大象传媒

John Gwynne - Atsain y Tonnau

Rhan o glawr y llyfr

05 Medi 2011

Adolygiad o Atsain y Tonnau gan John Gwynne. Tud. 279. Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.50.

Dilyniant i nofel gyntaf John Gwynne, Ar Lan y M么r Mae . . ., a gyhoeddwyd yr adeg hon y llynedd ydi Atsain y Tonnau ond dydw i ddim yn ymwybodol imi fod dan anfantais o fod heb ddarllen y nofel honno - er imi weld ei hadolygu.

Sylweddolais yn syth y byddai Atsain yn un hynod anhwylus i'w hadolygu gan y byddai s么n yn rhy fanwl amdani yn ei difetha i unrhyw ddarllenydd arall.

Rhaid bodlon, felly, ar ddweud mai'r cyfnod yw 1961 a bod y prif gymeriad, Alun Morgan, plismon uchel ei radd yn Scotland Yard, bellach yn swyddog gyda'r gwasanaethau cudd yn gweithredu yng ngorllewin Cymru.

Clawr y llyfr

Mae o newydd briodi Elisabeth, hen gariad dyddiau ysgol - a ail gyfarfu yn y nofel gyntaf - a'r ddau yn y bennod agoriadol ar daith i'w paradwys bersonol yng ngorllewin Cymru.

Dim gwobr mae gen i ofn am ddyfalu ei 'syrpreis' i'w briod newydd yn y bennod gyntaf.

Yn eu Hafallon, ni fydd yn syndod i neb y caiff hi'n amhosib osgoi crafangau ei orffennol fel un o brif blismyn Prydain a dyna hynt a helynt y nofel hon wedi i drychineb oddiweddyd Elisabeth.

Twyllais fy hun i dybio ar y cychwyn mai nofel dditectif oeddwn i'n dechrau ei darllen ond mewn gwirionedd mae Atsain y Tonnau yn nes at fod yn stori 'cops 'n robbers yn hytrach na'r datrys traddodiadol y byddai rhai fel John Ellis Williams, Meuryn ac E Morgan Humphreys yn arfer ein diddanu ag ef yn y Gymraeg.

Traddodiad Bulldog Drummond, y Sweeny a'u tebyg sydd yma ac fel nofel o'r fath mae'n gwbl dderbyniol. Yn dra gwrywaidd hefyd, wrth gwrs.

Diferu gwybodaeth

Hoffais yn arbennig y modd y mae'r awdur yn diferu gwybodaeth, fymrynnau ar y tro, wrth i'r stori fynd rhagddi ac mae'n cyfuno hefyd ddigwyddiadau yng Ngheredigion ac isfyd troseddol gangiau Llundain gyda digon linynnau sydd angen eu clymu i'r cyfan wneud synnwyr inni.

Weithiau mae rhywun gam ar y blaen i'r awdur, megis yn achos y pen gelyn a ddarlunnir yn ysbeidiol fel "y dyn" yn gweithredu o'r cysgodion - ond dyw dyfalu pwy yw, ddim yn difetha pleser rhywun.

Mae'r sgrifennu yn gyson glir, rhugl a diwastraff ac yn gwbl addas ar gyfer y math hon o stori.

Mae'n nofel hefyd sy'n gweddu i'w chyfnod yn y Chwedegau er nad yw y cyfnod hwnnw yn ymwthiol o gwbl nac yn tynnu sylw ato'i hun yn ormodol.

Tonnau'r teitl

Mae'r ateb i arwyddoc芒d y teitl, Atsain y Tonnau, i'w gael ar dudalen 122 lle mae un o'r cymeriadau yn cymharu hynt ein bywyd i fynd a dod tonnau'r m么r a phob un ohonom 芒'i don bersonol ei hun yn yr eangder mawr.

Disgwyl i honno gyrraedd glan yw bywyd.

"Bob dydd mae'r don yn cynyddu gan ddod yn nes ac yn nes i'r lan nes yn y diwedd y bydd yn torri ar y traeth. A dyna hi wedi mynd; bydd popeth wedi mynd a dim ond yr atsain fydd ar 么l. Wnaiff y don 'na byth ddychwelyd, ti'n gweld. Dim ond unwaith mae'r don yna'n torri, cofia."

Afraid dweud mai darlun hen gapten llong o fywyd yw hwnna.

Blwyddyn arall . . .

Ond nid nofel yw hon i fynd i chwilio ynddi am athrawiaethau mawr bywyd er bod yma them芒u blith draphlith mewn gwirionedd o drais mewn priodas i dwyll ymhlith pobl broffesiynol a grym y rhwydwaith hen gyfeillion. Y cyfan yn cyfuno'n gyfanwaith digon diddan er bod galw weithiau am ymestyn hygoeledd.

Mae blwyddyn ers y nofel gyntaf bydd disgwyl gweld a fydd trydedd yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

Gobeithio bydd gan fod lle i ddeunydd difyr a didramgwydd o'r fath.
Glyn Evans


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.