Adolygiad Glyn Evans o Llwch - Hunangofiant Elvey MacDonald.Y Lolfa. 拢14.95. Nifer o luniau. 381 tudalen.
Bob amser mae'n gaffaeliad cael cychwyn da. Ac mae cychwyn hunangofiant Elvey MacDonald yn gyffrous ac yn danllyd.
O ran arddull ac o ran yr hyn sy'n digwydd.
"Efallai mai sydynrwydd y ddamwain a seriodd y lluniau ar fy nghof. Coch, glas a melyn y fflamau'n ymledu ar hyd y trawstiau ac arogl mwg yn fy ffroenau; y nenfwd ar d芒n ac yn cyflymu'n gyflym; Mam yn cydio'n dynn ynof i ac Edith gan ein rhuthro ni allan o'r gegin, yn ddiogel o gyrraedd y gwreichion - a disgleirdeb y bore heulog yn fy nallu dros dro."
Dechrau dramatig allai wneud ichi feddwl, "Diawcs, mi brynai hwn" o'i ddarllen mewn siop lyfrau.
'Yn y dechreuad' y Wladfa ym Mhatagonia yw'r lleoliad ac mae'r ddwy ddalen gyntaf yn atgoffa rhywun o ddigwyddiad yn un o nofelau y llenor amlycaf a gysylltir 芒'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, R Bryn Williams, a ninnau'n disgwyl i rhyw farch coch neu fandit o'r Andes garlamu ar draws y dalennau.
Helynt nofel
Mae'n ystyrdeb dweud bod ambell i hunangofiant 'yn darllen fel nofel' ond mae hynny'n wir am gychwyn Llwch.
Nofel ddwedais i?
Wel, mae lle amlwg i helynt yngl欧n 芒 nofel am y Wladfa tua diwedd y llyfr hefyd lle mae'r hunangofiannwr yn trafod mewn rhywfaint o fanylder yr helynt anffodus hwnnw a gododd yngl欧n 芒'r nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen i Sian Eirian Rees Davies yn Eisteddfod Eryri.
Nofel lle gwelodd Elvey MadDonald, meddai, frawddegau cyfain o'i waith ei hun yn cael eu defnyddio heb eu cydnabod.
"Os nad enillais wobr am gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cyrhaeddodd llawer o 'ngeiriau i'r ymgais y dyfarnwyd Gwobr Goffa Daniel Owen iddi yn Eisteddfod Eryri" yw ei ffordd fachog ef o ddweud iddo ganfod ynddi frawddegau bron iawn heb eu newid o'i lyfr, Yr Hirdaith a gyhoeddwyd rai blynyddoedd ynghynt.
Yn garedig iawn mae'n osgoi cyhuddo neb o l锚n-ladrad ond o or ddibynnu ar Yr Hirdaith heb gydnabod hynny.
Er ei fod yn gosod dadl gref gerbron gydag enghreifftiau sy'n argyhoeddi nid fy lle i yma, sydd ond yn cael un ochr i'r stori, yw deddfu y naill ffordd neu'r llall ond y mae'n amhosib peidio ag ymateb i'r modd y bu i'r awdurdodau perthnasol ymateb i gwynion Mr MacDonald.
Dyw'r hyn a ddywedir ddim yn adlewyrchu'n dda o gwbl ar yr Eisteddfod Genedlaethol, Prifysgol Bangor na Phrifysgol Cymru ac mae'n amhosib peidio dod i'r casgliad i Mr MacDonald gael ei drin yn siabi iawn gan bawb.
Yr oedd yn bennod anffodus a sur.
A ddigwydd rhywbeth yn dilyn cyhoeddi'r hanes yn yr hunangofiant cawn weld. Yn sicr mae rhywun yn teimlo y dylai rhywun gymryd hyn fwy o ddifrif. Ond fyddwn i ddim yn dal fy ngwynt.
