12 Awst 2011
Adolygiad o Tua'r Gorllewin . . . cofiant T. Llew Jones gan Idris Reynolds. Barddas. 拢9.95.
Er mai fel "cofiant" T. Llew Jones mae'r gyfrol ddifyr hon yn cael ei disgrifio nid cofiant yn yr ystyr arferol yw hi.
Ydi, mae hi'n dilyn y llwybrau bywgraffyddol ond mae'n fwy o deyrnged mewn gwirionedd, yn folawd, yn wir, i lenor a bardd ac yn werthfawrogiad twymgalon o awdur sy'n cael ei gyfrif yn un o'n cewri ll锚n.
Wedi ei saern茂o yn gelfydd gan fardd arall, Idris Reynolds, i gyfuno hud awdur go arbennig a lledrith y gorllewin daearyddol a olygai gymaint iddo mae'n gyfrol haeddiannol sy'n ateb ei diben i'r dim ac yn un hawdd ac yn un ddifyr i'w darllen.
Dilyniant sydd yma o ysgrifau sy'n gyfuniad o gofio ac o ddehongli ac o egluro a mawrygu gyda nifer o ddyfyniadau o waith T Llew Jones. Mae'n gyfrol deilwng o gamp y gwrthrych.
Gwir nad oes datgeliadau mawr newydd yn null cofiannau Saesneg ac yn wir, y mae rhywun wedi darllen neu glywed o'r blaen lawer os nad y cyfan o'r hyn sydd yma ond dyw hi ddim tlotach cyfrol oherwydd hynny ac y mae elfen farddol i'r gweu sy'n digwydd o'r gwrthrych a'i gynefin.
"Bro'rysbryd anturus oedd bro T. Llew. 'Tua'r gorllewin' oedd ei anogaeth. Yno, dros Bont-d诺r bach, mae byd o ryfeddodau a than yr eithin mae cawg o aur," meddai Idris Reynolds wrth gau pen ei fwdwl.
A'i gamp ef yn y dalennau blaenorol fu troi'r rhyfeddodau a'r aur yn sylwedd yng nghyd-destun dychymyg T Llew Jones.
Teitlau awgrymog
Saern茂wyd y 'cofiant' yn ofalus gydag adleisiau awgrymog o weithiau T Llew Jones yn deitlau'r penodau, yn eu plith; Fuoch chi yng Nghwm Alltcafan . . .? y bennod gyntaf, Y ffordd beryglus, Un noson dywyll, Y ceiliog mwyalch, S诺n y malu a Fy mhobl i - lle gwrthgyferbynnir ef yn dreiddgar ag un arall o'r fro y llenor dadleuol Caradoc Evans.
Cychwynnir gyda'r dyddiau cynnar a gwaddol ei fam a fu'n ei ddifyrru yn blentyn "o gyfrolau ei dychymyg".
Dylanwadau
Dylanwad ac anogaeth Dewi Emrys wedyn a'i golofn farddol yn Y Cymro - a phwy fyddai wedi meddwl y byddai'r crwt T Llew yn cynnal y golofn honno ei hun ymhen blynyddoedd - er dydw i ddim yn cofio imi weld hynny'n cael ei ddweud yn y gyfrol.
Dylanwad pwysig arall oedd T Ll Stephens a T Llew wedi cyfansoddi englyn coffa iddo sy'n ddisgrifiad yr un mor berffaith ohono'i hunan hefyd:Ar hyd ei oes carai dant - carai'r iaith,
Carai'r hen ddiwylliant,
Carodd Gymru'n ddiffuant;
A'i gwbl oedd addysg ei blant.
Olrheinir hefyd gyfraniad allweddol y chwyldroadwr dylanwadol hwnnw Alun R Edwards a sut y sicrhaodd i T Llew y cyfle i sgrifennu.
Ond yn fwy na hynny, "mynnai T. Llew mai gweledigaeth a brwdfrydedd Alun Edwards a daniodd gynifer o awduron i baratoi deunydd darllen ar gyfer plant Cymru gan sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw am genedlaethau i ddod".
Danteithion
Mae'n gyfrol aml ei danteithion. Hanes brwydr styfnig T Llew yn erbyn 'Cymraeg Byw' - ac ar nodyn personol coffa da am baratoi ei erthygl rymus i'w gosod ar un o ddalennau'r Cymro a'r argraff a wnaeth.
Cawn ein hatgoffa mai ef roddodd y gadair i'r bardd ifanc Gerallt Lloyd Owen am ei gerddi ysgytwol yn Eisteddfod yr Urdd 1969.
"Fe geir ambell flwyddyn yn hanes gwinllannoedd Ffrainc pan fo haul a gwynt yn cydweithio 芒'i gilydd i roi grawn a gwin arbennig. Gelwir blwyddyn fel yna yn 'vintage year' yn Saesneg. Blwyddyn felly yw hi wedi bod yn hanes Cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Ni fu nemawr erioed fwy o deilyngdod," meddai o'r llwyfan ar y pryd.
Yn y bennod Lleuad yn olau olrheinir ei ddiddordeb angerddol mewn chwedloniaeth a hynafiaeth ac olion hynny yn ei waith.
Cawn hefyd rai o gyfrinachau difyr 'y R诺m Fach a datgelir iddo ar ddau achlysur wrthod gwahoddiad i fod yn Archdderwydd - ond bod yn edifer pan yn rhy hwyr. Gwrthododd hefyd ymuno 芒'r Academi am na hoffai "elitaeth academaidd y "clic llenyddol" hwnnw ond yn y diwedd fe gytunodd i fod yn gymrodor anrhydeddus am oes.
Bydd, rhwng popeth bydd Tua'r Gorllewin yn plesio o ran ei chynnwys, ei dehongliadau a hefyd o ran brwdfrydedd ac edmygedd diderfyn a di-gwestiwn Idris Reynolds o wwrthrych y mae ganddo gymaint o feddwl ohono.
Glyn Evans