大象传媒

Scala newydd Prestatyn

Cynghorydd Rhiannon Hughes  a Sandra Pitt, Cadeirydd Cyfeillion y Scala

Canrif newydd - adeilad newydd

Tyfodd ac edwinodd sinema'r Scala ym Mhrestatyn gyda'r ugeinfed ganrif.

Ac yn awr, wele'r hen sinema lle bu'r dangosiad cyntaf o King Kong yng ngogledd Cymru, a'r gynulleidfa'n rhes hir i fyny'r stryd yn disgwyl mynediad, yn agor ei drysau eto i wynebu cyfnod newydd yn yr unfed ganrif ar hugain.

Torri tir newydd

Ac yn barod, mae'r sinema a'r ganolfan gelfyddydau sy'n gysylltiedig a hi yn torri tir newydd trwy fod y sinema gwbl-ddigidol gyntaf yng Nghymru yn dilyn buddsoddiad o 拢3.5m.

Agorodd y Scala newydd gyda'i dau sgrin ei drysau ddydd Gwener, Chwefror 13, 2009 - yn dilyn wyth mlynedd hir o ymgyrchu a chodi arian.

Gyda'r adeilad yn eiddo i Gyngor Sir Ddinbych y mae ar les i Ymddiriedolaeth o ddeg o bobl dan gadeiyddiaeth y cyngorydd sir Rhiannon Hughes a fu am wyth mlynedd ar flaen y gad yn sicrhau gwireddu y cynllun presennol.

Dywedodd ei bod hi'n arbennig o falch i'r adeilad gwreiddiol gael ei adfer a bod y Scala yn parhau yn sinema stryd fawr yn hytrach nag yn un wedi ei chodi ar gyrion y dref fel cymaint o sinemau mawrion y dyddiau hyn.

"Ac mae'n arwyddocaol," meddai, " mai fel rhan o gynllun adfywio y cefnogodd y Cynulliad y cynllun ac nid un celfyddydol. Ac fe fydd y Scala yn adfywio canol Prestatyn. Mae yna frwdfrydedd mawr wedi bod am y cynllun hwn; rwy'n falch iawn ohono."

Cafwyd cyfraniadau i adnewyddu'r adeilad y bu'n rhaid ei gau yn y flwyddyn 2000 oherwydd ei fod yn beryglus gan Gyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref Prestatyn, Y Cynulliad, Ewrop, Cyngor y Celfyddydau a'r Sefydliad Chwaraeon a Chelfyddydau - 拢3.5m o i gyd.

Mwy na sinema

Ond mae'r Scala newydd yn fwy na sinema; mae yno ddwy sgrin, ystafelloedd cyfarfod, caffi a stiwdio gyfryngau y gellir ei llogi gydag ugain o gyfrifiaduron Apple.

"Yr amrywiaeth o gyfleusterau sy'n gwneud y Scala yn arbennig meddai Peter McDermott o Gyngor Sir Ddinbych a fu'n rheolwr cysylltiol nes penodi Chhris Bond yn rheolwr parhaol.

"Mae'r pwyslais," meddai, "ar fod yn ganolfan gelfyddydau yn ogystal 芒 sinema."

Arwydd pellach o ymlyniad y gymuned leol i'r Scala, a fu'n rhan o stryd fawr Prestatyn er 1900 pan agorwyd yr adeilad, gyda th诺r cloc trawiadol, yn neuadd y dref, yw i griw brwd o 'gyfeillion' fod yn cefnogi'r gwaith dan gadeiryddiaeth Sandra Pitt a bod ugain o wirfoddolwyr wedi eu dewis i gefnogi'r saith o staff cyflogedig o ddydd i ddydd.

Cyhoeddi llyfr

Mae'r Cyfeillion yn awr yn casglu tanysgrifwyr ar gyfer cyhoeddi llyfr yn olrhain hanes y Scala gan hanesydd lleol, Fred Hobbs.

Pan gauodd drysau'r Scala yn 2000 yr oedd hi y sinema un sgrin hynaf yng ngogledd Cymru.

Yn y dyddiau cynnar, cymeriad hynod o Lerpwl, James Roberts - a newidiodd ei enw i 'Saronie' er mwyn creu argraff - ddaeth 芒 dangosiadau ffilm gyntaf i Brestatyn gyda'i wraig, Jane, a oedd yn hannu o dde Cymru ac yn ffotograffydd, yn ei helpu.

Yr oedd, heb os, yn un o arloeswyr lliwgar y sinem芒u cynnar ac yn dangos ffilmiau mewn awditoriwm o fewn neuadd y dref i ddechrau.

Does dim amheuaeth nad oedd Saronie's Electric Pictures yn dra phoblogaidd ac erbyn 1913 yr oedd wedi troi'r neuadd yn sinema a'i galw yn 'Scala' - enw poblogaidd ar sinem芒u y cyfnod hwnnw.

Yr oedd milwyr yng Ngwersyll Cinmel heb fod ymhell i ffwrdd yn gynulleidfa barod a sicrhaodd lwyddiant ei fenter ac ehangwyd yr adeilad i ddal 400 o bobl ddechrau'r Tridegau.

Yma y dangoswyd y ffilm boblogaidd King Kong gyntaf yng ngogledd Cymru yn 1933!

Bu Saronie yn byw ei weledigaeth tan 1963 pan werthodd y Scala i Gyngor y Dref, bedair blynedd cyn ei farwolaeth yn 1967. Mae ei fedd ef a'i wraig ym mynwent eglwys Gallt Melyd gerllaw.

Yr adeilad ar ei newydd newydd
Yr adeilad ar ei newydd newydd

Hynt y blynyddoedd

Ymhlith cerrig milltir yr hen sinema y mae:

  • Dangos y ffilm liw gyntaf yn 1915.
  • Dangos y ffilm siarad gyntaf fis Mawrth 1930.
  • Ehangu a moderneiddio'r sinema yn 1930
  • Derbyn gwobr Can Mlynedd o Sinema y Sefydliad Ffilm Prydeinig yn 1996 am ddangos ffilmiau yn ddidor er 1910.
  • Tynnu t诺r cloc yr adeilad i lawr yn 1964.
  • Gorfod cau'r adeilad oherwydd ei fod yn beryglus yn y flwyddyn 2000 - How the Grinch stole Christmas y ffilm olaf i'w dangos yno.
  • Sefydlu mewn cyfarfod cyhoeddus yn 2001 Grwp Ymgynghorol y Scala.
  • Sefydlu Cyfeillion y Scala - Mawrth 2001.
  • Y Cynulliad yn addo grant o 拢1.5m yn 2005.
  • Tachwedd 2006 Cyngor tref Prestatyn yn cyfrannu 拢1 miliwn.
  • Mawrth 2007 yn dilyn cefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych dechrau ar y gwaith adeiladu.
  • Chwefror 13, 2009, agor yr adeilad newydd trwy ddangos Bolt, Slumdog Millionaire a Valkyrie.

Ar adeg pan fo cymaint o s么n am sinem芒u bychain yn cau yr oedd dydd Gwener Chwefror 13 - er gwaethaf y dyddiad - yn un o gryn bwys yn nhref Prestatyn - gweler Blog 'Cylchgrawn'.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.