大象传媒

Dilyn bugail

Llun ar glawr y llyfr

Cip ar fywyd dros bedwar ugain mlynedd

Myfyrwraig yn dilyn bugail wrth ei waith ar lethrau Dyffryn Nantlle

Adolygiad Glyn Evans o Dyn a Diadell - One Man and his Flock gan Jacqui Molden. Testun Cymraeg gan Esyllt Nest Roberts. Gwasg Carreg Gwalch. 拢9.95.

Sgyrsiau a lluniau ydi cynnwys Dyn a Diadell.

Sgyrsiau bugail ar lechweddau Dyffryn Nantlle a lluniau myfyrwraig o Fangor a fu'n ei ddilyn wrth ei waith am dair blynedd yn cofnodi'r hyn a welai 芒 chamera a nodi'r hyn a glywai.

Mae'n gyfuniad hynod o apelgar a'r sgyrsiau sy'n cael eu hatgynhyrchu air am air yn gwefreiddio ac yn hudo.

John Watkin Jones, o Rosgadfan yn wreiddiol, ydi'r bugail a Jaqui Molden y fyfyrwraig a pharatowyd y testun Cymraeg gan Esyllt Nest Roberts.

Codi cwr y llen

Bu'r gwaith yn gyfrwng arddangosfa deithiol hefyd ac meddai Jacqui Molden am y llyfr:

"Rwy'n gobeithio y bydd yn codi cwr y llen ar fywyd arbennig John, a'i ofal am ei braidd yn yr hyn a eilw ei filltir sgw芒r."

Milltir sgw芒r a roddodd iddo oes o gynhaliaeth ac o brofiadau y gall eu rhannu yn awr ac yntau dros ei bedwar ugain oed.

John Watkin Jones wrth ei waith

"Dros gyfnod, drwy sgwrsio a chadw cwmni i John Watkin Jones wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau dyddiol fe gawn gan Jacqui gipolwg o'i fywyd bob dydd - bywyd sy'n araf ddiflannu - a'r filltir sgw芒r yn ardal y chwareli llechi," meddai John Roberts wrth gyflwyno'r gyfrol gan ychwanegu bod y llyfr "yn adlewyrchiad cywir o fywyd yno heddiw" yn ogystal 芒 chodi llen ar gyfnod caletach.

Cyfnod pan oedd amgylchiadau yn gorfodi dal dwy swydd, ar y tyddyn ac yn y chwarel, i gael deupen llinyn ynghyd ac mewn ffatri awyrennau yn Llanberis.

Yn agoriad llygad

Yn ogystal 芒 bod yn ddifyr mae'r gyfrol hefyd yn agoriad llygad:

"Chwarelwr oedd 'nhad. Pan briododd 'mam a 'nhad doedd ganddyn nhw ddim t欧. Roedd 'nhad yn gweithio yn chwareli'r fro ac roedden nhw eisiau t欧 yn yr ardal. Cawson nhw hyd i un rhwng fan'ma a Rhosgadfan. Yna mi symudon nhw o fan'no i'r bynglo cyntaf ar y dde wrth fynd i mewn i Rhosgadfan. Tyddyn oedd o bryd hynny. Yn fan'no y ganed Catherine fy chwaer. Roedd y lle'n berwi o lygod. Roedd y diawled yn y gwl芒u , yn rhedeg drostyn nhw, ac mi fyddai 'nhad yn eu pledu nhw efo'i wregys," meddai.

Mawr ei ofal

Mae yma ddisgrifiadau o'r bugail wrth ei waith hefyd a'i ofal am ei braidd - yn enwedig amser wyna gyda'r angen weithiau i dynnu 诺yn.

"Mi fydda i'n mynd i weld sut mae'r defaid bob dydd, waeth pa fath o dywydd fydd hi; dwi wedi arfer gwneud hynny. Dyna sut y bydda i'n dod i'w adnabod nhw, a nhwtha finna. Mae hynny'n help mawr adeg wyna. Ar ffermydd mawr, efo cannoedd neu filoedd o ddefaid, dim ond rhifau ydyn nhw i'r ffermwr, ond i mi, fy niadell ydi 'mhlant i . . ." meddai.

Ond y mae amser i bethau eraill fel bod yn aelod o G么r Dyffryn Nantlle - er 1978 - ac yn ddyn band hefyd gyda llun ohono canu corn.

Er yn gyfrol o lai na hanner cant o ddalennau mae'n blethiad hudolus o luniau a geiriau gyda'r testun yn y Saesneg yn ogystal 芒'r Gymraeg.

Cyfrol ddifyr sy'n delyneg mewn gair a llun i ffordd o fyw.


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.