大象传媒

Winter's Bone

Poster y ffilm

29 Medi 2010

15Pum seren allan o bump

  • Y S锚r: Jennifer Lawrence, John Hawkes, Kevin Breznahan, Ronnie Hall.
  • Cyfarwyddo: Debra Granik.
  • Sgrifennu: Addasiad Sgript Debra Granik ac Anne Roselini o'r nofel Winter's Bone gan Daniel Woodrell.
  • Hyd: 100 munud

Cyflawni'r gamp o ennill marciau llawn

Adolygiad Lowri Haf Cooke

A minnau ar ganol darllen Y Graig , nofel ragorol Haf Llewelyn am gyfrinachau teulu fferm yng nghefn gwlad Meirionydd - cefais fy ysbrydoli i weld ffilm sy'n cyffwrdd 芒 hanes go debyg, ac sy'r un mor afaelgar.

Fel yn Y Graig, stori gyfoes sy'n llywio'r cynhyrchiad Winter's Bone, ond y brif thema yn un oesol; y frwydr i gynnal yr etifeddiaeth.

Fodd bynnag, nid mab fferm mo'r prif gymeriad yn y ffilm ond merch 17 oed o ardal fynyddig yr Ozarks yng nghefn gwlad Missouri, yr Unol Daleithiau, Ree Dolly (Jennifer Lawrence).

Cyfarfyddwn hi gyntaf yn plicio tatws ar gyfer swper tila i'w brawd a'i chwaer a'i mam yn eistedd yn fud yn y gornel. Deallwn o'r cychwyn cynta mai'r laslances hon yw'r penteulu ac mai hi sy'n gyfrifol am eu cynnal nhw i gyd.

Rhaid dibynnu ar garedigrwydd cymdogion i ofalu am yr anifeiliaid ac am chwaneg o gig ar gyfer y potes ond daw'n amlwg fod Ree yn hen ddigon tebol i hela a thorri coed ei hun.

Wrth iddi hebrwng ei brawd a'i chwaer i'r ysgol leol, mae'n pasio gwers ar sut i fagu plant ac yn syllu'n eiddigeddus ar ymarfer y cadets - dau ddewis sy'n llywio ffawd y rhan fwyaf o'r disgyblion, sy'n dod o dlodi enbyd y fro.

Tad ar ffo

Pan ddaw'r Sheriff lleol i alw am ei thad, Jessop, darganfyddwn ei fod ar ff么 rhag ei achos llys diweddara am gynhyrchu Crystal Meth - cyffur sy di rheibio'r gymdogaeth ers tro.

Does gan Ree dim syniad lle mae o ond pan eglura'r heddwas fod Jessop wedi cynnig y fferm a'u coedlan i sicrhau ei fechn茂aeth daw hithau i ddeall y bydd yn rhaid cael gafael arno cyn yr achos ymhen wythnos rhag colli'r cyfan.

O hynny mlaen datblyga'r ffilm yn thriller gyffrous wrth i'r Ree benderfynol wfftio cyfreithiau cadarn ei llwyth cyntefig i geisio canfod ei dihiryn o dad ac i dreiddio i ddyfnderoedd yr isfyd lleol sy'n golygu dringo canghennau'r goeden deulu estynedig.

Rhaid goresgyn pob math o rwystrau, gan gynnwys mur o fudandod a bygythiadau marwol gan ei pherthnasau ei hun ac ar un pwynt ceisia Ree ymuno 芒'r fyddin er mwyn sicrhau'r cyflog sydd ei angen i gadw'i theulu efo'i gilydd.

Erbyn diwedd y ffilm, fodd bynnag, gwelwn ni - a Ree - y byddai'n well o lawer pe byddai ambell gyfrinach deuluol yn aros dan gl么.

Ymhlith y mwyaf cyffrous

Nid gormodiaith yw dweud bod Winter's Bone ymhlith y ffilmiau mwyaf cyffrous i mi ei gweld erioed.

Sefydlir y tensiwn trosgynnol o'r cychwyn cynta a does dim dwywaith fod cymeriad Ree yn ennill teyrngarwch y gynulleidfa o'r cychwyn cynta, diolch i'w hymdrechion arwrol i sicrhau cyfiawnder i'w theulu.

Ceir hefyd drac sain gwych sy'n gwneud defnydd helaeth o'r bluegrass lleol ac mae'r ffotograffiaeth amrwd yn adlewyrchu realaeth bob dydd y trigolion gwledig cyfoes, gan adael i'r camera arsylwi, heb feirniadu, sefyllfa go iawn sy'n annog nifer i droi at y beipen, neu i ddianc i'r fyddin.

Os cofiwch, enillodd ffilm fechan o'r enw The Hurt Locker wobrau lu eleni - gan gynnwys yr Oscar am y Ffilm Orau, a'r Cyfarwyddwr Gorau, Kathryn Bigelow - y ferch gynta i wneud erioed.

Mae Winter's Bone yn ffilm debyg iawn, gyda'r un cydwybod cymdeithasol ac actor anghyfarwydd yn y brif ran, a chyfarwyddwraig ag iddi brofiad helaeth o waith camera wrth y llyw.

Actores i'w chofio

Yn sicr, cofiwch yr enw Jennifer Lawrence - mae'r actores drawiadol sy'n chwarae Ree yn debyg o ennill nifer o enwebiadau adeg y tymor gwobrwyo ac mae'r gyfarwyddwraig Debra Granik yn si诺r o ennill clod pellach 'r么l sicrhau prif wobrau Gwyl Sundance yn gynharach eleni, am y Ffilm Orau, a'r sgript ragorol a addaswyd o'r nofel o'r un enw gan Daniel Woodrell.

Dwi'n gyndyn iawn o ddyfarnu pum seren i gynyrchiadau ond mae Winter's Bone yn ffilm fechan ag iddi b诺er anhygoel i hoelio'r sylw ac sy'n cynnig profiad ysgytwol. Mae'n haeddu marciau llawn.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.