Tras anrhydeddus
Helynt diwedd gyrfa oedd un Eisteddfod Eryri - dros y blynyddoedd bu helyntion a helbulon eraill i sgrifennu amdanynt gyda stori y llanc ifanc a gartrefodd yng Nghymru a dod yn un o drefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ac wedyn yn Mr Eisteddfod yr Urdd yn cychwyn ym Mhatagonia bell.
Yr oedd iddo dras anrhydeddus yno ac yn fuan yn y llyfr mae'n olrhain ei dras i'r Mimosa a chynt gan gofnodi manylion teuluol a gefais i'n rhai digon trofaus ac anodd eu dilyn mewn gwirionedd.
Ond yr hyn sy'n gafael yw'r darlun o fywyd yn y Wladfa a'r bobl y cafodd ei fagu yn eu plith.
Yn amlwg y mae i fagwraeth yn 'Y Wladfa' ei rhamant i ni heddiw ond mae'r rhai fel Elvey MacDonald fu byw drwyddo yn cofio'r caledi ac adfyd hefyd.
"Heb arian i dalu am fwyd, doedd gan Mam ddim byd i'w roi i ni ond 'bara llaeth' i ginio, ac i swper. Paratoai'r saig hwn drwy dorri darnau o fara ar bob swpled (sef ein gair ni am fowlen gawl), ac arllwys llaeth cynnes drostynt . . . fedrwn i mo'i ddioddef . . . O ganlyniad, ni f没m, yn hir cyn protestio ac i ddatgan fy anfodlonrwydd. Heddiw sylweddolaf cymaint o boen a achosai hyn i Mam, a chywilyddiaf wrth gofio amdani'n ymddiheuro un noson nad oedd ganddi unrhyw beth arall i'w gynnig i mi."
Cynnal ei gilydd
Ond yr oedd yn gymdeithas oedd yn cynnal ei gilydd hefyd ac yn gymdeithas ddiwylliedig a roddai bwys ar egwyddorion Cristnogol.
"Pan ddaeth y llyfrau prin a'r cylchgronau i ben, cydiais un diwrnod yn y Beibl. Hwn fu fy neunydd darllen bob amser siesta o hynny ymlaen. Darllenais ef o glawr i glawr ddwywaith - yn Gymraeg y flwyddyn gyntaf ac yn Sbaeneg yr un ganlynol," meddai.
Mae'r Fam mor stoicaidd arwrol ag unrhyw fam mewn unrhyw nofel Gymreig. Yn ddynes arbennig iawn ac yn amlwg y dylanwad cryfaf un ar ei mab.
Y tu hwnt i'r aelwyd a'r gymdeithas glos cawn olwg hefyd ar wleidyddiaeth Ariannin gydag ymdriniaeth hynod o ddifyr o gyfnod yr Arlywydd Peron a'r enwog Evita er enghraifft.
Hynt yr iaith
Yn naturiol, mae'r iaith a'r diwylliant Cymraeg sy'n prysur freuo dros y blynyddoedd yn rhan annatod o'r hanes. Mae'n dwyn i gof broffwydoliaeth W R Owen o'r 大象传媒, ar ymweliad 芒'r Wladfa yn 1955, "na fyddai neb yn siarad Cymraeg yn y Wladfa ymhen deng mlynedd ar hugain".
"Rhoes ei osodiad diamwys destun meddwl a phryder i mi," meddai Elvey MacDonald a oedd yn 14 ar y pryd.
Mae hynny ar ddalen 138 yr hunangofiant ond erbyn tudalen 374 a deng mlynedd ar hugain y broffwydoliaeth wedi eu hen oresgyn gall ymlawenhau trwy gyfeirio at adfywiad yn sefyllfa'r iaith a phriodoli hynny yn rhannol i gyfraniad Rod Richards yn ystod ei gyfnod yn weinidog gwladol yn y Swyddfa Gymreig.
