大象传媒

Terminator Salvation (2009)

Terminator

12ATair  seren a hanner!

  • Y S锚r: Christian Bale, Sam Worthington, Anton Yelchin, Helena Bonham Carter, Bryce Dallas Howard.
  • Cyfarwyddo: McG.
  • Sgwennu: John Brancato a Michael Ferris.
  • Hyd: 114 munud

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Stori wedi ei gosod ddeng mlynedd i nawr yn y dyfodol yw Terminator Salvation . Mae'n gyfnod o frwydro di-drugaredd rhwng peirniannau rhwydwaith Skynet ac aelodau dewr o'r gwrthryfel, dan arweiniad John Connor, a chwareir gan Christian Bale a anwyd yng Nghymru.

Lladd ei fam

Os cofiwch chi'r ffilm gyntaf yn y gyfres o bedair, The Terminator (1985), ceisiodd Skynet rwystro genedigaeth John Connor trwy anfon cyborg cwbwl ddi-enaid ar ffurf Arnold Schwarzenegger i'r gorffennol i ddinenyddio'i fam - Sarah Connor (Linda Hamilton) - ond cafodd hi ei hachub gan un o aelodau'r gwrthryfel, Kyle Reese (Michael Biehn), a anfonwyd, eto o'r dyfodol, gan John Connor ei hun, i'w diogelu hi.

Y tro yn y gynffon bryd hynny oedd mai Kyle Reese oedd tad y bychan.

Y tro hwn, a hithau'n 2018 - bymtheng mlynedd wedi "Dydd y Farn" pan lwyddodd Skynet i gymryd awennau holl gyfrifiaduron y byd a throi ar ddynoliaeth gyda chyfres o ymosodiadau niwclear - mae Kyle Reese (Anton Yelchin) yn fachgen yn ei arddegau ac yn un o'r ychydig rai sy'n dal 芒'u traed yn rhydd mewn fersiwn hunllefus o hesb o Los Angeles.

Mae e'n byw o ddydd i ddydd yng nghwmni merch fach fud o'r enw Star ac yn ceisio osgoi'r peiriannau anferthol sy'n bodoli i hela'r ychydig bobol sydd heb eu corlannu a'u hanfon i grombil pencadlys Skynet, yn San Francisco.

Mae e hefyd, fel aelodau eraill o'r gwrthryfel, yn derbyn negeseuon radio o obaith, a chyfarwyddiadau milwrol , oddi wrth John Connor - arwr i bawb am fynnu gwrthwynebu'r peirniannau anferthol hyn.

Pedwar diwrnod i fynd . . .

Yn dilyn un cyrch awyr gan y gwrthryfelwyr ar loerennau Skynet, mae John yn darganfod canlyniadau'r corlannu hwn; troi'r bobol yn beiriannau. Mae, felly, yn fwy penderfynol nag erioed i ddinistrio'r rhwydwaith unwaith ac am byth.

Ond gyda phedwar diwrnod i fynd tan yr ymosodiad mawr, daw dieithryn, Marcus Wright (Sam Worthington), ato gyda'r newyddion brawychus fod Kyle wedi ei ddal gan y peiriannau a'i gludo i'r pencadlys yn San Francisco.

Ond pwy yw'r dieithryn hwn? Oes modd ymddired ynddo i geisio achub Kyle a diogelu dyfodol ac, yn wir, fodolaeth John Connor a'r gwrthryfel?

Cyffroi yn llwyr

Rhaid dweud i'r bedwaredd yn y gyfres o ffilmiau'r Terminator lwyddo i'm cyffroi i'n llwyr - yn syth o farau cyntaf addasiad Danny Elfmann o'r thema wreddiol gan Brad Fiedel hyd at ddiweddglo sy'n addo rhagor o'r un peth yn T5, sydd newydd ei gadarnhau.

Cawn bron i ddwyawr o anturio dwys a di-baid a stori ddynol iawn yn galon iddi.

