18 Gorffennaf 2011
Adolygiad Glyn Evans o Bois y Loris gan Owain Ll欧r. Y Lolfa. 拢9.95.
I sawl un, rwy'n si诺r y bydd y gwahoddiad i ddod i wybod mwy am bobl hynny y mae cynifer ohonom wedi eu rhegi a'u damnio gymaint yn un anodd ei wrthod.
Ar un ystyr, mae pob un ohonom sydd wedi tramwyo ffyrdd Cymru yn ei gar yn adnabod Bois y Loris - yn llawer rhy dda - yn barod.
Yn eu hadnabod fel rhai a doniau arbennig i'ch gwylltio a'ch cynddeiriogi a'ch cael yn goelcerth o gynddaredd pan ydych yn llusgo y tu 么l iddyn nhw ar ffyrdd lle nad yw pasio'n bosib.
O bosib mai'r 'ddawn' sy'n fy ngwylltio i fwyaf yw honno o fedru tynnu allan o ffordd ochr neu gilfan aros yr union nifer iawn o eiliadau cyn i chi gyrraedd y lle a'ch gorfodi i ymlwybro tu n么l iddyn nhw am filltiroedd diddiwedd.
O ydw, rwy'n adnabod Bois y Loris yn llawer rhy dda yn barod.Cyfadderu
Ond rhyw adnabyddiaeth negyddol iawn fu'n un i o gymharu ag un Owain Ll欧r. Daeth o i'w hadnabod gystal, a chael ei gyfareddu gymaint ganddynt, mae'n teimlo bellach fod disel yn rhedeg drwy ei wythiennau.
Criw nobl o farchogion y ffordd yw'r aelodau hynny o Glwb Bois y Loris Geraint Lloyd 大象传媒 Radio Cymru y mae o yn eu cyflwyno inni.
Yn addas iawn, mae'n cychwyn gyda Geraint a diddordeb hwnnw mewn loris a pheiriannau, eu gyrwyr a'r modd y sefydlwyd y clwb hynod hwnnw yn sgil ei raglen nosweithiol - yr adeg honno - ar 大象传媒 Radio Cymru.
Dros gyfnod o fisoedd, ymwelodd Owain Ll欧r 芒 nifer o'r bois - a'r un ferch, Rhian Hanmer-Jones o Rhuthun - sy'n aelodau a chofnodi eu hanes gan roi inni gasgliad o sgyrsiau ag iddynt acenion sawl rhan o Gymru.
Un o Donyrefail, i'r gogledd o Gaerdydd, ydi Owain ond wedi ei fagu yn Nhrefach Velindre yn Shir G芒r ers yn dair oed.
Bu hefyd yn byw yn Llanarth, Aberystwyth, Talybont, Dinas, Caeredin a Chaerdydd ac ers graddio mewn Ffotograffiaeth, Ffilm a Delweddu - "gyda rhagoriaeth" - o Brifysgol Napier yng Nghaeredin, yn 2000, bu'n gweithio'n bennaf fel cyfarwyddwr ar raglenni teledu fel Byw yn yr Ardd, Bandit, Y Sioe Gelf, Cwpwrdd Dillad ac i-dot.
Ef hefyd fu'n gyfrifol am y ffilm ddogfen ragorol honno, La Casa di Dio a enillodd wobr Dogfen Orau Ewrop yng Ng诺yl Ffilm Rhyngwladol Iwerddon 2010, a gwobr Dogfen Orau'r Deyrnas Unedig. yng Ng诺yl Ffilm Bae Abertawe yr un flwyddyn.
I gyd-fynd a chyhoeddi'r llyfr hwn fis Mehefin 2011 dangoswyd rhaglen o'i eiddo am fois y loris hefyd ar S4C.
Brawdoliaeth hynod
Heb os, mae'n rhoi cip ddifyr a diddan inni o frawdoliaeth hynod. Fydd darllen yn fodd i'n darbwyllo rhag bytheirio a rhegi pan fydd dwy Fansel Davies o'n blaenau ar y ffordd rhwng Y Drenewydd a Llandrindod, rwy'n amau . . . ond ta waeth am hynny.
