大象传媒

Emily Huws: Glywsoch chi Stori

Rhan o glawr y llyfr

14 Tachwedd 2011

Adolygiad Joanna Davies o Glywsoch chi Stori? gan Emily Huws. Gomer. 拢5.99.

Y peth cynta sy'n tynnu'r sylw gyda'r gyfrol fechan hon yw ei chlawr. Mae'n hynod drawiadol gyda'r ffont a'r dyluniad yn arddull hen lyfrau straeon plant o'r bedwaredd ganrif a'r bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif.

Llyfrau fel Teulu Bach Nant Oer a'i debyg.

Yr unig beth sy'n amharu ar y clawr yw'r ffont hollol wahanol o ran steil a lliw ar gyfer y strapline, "Y mae i bob teulu ei hanes". Gymaint gwell i ddyluniad y clawr fyddai hepgor hwn neu o leiaf ei gynnwys yn yr un arddull.

Chwaeth bersonol yw hynny, wrth gwrs, a dwi'n dueddol o ffocysu llawer ar gloriau!

Clawr y llyfr

Mae Emily Huws yn awdures i blant sy'n uchel iawn ei pharch; wedi ennill Gwobr T铆r na n脫g ddwywaith ac yn gyfrifol am gyfieithu stori Harry Potter a'r Bachgen yn y Pyjamas i'r Gymraeg.

Mae Glywsoch chi stori yn gyfrol anghyffredin ac yn un eithaf aeddfed i blant yn fy marn i. Nofelig fewnsyllgar yn edrych ar hanes merch fach ddeg oed, Gain, a'i theulu.

Mae Gain yn byw gyda'i nain a'i thaid. Mae ei mam, yn gymeriad pellennig sy ddim wedi dangos fawr o ddiddordeb yn y ferch fach ac er nad yw'n cael ei fynegi'n glir, down i'r casgliad fod ei thad yn filwr fu farw mewn rhyfel.

Dyma ferch fach sensitif iawn, wrth ei bodd gyda llyfrau a stori ac yn cael ei phryfocio'n ddyddiol gan ei nemesis yn yr ysgol, Kathryn.

Mae tad Kathryn yn meddwl bod ei ferch fach yn 'dywysoges' ac yn ei sbwylio'n rhacs a Kathryn, hithau, wrth ei bodd yn brolio i Gain.

Mae tristwch y ferch fach o feddwl am ei theulu hithau yn cael ei fynegi'n gelfydd iawn gan yr awdures ond erbyn diwedd y nofel daw tro ar fyd wrth i Gain sylweddoli rhywbeth pwysig am Kathryn a'i thad (ac wn芒i ddim sbwylio hynny ichi!)

Yn anffodus, er bod sawl blwyddyn ers i mi fod yn ddeg oed yr oeddwn yn ceisio cofio a oeddwn i mor aeddfed 芒 chymeriad Gain pan oeddwn i yr oed hwnnw? Yn sicr, mae'r awdures wedi dal y dyheu am fod run peth 芒 phawb arall, yn nymuniad Gain o gael ff么n symudol. Gellid dadlau ei bod yn rhy aeddfed a'i phrosesau meddwl yn rhy soffistigedig o blentyn o'i hoed. Mae ei dawn ysgrifennu a'i geirfa hefyd yn hynod.

Hoffais y ffordd y gwnaeth y stori symud o dreialon Gain yn yr ysgol i bortreadau (trwy straeon Gain ar bapur i'w hathrawes) o'i hynafiaid. Mae'n dangos prif thema y gyfrol sef rhwymiadau teuluol, a phwysigrwydd perthyn a theulu. Dyma sy'n poeni Gain tan ddiwedd y nofelig, a dyma sy'n poeni cymeriadau eraill fel Kathryn hefyd.

Daw sioc i'n rhan ar ddiwedd y stori am fam Gain ond teimlwn y byddai wedi bod yn fwy o sypreis petai mwy o bwyslais wedi ei roi ar ei mam trwy gydol y gyfrol.

Roeddwn yn hoff hefyd o'r defnydd o benillion plentyndod i liwio'r penodau fel Gee Ceffyl Bach a Dacw mam yn d诺ad, unwaith eto yn pwysleisio pwysigrwydd achau a thraddodiad gwerin lle mae penillion a hen straeon yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Dwi ddim yn gwybod a yw hon yn gyfrol a fyddai'n apelio'n fawr at blant - mae'n fwy addas i oedolion mewn sawl ffordd. Ond os y'ch chi neu'ch plentyn eisie stori feddylgar a chynnil, rhowch gynnig arni.
Joanna Davies


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.