Gwell peidio 芒 chanolbwyntio gormod ar gymhlethdodau cyd-amseru bodolaeth Kyle Reese a John Connor ac, yn sicr, gwell hepgor unrhyw synnwyr o resymeg erbyn yr ugain munud olaf - ond, diawcs, mae na lot o hwyl i'w gael ar y wibdaith hon i ddehongliad y cyfarwyddwr McG o'r dyfodol agos.

Port Talbot liw nos!

Ydy, mae'n ddyfodol enbyd gyda'i wastatiroedd anial a'i ddinasoedd yn deilchion - ac eithrio pencadlys diwydiannol Skynet yn San Francisco sy'n edrych fel y nesaf peth at Bort Talbot liw nos- sy'n newid o'r tair ffilm ddwetha, gafodd eu gosod mewn presennol cyfarwydd, cyn "Dydd y Farn".

Newid arall ydy'r cynydd amlwg yn niferoedd y peirniannau eu hunain.

Un cyborg yn unig oedd hunllef fawr y ffilm gyntaf ac yn T2; Judgement Day (1991), brwydr rhwng Terminator da Arnie a fersiwn mwy soffistigedig , sef y T-1000 (Robert Patrick) oedd yna.
Wedyn, yn T3; Rise of the Machines (2003), dim ond T-X (Kristanna Loken) oedd y prif elyn.

Ond yn Terminator Salvation mae'r niferoedd o wahanol beiriannau y rhyfeddol ac yn amrywio o'r cyborgs lled-ddynol i hydrobots - crocodeils peiriannol - a chewri anferthol sy'n groes rhwng Transformer a King Kong.

Tipyn o stynts

Mae'r stynts hefyd YN FWY a rhaid canmol y t卯m cynhyrchu am blethu effeithiau arbennig o syfrdanol gyda gwaith golygu cyflym ond celfydd sy'n creu profiad gwylio hynod intense.

A s么n am intense, mae perfformiad Christian Bale yn un hynod o ddwys o filwr sydd wedi hen dderbyn ei ffawd fel pensaer y gwrthryfel.

Braidd yn rhy ddwys a dweud y gwir- ac yn wahanol i'w bortread trydanol o Batman, does yna ddim dimensiwn ysgafnach i'r cymeriad fel gafwyd gyda Bruce Wayne, sydd yn arwain y gwyliwr i ddyheu ar brydiau am hiwmor a hyfdra'r actor wnaeth bortreadu'r cymeriad John Connor yn 10 oed yn T2, Edward Furlong.

Yn wir, mae na rai wedi beirniadu Bale am chwarae fersiwn anffodus o robotaidd o John Connor a rhaid dweud bod honno'n elfen sy'n perthyn i'r rhan a hynny, efallai, yn fwriadol o gofio amgylchiadau'r cymeriad erbyn 2018.

Yr eironi mawr ydy mai gan yr Awstraliad, Sam Worthington, sy'n chwarae Marcus - peiriant sy'n grediniol ei fod yn ddyn - y cawn y portread mwyaf dynol a theimladwy. Yn wir, stori ei achubiaeth ef yw sail y bennod hon yn y gyfres. Cofiwch ei enw - mae e'n hync a hanner.

Beth am Arnie?

Ond beth am yr un peth oedd yn hollbresennol yn y tair ffilm gyntaf? Y Terminator gwreiddiol, Arnold Schwarzenegger?

Yn rhyfedd ddigon, wnes i ddim teimlo'i golli o gwbl gan fod gweledigaeth y bennod diweddaraf hon mor wahanol.

Ond peidiwch a digalonni - fe geir cameo gwerth chweil ganddo tua diwedd y ffilm sydd - fel nifer o rannau yn y cynhyrchiad - yn gwobrwyo'r ffans ffydlon wrth gyfeirio'n 么l at elfennau o'r ffilmiau eraill.

Ac atgyfodir y clasur o linell, "I'll be back" hefyd ac mae'n gwneud synnwyr mai John Connor- y Mab Darogan ei hun- biau'r geiriau y tro hwn.

Gobeithio y cawn ddod i'w adnabod rywfaint yn rhagor yn ffilm nesaf y gyfres.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.