Diarmuid Johnson - Y Gwyddel, O Geredigion i Galway
top07 Ebrill 2011
Hunangofiant cerddor a bardd, ieithydd, ysgolhaig a newyddiadurwr a'i wreiddiau yng Ngheredigion a'i fagwraeth yn Iwerddon
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
- Adolygiad Glyn Evans o Y Gwyddel - O Geredigion i Galway gan Diarmuid Johnson. Gomer 拢7.99.
Chwilio'r oeddwn i am rywbeth i ladd amser nes byddai hi'n amser cychwyn am allan.
Ond yn wir, trodd Diarmuid Johnson yn un o'r bobl hynny sy'n galw'n annisgwyl weithiau a'ch cadw chi am oriau a difetha'ch diwrnod.
Wel, nid 'difetha' 'chwaith yn yr achos hwn - ond es i ddim allan wedi fy nal gan yr 'ymwelydd' annisgwyl hynod o ddifyr.
Roeddwn wrth fy modd, o'r portread o ddinas Galway yr awdur yn y 'Prolog' gyda'i adlais o Under Milk Wood Dylan Thomas a Frank McCourt ac ysgrifenwyr Gwyddelig tebyg.
Ond y cyfan mewn llif o Gymraeg gl芒n, llesmeiriol sy'n mynnu eich cario tuag at geulannau hyfryd o annisgwyl.
Dydi Y Gwyddel ddim yn llyfr hir gan orffen yn ei flas ar dudalen 128 a chwithau'n dal i fwynhau ac yn dal i gael eich procio.
Mae'r Prolog y math o beth y byddech chi eisiau darllen darnau ohono yn uchel i'w rhannu pe byddai rhywun arall efo chi yn y t欧. Ac mewn llai na deg dalen yr oedd gen i ddigon o ddyfyniadau i lenwi sawl adolygiad. Roedd na rywbeth bob munud.
Mae llygad, clust, meddwl ac ysgrifbin llenor ar waith.
"Tedi boi yw P.J. - ei wallt taclus o么l-crib-drosto yn facwn ac wyau o seimllyd, ei fonyn sigar茅t mor fach 芒 phig titw Tomos las, a'i gamre pwyllog yn gamre g诺r o'r wlad. Un g么t sydd gan P. J. Un p芒r o sgidiau, Ac un dymuniad, cael byw heb bechu neb."
Sgwennwr ydi hwn sy'n digrifio esgob Galway fel rhywun "sobor fel sant" ac Ynys Aran fel "Rhyw asgwrn o ynys yng ngenau'r bae . . . y m么r a'r gwyntoedd yn ei chnoi ac yn ei blino o hyd."
Buan iawn y down i'r casgliad fod yma ddawn dweud arbennig iawn. Y cwestiwn wedyn yw, oes yna rywbeth o werth yn cael ei ddweud?
Wedi'r cyfan, gallai'r cyfan fod yn ddim amgen nag ymarferiad - pleserus o glyfar, mae'n wir - mewn sgrifennu creadigol.
"Oes," ydi'r ateb ac mae'n werth rhoi rhywfaint o gefndir i egluro pam mae'r ffordd o feddwl mor drawiadol wahanol a'r ffordd o ddweud.
Gwreiddiau mewn dau ddiwylliant
Yn fab i Wyddel a Chymraes a'i gwreiddiau'n ddwfn yng Ngheredigion ganwyd Diarmuid Johnson yng Nghymru ond ei fagu ers yn dair oed yn Iwerddon yn siaradwr Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg gan ddod yr un mor rhugl a chyfforddus ym ym mhob un ohonynt a'r gwahanol wreiddiau yn tynnu gwahanol bethau o briddoedd ei gynhysgaeth a rhoi iddo fydolwg sydd yn iachus o wahanol.
Mae'n cychwyn trwy ddweud; "Mewn tref wyntog, wleb ar lannau'r Corrib yn Iwerddon, ger y cefnfor, y ces i fy magu. Yno y b没m yn Gymro alltud, yn Gardi oddi cartre, yn Wyddel bach, yn drafaeliwr ar ei brifiant, yn ieithydd rhonc, yn gerddor ac yn glust i gyd, yn gariad i... smo fi'n cofio pwy, yn fardd talcen slip eisiau bod yn wreiddiol, eisiau ei lun yn y papur, yn frawd bodlon, yn fab afradlon..."
Treuliodd hefyd saith mlynedd yn Llydaw ac yn yr Almaen, ac, yn y pen draw, dod yn 么l i Gymru.
"Yn Iwerddon y ces i fy addysg felly, a threulio blynyddau fy mebyd a'm llencyndod yno. Fe'm magwyd yn Wyddel ond, eto i gyd, bu Cymro'n llechu yn achau'r Gwyddel hwn erioed," meddai.
Mae mewn sefyllfa anarferol o freintiedig felly i fyfyrio beth mae bod yn Wyddel yn ei olygu a beth mae bod yn Gymro ar yr un pryd, yn yr un meddwl a chnawd, yn ei olygu i un a fagwyd 芒 s诺n barddoniaeth Llywarch Hen yn ei glustiau pan yn ei grud!
Er bod yma ddweud stori bywyd, teg dweud nad hunangofiant yn yr ystyr arferol mo hwn ond chwilio pac - yn hwyliog a difyr iawn - ddyn a diwylliant mewn cyd-destun anarferol.
Yn synnu rhai
Ac mae ddigon cyfarwydd ac 芒 digon o gariad at ei bwnc i fedru canmol, ei cheryddu bob yn ail heb ramantu ys dywed ef ei hun.
Bydd ei olwg o Iwerddon a'r newid a ddaeth i'w rhan yn sgil y chwyldro cyfalafol hwnnw a elwid yn "Deigr Celtaidd" yn si诺r o synnu rhai o'r Cymry hynny sy'n tueddu i edrych ar y wlad drwy sbectiols gwyrddion ac mae'n arwyddocaol mai un o'i sylwadau olaf yn y llyfr yw:
"Mae pobl yn gofyn i fi a ydw i'n gweld eisiau Iwerddon. 'Only when I'm there,' yw'r ateb sydd gen i bellach."
Er mwyn profi o fwynhad y sgrifennu a hwyliogrwydd a'i ffraethineb mae'n werth darllen y gyfrol hon pr basi ond i ddeall beth mae'n ei olygu wrth ddweud hynny.