Ef a sicrhaodd arian i sefydlu'r Cynllun yr Iaith Gymraeg sy'n dal mewn bodolaeth yn y Wladfa a sicrhau gwasanaeth athrawon o Gymru yno.
"O ganlyniad gwelwyd cynnydd yn nifer y gweithgareddau Cymraeg, mwy o lewyrch ar yr eitemau a lwyfennir yn yr Eisteddfod a chaiff yr iaith ei gweld ar arwyddion y siopau, yn ogystal 芒 chael ei chlywed yn amlach ar y strydoedd," meddai am y Gaiman lle cafodd ef ei fagu.
"Rhoddwyd cymaint o hwb i'r cynllun yn yr Andes nes cyffroi'r trigolion i ailddarganfod eu gallu i siarad yr iaith ac i fynd ati i godi Canolfan Gymraeg yr Andes yn Esquel," ychwanega.
Braenaru'r tir
Ond nid yw'n anghofio ychwaith yr ychydig a fraenarodd y tir cyn creu'r cynllun swyddogol. Rhai fel Cathrin Williams.
"Byddai'r fath freuddwyd yn amhosibl oni bai am yr hedyn a blannwyd yn 1990. Does modd yn y byd i mi orbwysleisio pwysigrwydd cyfraniad Cathrin a'r rhai a'i dilynodd i'r broses o adfywio'r Gymraeg yn Nyffryn Camwy.
"Oni bai iddi hi gymryd y penderfyniad gwreiddiol a phe na bai'r lleill wedi dilyn ei chamau, credaf y byddai proffwydoliaeth W R Owen wedi'i hen wireddu erbyn hyn," meddai.
Pan sgrifennodd Cathrin Williams ei llyfr hi am ei phrofiadau yn Y Wladfa Haul ac Awyr Las a ddewisodd yn deitl iddo ac fe ddaw hwnnw yn fyw iawn i'r cof o weld mai Llwch yw dewis deitl Elvey MacDonald.
Y gwir yw fod y ddau deitl er mor wahanol i'w gilydd yn gwbl gymwys. Achos yng ngwres yr haul a than yr awyr las yna mae'r llwch diddiwedd yn ddiarhebol.
Ond am ryw reswm mae'r cyhoeddwyr wedi ei sgubo dan garped a'i hepgor ar glawr y llyfr!
Yng Nghymru
Ond byddai'n gamgymeriad tybio mai dim ond straeon am Batagonia sydd yn yr hunangofiant mae Elvey MacDonald yn olrhain hefyd ei fywyd - digon helbulus ar adegau - yng Nghymru ac mae ganddo sawl peth digon dadlennol i'w ddweud am ein dwy Brifwyl yn dilyn pum mlynedd gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a 24 gyda'r Urdd.
Mae ganddo straeon arbennig o dda am ddryswch yngl欧n 芒 phrif gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol Y Barri yn 1968 er enghraifft.
Difyr a dyrys hefyd ei gyfnod gyda Radio Ceredigion.
Cadw diddordeb
Rhwng popeth mae yma ddigonedd i gadw diddordeb rhywun.
Mae ei ddeuoliaeth o ran magwraeth, cefndir a bywyd yn ei wneud yn sgrifennwr 芒 safbwyntiau diddorol ac mae'n ateb yn drawiadol ym mrawddegau olaf ei hunangofiant y cwestiwn o ble mae'n perthyn trwy ddweud mai ei ddymuniad wedi marw yw cael gwasgaru ei lwch "ar wyneb y cefnfor, gan erfyn ar y tonnau i'w daflu o bryd i'w gilydd ar draethau'r ddwy wald a garaf, a'i adael i orffwys yno am ennyd cyn ei gipio ymaith eto ar daith ddiderfyn tra pery'r ddaear i droi."
A dyna'n wir fywyd Elvey yr hunangofiant difyr, gonest a dadlennol hwn.