大象传媒

Non Evans - adolygiad o'i hunangofiant

Non Evans ar glawr ei llyfr

06 Rhagfyr 2010

  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Non - yn erbyn y ffactore. Hunangofiant Non Evans. Y Lolfa. 拢9.95.

Mae gen i gof am sylw wnaeth Stanley Matthews rywbryd yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd pan oedd rhyw b锚l-droediwr ifanc iawn - rhywun fel Michael Owen - newydd gyhoeddi ei hunangofiant.

"Ond beth sydd ganddo i'w ddweud?" meddai'r henwr.

Aeth rhywbeth tebyg drwy fy meddwl innau pan welais y gyfrol Non - yn erbyn y ffactore: Hunangofiant Non Evans.

Clawr y llyfr

Allwn i ddim bod ymhellach o'm lle. Wrth gwrs, un rheswm pam nad ydw i'n gwybod mwy am Non yw'r prinder sylw i rygbi merched. Hefyd, nad yw campau fel codi pwysau, jiwdo, reslo ac ati yn cael y sylw a haeddiant gan y papurau, y radio na'r teledu.

Ymarfer caled

Un tro dywedodd yr hyfforddwr nofio Dave Haller stori wrthyf am y cyfnod pan fu'n hyfforddwr nofio Clwb Caerdydd yn 么l yn y Chwedegau.

Y dyddiau hynny Carwyn James oedd hyfforddwr Clwb Rygbi Llanelli a phan fydden nhw yng Nghaerdydd ar gyfer g锚m arferai Carwyn ddod a'i d卯m i wylio sesiwn ymarfer y clwb nofio.

Wedi hanner awr o wylio'r nofwyr, llawer ohonyn nhw'n blant ysgol, byddai Carwyn yn codi ac yn dweud wrth ei chwaraewyr.

"Mae'r plant yna'n gwneud hynna, ddim am hanner awr ond am bedair awr bob dydd. Dwi ddim am glywed neb byth yn cwyno 'mod i'n eich gweithio chi'n galed mewn sesiwn ymarfer."

"Felly," meddwn wrth Haller, "i weld pwy'n ymarfer fuase ti'n mynd a dy nofwyr?"

"Y criw jiwdo," atebodd, heb oedi.

Ennill medal

p>Jiwdo oedd y gamp gyntaf i Non Evans ddod i amlygrwydd ynddi - trwy ennill dwy Fedal Arian Chwaraeon y Gymanwlad.

Wedi hynny chwaraeodd rygbi merched i Gymru 87 o weithiau ac i d卯m Merched Gorau'r Byd mewn dwy g锚m yn erbyn merched Seland Newydd.

Hi yw'r ferch sy'n dal y record Byd am sgorio'r nifer fwyaf o bwyntiau mewn gemau rhyngwladol ac am y nifer ceisiau mae'n gyfartal ail gyda David Campese.

Hi giciodd y g么l gosb a roddodd y fuddugoliaeth gyntaf i ferched Cymru tros ferched Lloegr yn 2009.

'Does ryfedd i ryw ohebydd papur newydd ofyn y cwestiwn ai merch yw chwaraewr rygbi gorau Cymru!

Mae hi hefyd yn cystadlu ar y lefel uchaf mewn codi pwysau a reslo.

Darlun clir

I unrhyw un sy'n credu bod pobol chwaraeon yn cael bywyd hawdd, awgrymaf yn garedig mai dyma'r llyfr i'w ddarllen.

Dyma'r darlun cliriaf gewch chi byth o fywyd y cystadleuydd amatur, gyda'i gost, siomedigaethau, rhwystredigaethau a'i niweidiau difrifol

Gan mai hi fyddai'n cymryd y ciciau g么l ei chyfrifoldeb hi oedd prynu'r te!

Mae yma lawer o hanes helyntion y t卯m merched gydag Undeb Rygbi Cymru a'r hyfforddwyr - dynion bob tro. Rhaid gweithio bob dydd, hefyd.

Anafiadau

Mae'r llyfr yn cychwyn gyda hanes niwed drwg i'w phen glin yn rownd derfynol Pencampwriaeth Reslo Prydain yn Glasgow fis Mehefin diwetha (2010) a hithau'm hercio'n 么l i'r "twll o westy" gyda phryd o'r bwyty Tsieineaidd, potel o win o Tesco a chwdyn o i芒 i'r ben glin.
A medal arian yn lle'r un aur oedd o fewn ei chyrraedd.

Cafodd anaf gwaeth o lawer ar Heol Sardis, Pontypridd, yn 2006 pan dorrodd ei choes yn ddifrifol yn y g锚m yn erbyn Ffrainc. Ar noson oerllyd aeth awr heibio cyn i'r ambiwlans gyrraedd. Arwydd o'r pwysigrwydd a roddai'r Undeb Rygbi i'r g锚m ferched ryngwladol.

Cawn dipyn o hanes y cythraul rhwng y merched sy'n rhoi adroddiadau am y gemau rygbi. Ei phrofiadau yn y maes hwnnw, y t芒l s芒l ac ati. Heb s么n am ei helyntion ar Gladiators.

Yn hwyliog

Mae'n gyfrol hwyliog iawn, er gwaethaf popeth. Br> "Ddylsech chi gael rhyw noson cyn g锚m?"
"Dibynnu pwy sy'n cynnig!"

Mae'r gyfrol yn gorffen a hithau ar y groesffordd: Dal i chwarae rygbi a sgorio mwy o geisiau na neb? Neu ganolbwyntio ar reslo, camp newydd iddi gyda siawns dda o fod yn nh卯m Prydain yng Ngemau Olympaidd 2012. Dewis anodd iawn.
Gwyn Griffiths.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.