20 Mehefin 2011
Adolygiad Glyn Evans o Hiwmor y Cymoedd gan Cennard Davies. Cyfres Ti'n Jocan. Y Lolfa. 拢4.95.
Rhyw flwyddyn yn 么l yr oedd yna eitem mewn papur newydd bod y Cymry yn mwy di-hiwmor na phobl eraill.
Casgliad y daethpwyd iddo ar 么l un o'r nifer o arolygon barn yna gan wahanol gwmn茂au.
Bosib mai gwerthwyr sebon dannedd oedd tu 么l i hwn - ar sail rhyw fformwla a ddywedai dannedd = gwenu = hiwmor.
Beth bynnag am eu dannedd, y casgliad y daethpwyd iddo oedd nad yw'r Cymry'n gwenud a'u bod nhw felly yn bobol ddi hiwmor.
Ond peidiwch a dweud hynny wrth Y Lolfa achos mae'r wasg honno newydd gyhoeddi ei phymthegfed cyfrol mewn cyfres o'r enw Ti'n Jocan - casgliadau o j么cs wedi eu canoli ar leoedd fel Sir Benfro, Shir G芒r, Caernarfon ac unigolion fel Dai Jones, Idris Charles, Clive Rowlands, John Ogwen, Dewi Pws a Pontshan sydd y lleiaf doniol o bobl ddoniol Cymru oni bai am ddyrnaid o edmygwyr sydd wedi gwirioni arno.
A'r gyfrol ddiweddaraf yw casgliad Cennard Davies o 'Hiwmor y Cymoedd' - a chyda'r cymoedd yn drochfa o gymaint gwreiddioldeb mae rhywun yn synnu braidd inni orfod disgwyl cyhyd.
Nid yn annisgwyl, o ystyried pwy yw'r awdur, y Rhondda ydi'r 'cymoedd' yn y gyfrol hon.
"Ond o gofio bod enw Cwm Rhondda yn cynrychioli hanfod y Cymoedd yn eu crynswth ym meddyliau pobl ledled y byd, gall brodor unllygeidiog fel fi fentro defnyddio'r teitl Hiwmor y Cymoedd yn hyderus," eglura Cennard Davies a anwyd ac a fagwyd ac a weithiodd yn y Rhondda ac sy'n cyfiawn ymfalch茂o yn ei fagwraeth yn y crochan diwydiannol hwn a'i lobsg贸ws o bobl o sawl rhan o'r ynysoedd hyn.
Cymysgfa a roddodd inni gemeg cymdeithasol arbennig iawn a honno'n cael ei hadlewyrchu yn y llyfr hwn.
Hoffais y stori am yr awdur yn derbyn un bore gyda'i bapur newydd gylchgrawn braidd yn anllad yn darlunio mewn gwahanol ystumiau ferched ifainc a fendithiwyd yn hael.
Dyma gyrchu, felly, am y siop papur newydd yn cael ei rhedeg gan ddau a ddychwelodd i'r Cwm o Loegr, lle taflwyd goleuni ar y merched ifainc beiddgar o sylweddoli mai papur Annibynwyr, Y Tyst - nid Tits - oedd yr archeb wythnosol i fod!
Mae troeon trwstan eraill hefyd. Merch gwraig weddw mewn gwewyr wrth ddrws dwy fu'n paratoi'r corff.
"Dyw hi ddim yn gallu byta ac mae hi eisiau eich gweld ar unwaith," meddai'r ferch.
"Does dim rhyfedd nad oes chwant bwyd arni a hithau wedi colli eich tad ddoe. Beth bynnag, byddai'n well iddi alw doctor ar gyfer rhywbeth fel 'na. Alla i mo'i helpu," meddai'r llall.
"Gallwch wir," atebodd y ferch. "Ry'ch chi wedi rhoi dannedd dodi Mam yng ngheg Dad."
I gnoi cil arnynt hefyd, yn naturiol o ystyried mai yng Nghymru - ac yn y Cymoedd yn arbennig - rydym ni, yw llysenwau ac mae cyfeirio at sawl un yn y gyfrol.
Ambell un yn adlewyrchu y gymysgedd o ddwyster a llawenydd a oedd yn gymaint rhan o fywyd y Cymoedd.
"yn ein stryd ni roedd hen wraig a g芒i ei hadnabod fel Mrs Rees Laugh and Cry," meddai Cennard Davies.
"Un funud fe fyddai hi'n rolio chwerthin a'r funud nesaf yn llefain fel y glaw, a rhywbeth felly, dybia i, oedd bywyd y gl枚wr," meddai.
Ymhlith eraill a grybwyllir mae Dau Ian - un oedd yn brolio popeth.
Annie Bwci - merch 芒'i thad yn ddyn hynod hyll.
Ianto Bob Man - na fyddai byth gartref.
Sioni Sgrech - dyn swnllyd.
Sioni Coesau bwyell - g诺r a dawyd yn goesgam wedi damwain
Mae ambell i hen ffefryn yma wrth gwrs fel y digwyddiad hyfryd hwnnw pan gyflwynwyd Leo Abse AS gan gadeirydd clwb Llafur, Emrys Jones, fel "Mr Abs".
A'r gwleidydd mewn ymgais i'w gywiro yn dweud wrth am ei alw'n Mr Abse a'r llall yn ymateb i'r hyn a dybiai'n arwydd o frawdgarwch a chyfeillgarwch trwy ddweud am ei alw yntau yn "Jonesy".
Ie'n wir, cyfrol ddifyr a diddan i bori ynddi a phrawf pellach fod gan y Cymry bydded hwnnw heb yn wybod inni'n hunain bob tro.
Glyn Evans