Cryfder y nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Blaenau Gwent 2010 yw meistrolaeth yr awdur ar ddialog.
"Ac mae hwn yn glamp o gryfder," meddai Catrin Beard wrth drafod y gyfrol ar Raglen Dewi Llwyd, 大象传媒 Radio Cymru fore Sul Awst 15 2010.
Ond yn cael ei holi ar y rhaglen braidd yn llugoer oedd hi wrth ymateb i nofel Grace Roberts, Adenydd Gl枚yn Byw gan ei disgrifio fel "nofel iawn".
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
"Nofel tair cenhedlaeth o'r un teulu., Mam, Nain a Merch yn byw efo'i gilydd mewn t欧 fferm yn y gogledd," meddai.
Dywedodd nad oes "fawr o foeswers na neges na thema fawr yn y nofel hyd y gwelaf i".
"Mae'n stori eithaf arwynebol sy'n mynd a chi o'r dechrau i'r diwedd a dyna ni," meddai.
Os oes thema o gwbl dywedodd mai'r ffaith y gall un peth newid bywyd rhywun yn llwyr yw honno a dyna, wrth gwrs, arwyddoc芒d y teitl a'i adlais o'r theori chaos.
Ond ychwanegodd:
"Cryfder y gyfrol ac mae hwn yn glamp o gryfder ydi'r ffordd y mae Grace Roberts yn sgrifennu dialog achos mae'r cymeriadau yn dod yn fyw ar y tudalen . . . mae'n dal llais y tair cenhedlaeth yn effeithiol tu hwnt ac mae'r troeon ymadrodd a'r eirfa sy'n perthyn i oedran ac oes y gwahanol genhedlaeth. Dydi hi ddim yn ofni defnyddio bratiaith efo'r genhedlaeth iau," meddai.
Ychwanegodd y gellid agor y nofel ar unrhyw ddalen a gwybod pwy yn union oedd yn siarad.
Ond er mai'r cymeriadau yw'r elfen gryfaf yn y nofel dywedodd mai cymeriadau heb fawr o ddyfnder, cymeriadau opera sebon, ydyn nhw mewn gwirionedd.
Dywedodd y bydd y nofel dan yr anfantais y bydd pobl yn disgwyl mwy oddi wrthi oherwydd iddi ennill un o wobrau mawr yr Eisteddfod Genedlaethol.