大象传媒

Eigra Lewis Roberts - Hi a Fi

Rhan o glawr y llyfr

20 Tachwedd 2009

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Adolygiad Janice Jones o Hi a Fi gan Eigra Lewis Roberts. Gwasg Gomer. tt.259. 拢7.99.

Bydd nifer o gymeriadau Hi a Fi yn gyfarwydd i'r rhai a ddarllennodd Return Ticket, nofel Saesneg Eigra Lewis Roberts ar gyfer oedolion, a gyhoeddwyd yn 2006.

Yn 么l yr awdures ei hun, mae yn y nofel Hi a Fi "rai elfennau hunangofiannol" ac mae'r gwaith wedi ei leoli yn ei hardal enedigol, Blaenau Ffestiniog.

Clawr y llyfr

Atgofion plentyndod sydd yn y nofel ond, at y rheini, ychwanegwyd nifer o haenau eraill.

Nofel o fewn nofel

Wrth i'r awdures lunio cyfrol o straeon sy'n dwyn i gof ei phlentyndod drwy gyfrwng prif gymeriad o'r enw Helen Owen, mae Nesta, hen ffrind i'r awdures, yn dychwelyd i fro ei mebyd. Trwy ymyrraeth Nesta, cr毛ir elfen o nofel o fewn nofel, ac mae beirniadaeth Nesta ar atgofion yr awdures yn chwyrn at adegau:

"Mi dw i'n meddwl ma' esgus ydy'r cwbwl, er mwyn gneud sbort o bawb a phob dim - y capal, a'r ysgol, a'r Miss Hughes fach 'na . . ."

Nid dyma'r lle ar gyfer trafodaeth athronyddol ar ddilysrwydd realiti'r unigolyn ond mae'n hysbys, wrth gwrs, bod y cof yn gallu chwarae mig, yn ogystal 芒 bod yn ddethol iawn.

Meddai'r awdures am y nofel: "Mae hi'n gymysg o ffaith, peth gwirionedd, dychymyg. Fase neb yn gallu gwahaniaethu rhyngddyn nhw."

Diddorol a direidus

Bid a bo am hynny, ac am yr elfen o nofel o fewn nofel y byddwn i'n bersonol wedi hoffi ei gweld yn cael ei datblygu ymhellach, mae'r gwaith yn ddiddorol ac yn ddireidus. A bydd yr atgofion yn sicr o daro deuddeg gyda darllenwyr eraill a fagwyd mewn trefi a phentrefi yn y Gogledd yn ystod yr un cyfnod.

Mae iaith y gyfrol yn adlewyrchu rhythmau sgwrs a'r iaith lafar raenus, hygyrch fyddai'n gyfrwng cwbl naturiol cymunedau'r Gogledd oddeutu hanner can mlynedd yn 么l. Mae Helen yn dipyn o 'gyw bardd' ac yn giamstar ar y limrig. Dyma flas o'i champweithiau, pennill a ysgrifennodd mewn ymateb i ddyhead ei ffrind, Ann, i dyfu fyny rhag blaen:

Mi geith Ann neud fel y myn,
bod yn ddynas, a gwisgo staes tyn,
nes ei bod hi'n methu
anadlu na phlygu,
ond rydw i am aros fel hyn.

Er bod nifer o awduron wedi llunio cyfrolau yn adrodd atgofion plentyndod - gwir neu gau - mae cymeriadau Hi a Fi gyda'r gorau. Mae'r capel a gweithgareddau'r capel 芒 lle blaenllaw yn y nofel ac yn ystod un gwasanaeth, mae Maggie Richards, un o'r selogion, yn actio dameg y ddafad golledig:

Mae Maggie Richards wedi'i gwisgo fel dyn, hen g么t racs wedi'i chlymu am ei chanol efo cortyn, trowsus, cap stabal, sgidia hoelion mawr, ac yn bwysicach na'r cwbwl, locsyn hir, du. Mae hi'n cario ffon bugail a lantarn efo cannwyll wedi'i goleuo ynddi . . . Rydan ni efo hi bob cam o'r ffordd wrth iddi chwilio am y ddafad o dan y bwrdd a'r tu 么l i'r piano.

Mae Miss Evans, sy'n byw drws nesaf, ac sy'n berchen ar d欧'r teulu, Miss Hughes, sy'n pigo ar Helen yn yr ysgol, a Megan Lloyd na-all-neud-dim-drwg ymysg llu o gymeriadau lliwgar a sionc sydd i'w canfod rhwng cloriau'r gyfrol hon, rhai yn 么l Eigra, yn bobl 'go iawn', eraill yn ffrwyth dychymyg.

Perthynas ddedwydd

A braf cael prif gymeriad o blentyn sydd 芒 pherthynas digon dedwydd 芒'i rhieni. Yn nghartref Helen, toes neb yn cam-drin ei gilydd. Yn hytrach, portreadir y cymeriadau gyda chydymdeimlad a dogn sylweddol o hiwmor sy'n cyfrannu at naws fyrlymus y cyfanwaith.

Efallai bod Nesta yn troi'r tu min at yr awdures, ac yn mynd i'r afael 芒'r llawysgrif gyda'i beiro goch ond, yn sicr, mae hon yn nofel fydd yn dod 芒 phleser i ddarllenwyr ar sawl lefel.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.