大象传媒

Cefin Roberts - 'Cymer y Seren'

Rhan o glawr y llyfr

26 Ionawr 2010

Adolygiad Lowri Rees Roberts o Cymer y Seren gan Cefin Roberts. Gwasg Gwynedd. 拢8.95.

Pe byddech chi'n derbyn neges destun o rif hollol ddieithr yn ystod oriau m芒n y bore yn eich gorchymyn i agor drws y t欧 a fyddech chi'n mentro?

A fyddech chi'n mentro i dacsi berfeddion nos ar daith ddieithr i dywyllwch y nos?

Dyna'r cwestiynau sy'n eich bwyta drwy gydol nofel Cefin Roberts, Cymer y Seren.

Cklawr y llyfr

Dyna'n union s'n digwydd i brif gymeriad y nofel, Emrys Pritchard. Neges destun yng nghanol y nos sydd yn ei arwain i dacsi ac yna drwy gyfres o negeseuon mae'n cael ei arwain ar daith o bentref bychan yn Arfon i un o ddinasoedd prydferthaf yr Eidal - yn y gobaith o ddod o hyd i'w ferch.

Dyma'r nofel a ddisgrifir gan Robat Arwyn fel, "Chwip o nofel!".

"Cefais fy rhwydo o'r dechrau, a doedd dim dianc nes imi ei gorffen," meddai.

Felly, ar brynhawn Sul dyma finnau'n eistedd i gael fy chwipio fel petai ac i fwynhau'r nofel sy'n dilyn hanes Emrys Pritchard, dyn sydd yn beio ei hun wedi diflaniad ei ferch, Mari Lisa, bedair blynedd yn 么l.

Ac yn dilyn diflaniad cannwyll ei lygad, aeth pethau hefyd o ddrwg i waeth rhyngddo ef a'i wraig, Carys, a hithau'n ei adael.

Yn ystod y nofel cawn wybod ymhellach na fu bywyd yn hawdd i Emrys erioed gyda darluniau byw ohono yn fab ffarm sydd yn dianc bob cyfle bosib i eistedd ar draethau yng nghefn gwlad Cymru i fyfyrio, i ddianc o grafangau ei rieni a'u diffyg cariad amlwg tuag ato.

Yr unig perthynas teuluol cariadus sydd wedi bodoli yn ei fywyd yn ystod ei ieuenctid yw'r berthynas rhwng ei chwaer Olwen ac yntau. Hi sy'n ei warchod a gofalu amdano.

Cawn ein tywys ar daith o bentref bach tawel yn Arfon i un o ddinasoedd llawn rhamant yr Eidal gan ddilyn cliwiau ar ffurf negeseuon ff么n symudol ar drywydd ei ferch.

Ond mae yna hefyd blethiad o straeon eraill ac yn y penodau olaf cawn wybod beth oedd wrth wraidd y diffyg cariad pan yn blentyn a beth sydd wedi peri iddo deimlo'r fath unigrwydd.

Byddai datgelu'r diweddglo yn difetha'r nofel ichi ond mae'n deg dweud bod Emrys yn darganfod ei hunan drwy'r cyfres o ddigwyddiadau.

I rai sy'n mwynhau nofelau dirgelwch mae i hon ei hap锚l er mor anghredadwy y syniad cychwynnol y byddai rhywun yn mentro allan ganol nos fel y gwna Emrys yn ymateb i neges destun. Wrth gwrs, mae'r anghredadwy yn gallu argyhoeddi weithiau - ond nid yn yr achos hwn.

Ar ben hynny mae peryg i ddarllenydd fynd ar goll yn cael ei fygu gan yr holl negeseuon, amlenni a chliwiau sy'n cyrraedd t欧 Emrys, y siop ac yna t欧 Carys.

A dydi'r plethiad o straeon ddim yn hwyluso'n taith.

Er bod y nofel wedi ei hysgrifennu'n gelfydd ac iddi ddarnau disgrifiadol gwych chefais i mo fy nal yn yr un modd 芒 Robat Arwyn.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.