Cymysgedd o air a llun ydi Bois y Loris ac yn gyfle i ddyrnaid o'r 300 sy'n aelodau o glwb Geraint Lloyd s么n am eu bywyd a'u gwaith ac am gwmn茂au Cymreig a Chymraeg fel Mansel Davies.
Os nad oeddem yn ymwybodol o hynny cynt buan iawn y down i sylweddoli bod y bois hyn a'u loris yn hanfodol i'n bywyd cymdeithasol.
"Mae diwylliant y gyrrwr lori yn effeithio arnon ni i gyd," meddai Owain Ll欧r.
Ac meddai Aneurin Wyn Jones o Gaernarfon, "Does 'na ddim byd mae'r wraig t欧 yn ei brynu sydd heb ddod ar hyd y ffordd" gyda Rhydian Glyn Lloyd Jones, Llechryd, yn amenio mai "dyma'r bois sydd yn llenwi silffoedd yr archfarchnadoedd, yn symud cynnyrch o gwmpas Cymru ac Ewrop".
Neu yng ngeiriau mwy lliwgar Jack Vaughan, "'Ma Mansel Davies yn cario unrhywbeth o shit i siampw!"
Iaith y bobol
Felly, nod y llyfr yng ngeiriau Owain Ll欧r, yw adlewyrchu " hanes gweithiol a chymdeithasol" y bois a gwneud hynny yn eu tafodiaith nhw o ba bynnag ran o Gymru y maent yn dod.
Rwy'n falch iddo wneud hynny ac ymwrthod 芒'r demtasiwn i safoni'r iaith y gymdeithas liwgar hon o bobl.
"Ma nhw'n fr卯d ar ben eu hunain," meddai Aneurin Wyn Jones."Dim job yw e, t'el - way of life yw e," meddai Jack Vaughan a fu'n gyrru ers 25 mlynedd i gwmni Mansel Davies, y cwmni bulk haulier mwyaf yng Nghymru a'i wreiddiau n么l yn 1875.
Wedi'r holl flynyddoedd mae yna s么n am gyfnod anodd ar hyn o bryd.
"Mae'r job yn tough. Ma'r economi'n isel, mae prisie fuel yn mynd lan trw'r to. Ma fe'n galed," meddai Stephen Mansel Davies gyda rhyw dinc 'yma o hyd' yn ei lais wrth ychwanegu, "Ni 'ma am y long haul. Fel'na ma'r job."
Atgofion
Mae yna atgofion am gyfnodau mwy rhamantus fel un y CB yn yr wythdegau cyn dyfodiad ff么ns poced pan oedd pawb a'i "handle" er mwyn cyfathrebu ar donfeddi radio'r werin.
"'Tonto' oedd Wyn Dudley, 'Ffesant' oedd Gerallt Phillips, 'Bionic Budgie' oedd John 'Mochyn' a 'Big John' oedd enw Jack."
Ac yr oedd i leoedd eu henwau CB hefyd; Aberteifi yn Sin City, Castell Newydd Emlyn yn Tombstone City a thafarn Pen y Bryn yn 'Open all hours'.
S么n am John Mochyn yn dod 芒 ni at stori amdano yn siarad 芒'i wraig un diwrnod o ddiffyg ar yr haul.
"'A welais ti'r eclipse? Gofynnodd hi iddo fe. 'Do, do, welais i fe yn Welshpool, 'biti marcie wyth.' A wedodd hi bod e'n impossible achos odd e dros Tegryn erbyn 'ny . . ."Damwain
脗 nodyn o dristwch a dwyster y mae'r gyfrol yn tynnu at ei therfyn, fodd bynnag, gyda phennod deimladwy yn cofnodi gwedd arall o fywyd Bois y Loris wrth gofnodi marwolaeth William Thomas Hefin Jones o Droedyrhiw, Ceredigion, a laddwyd yn 43 oed mewn damwain ar yr A5 ger Y Waun, ger Llangollen.
Cofnod i'n sobreiddio i gyd.