大象传媒

Alan Llwyd - Darnau o Fywydau

Rhan o glawr y llyfr

Adolygiad Cyril Jones o Darnau o Fywydau gan Alan Llwyd. Barddas. 拢6.

Gellir rhannu'r 'bywydau' y canodd Alan Llwyd amdanyn nhw yn y gyfrol hon yn fras i dri dosbarth.

Yn gyntaf, dethlir a chofir am gymeriadau cyhoeddus, adnabyddus y byd llenyddol Cymraeg yn bennaf - Y Tad John Fitzgerald, Aled Lewis Evans, y Parch Gareth Maelor, Jon Meirion Jones, Gwyn Thomas.

Yn wir, gydol ei yrfa fel bardd a golygydd diflino gellir honni mai ef fu'n bennaf gyfrifol am adfer a chyfoesi celfyddyd gynganeddol beirdd cyfnod yr uchelwyr yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif a chychwyn yr unfed ganrif ar hugain.

A byddai 'r hen feistri yn falch o arddel sawl cwpled ac englyn yn y gyfrol hon. Fel yr englyn canlynol i 'Kyffin' (I paint in Welsh). Ein gwlad, trwy'i waith a glytiwyd, yn un darn,
yn dir a ailfapiwyd: pob acer a adferwyd
fesul llun ar gynfas llwyd.

Canodd gyfres o naw englyn ar hugain i gofio 'am Anwen Tydu a fu farw a Orffennaf 14, 2008'. Mae'r disgrifiad o'r modd y clywodd y bardd am y farwolaeth yn cyfleu profiad yr oesoedd:

Nodyn am Anwen ydoedd, nodyn byr
ond yn boen canrifoedd,
a llythyr yn holl ieithoedd
y ddaear trwy'i alar oedd.

Canodd farwnad dyner yn y mesur penrhydd cynganeddol hefyd i'r Tad John Fitzgerald; cerdd a saern茂wyd i gwmpasu'r tri darlun sy'n gysylltiedig 芒 chyfarfyddiadau'r ddau fardd.

Mae symlder y pennill sy'n cyfeirio at eu cyfarfyddiad olaf yng ngorsaf Caerdydd - 'cyrhaeddodd y ddau ohonom,/orsaf Caerdydd yr un pryd 芒'n gilydd,/er inni deithio yno ar wah芒n.' yn crynhoi natur gyd-ddigwyddiadol, hap a damweiniol bywyd a marwolaeth i'r dim.

Arddangosfa

Serch hynny, y cerddi sy'n perthyn i'r ail ddosbarth - sef cerddi'n seiliedig ar arddangosfa gelf a chrefft Prifwyl Abertawe yn 2006 yw'r cerddi pupur- a- halen sy'n rhoi blas arwahanrwydd i'r gyfrol hon o'i chymharu 芒 chyfrolau eraill Alan.

Mae mesur ergydiol yr englyn yn gweddu i'r dim i'r gerdd 'Muhammad Ali' sy'n ymateb i lun Simon Holly a'r 'wyneb yn f芒n-rannau ynddo,' a cheir ynddi wrthgyferbynnu trawiadol wrth iddo bortreadu'r cyn baffiwr yn 'hwrdd o i芒r fach r haf.'

Ymatebodd i waith yr un arlunydd a'r un arddull ddarniog yn y llun o 'Marilyn Monroe'. Y mesur penrhydd cynganeddol a fabwysiadodd Alan Llwyd y tro hwn: 'Yn ymyl mae'r llun yn amwys/ond yn berffaith o bell' .

Mae'r gerdd 'D诺r' (fideo o waelod Llyn Tryweryn) a'i hailadrodd tonnog a'r gerdd 'Clo ar y Glwyd' (llun Andrew Richards) yn gerddi gwirioneddol rymus.

Yn 'Clo ar y Glwyd' mae'n dychmygu'r 'gi芒t, wrth i rywun, yn rhywle, rythu/ar fflamau tenau'r t芒n/yn y gr芒t yn agor eto/ac yntau'n gweithio eto yng nglofeydd ei feddwl,'.

Mae patrymau geiriol celfydd y cerddi nid yn unig yn gyfryngau gwych i roi llais i'r lluniau, ond yn ymestyn eu hystyron trwy ail-greu yn eu rhythmau hen warineb dwy gymuned a aeth ar ddifancoll.

Ond efallai mai'r cerddi personol, didwyll a ganodd i aelodau'i deulu yw'r cerddi sy'n arddangos ei ddawn ar ei gorau - ar wah芒n i un gerdd. (Waeth i mi gyfaddef nad yw'r soned laes 'Dadrith' yn apelio ataf. Mae'n gerdd, sy'n profi yn fy marn i, bod angen golygydd ar y golygydd praffaf.)

Ond mae'r cerddi personol eraill - cerddi fel 'I Ioan a Nicola', 'Er Cof am Valerie', 'Wrth Fynd Heibio i'r T欧 Lle Buom yn Byw' a 'Lluniau Teuluol' oll yn gerddi gwirioneddol afaelgar.

Tyneraf ac anwylaf

Ac yn goron ar y cyfan mae'r gerdd hir er cof am 'Elaine', ei fam yng nghyfraith - cerdd dyneraf, anwylaf y gyfrol gyfan. Mae'r modd yr amrywiodd ac y cyfunodd y mesurau traddodiadol a phenrhydd yn y pum symudiad yn creu symffoni goffa i'r 'hon a fu i ni yn fam.'.

Er enghraifft, yn y symudiad cyntaf disgrifir 'y cof hir, cyforiog,/yn crebachu'n ddim' ac yn yr ail mae'r eira sy'n gorchuddio ac uno pob darn o'r tirlun hefyd yn tyfu'n symbol o'r dileu sy'n nodweddu'r diwedd.

A dyma ddyfyniad o gywydd y pedwerydd symudiad sy'n cyfleu sioncrwydd a haelioni'i bwyd: 'Y wraig brydferth ei gwerthoedd,/prydferth hyd at aberth oedd,/a gofal dwfn y galon/oedd gofal dihafal hon:/rh么i ei llaw i'r rhai lleiaf,/a rhoi clust i'r hen a'r claf.'

Yn wir, gellid dyfynnu helaeth o'r gyfrol hon ond ni all yr un adolygiad na'r un dyfyniad gyfleu ei gwerth fel cyfanwaith. Mae'n fargen am chwe phunt.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.