyl
Rhaid dweud bod yna andros o hwyl i'w gael o ddod i adnabod y cymeriadau eiconig hyn. Yn wir, rhaid canmol y sgript ffraeth ac amseru comig yr holl actorion, yn enwedig Chris Pine, sydd yn hoffus iawn fel Kirk, a Zachary Quinto - fydd yn gyfarwydd i nifer fel y Sylar sinistr yn y gyfres Heroes - fel Spock spot-on.
Yn anochel, ceir ambell in-joke ond yn wahanol i adweithiadau llai llwyddiannus o gyfresi teledu'r Chwedegau a'r Saithdegau , mae'n braf gweld nad bwriad y Star Trek yma yw plesio'r Trekkies yn unig, neu'n waeth byth, ei bod hi wedi'i seilio'n gyfangwbl ar haenen drwchus o eironi kitsch.
Mae parch at y cymeriadau fel ag y maen nhw a hynny'n arbed sinigiaid sci-fi y gynulleidfa rhag cael eu dieithrio'n llwyr.
Stori antur
Mae yma stori antur wirioneddol afaelgar ar adegau a chalon emosiynol.
Yn bersonol, collais rywfaint o ddiddordeb ar 么l yr awr gyntaf hynod gyffrous, yn enwedig o ddeall mai prif n么d ein harwyr oedd cyflawni'r un hen her, sef achub y bydysawd rhag nytars lloerig, a hynny'n bennaf trwy wasgu botymau a gwthio'r clytch i warp-speed. Ond beth fyddai Star Trek heb hynny?