大象传媒

Bet Jones yn sgwrsio

Adref, ar y teledu, yr oedd Bet Jones, awdur Beti Bwt yn gwrando ar feirniadaeth cystadleuaeth Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 2008.

Ac yn diolch, meddai, fod ganddi ffugenw i guddio tu 么l iddo!

Hwn, meddai oedd y tro cyntaf erioed iddi sgrifennu a chystadlu.

Canmoliaeth
Ac er nad enillodd derbyniodd ei nofel am blentyndod ganmoliaeth nid yn unig gan y beirniaid ond hefyd gan adolygwyr ers ei chyhoeddi ar 么l yr Eisteddfod.

Bu Bet Jones yn siarad am ei y llyfr a'i gefndir gyda Dei Tomos ar ei raglen radio nos Sul, Mehefin 15, 2008.

"Fe'i disgrifiodd fel "hanner hunangofiannol" ac wedi ei leoli ym mro ei phlentyndod, Trefor - neu Hendra - ger Caernarfon.

"Mae yna dipyn dod o'r cof ond fy mod i wedi eu lliwio nhw rywfaint er mwyn cael stori," meddai.

Bwlio
Elfen yn y llyfr a ganmiolwyd yn fawr gan un o'r beirniaid oedd y darlun o fwlio ond dywedodd Bet Jones na chafod hi ei bwlio ond bod yna 'Blydi Dinah Smith' yn ei hysgol hithau.

"Yr oedd yna rywun oedd gen i hofn i ac roedd hi'n h?n a chanddi'r arferiad o wneud y ngwallt i efo llechan ac roeddwn i hofn hi'n ddychrynllyd," meddai.

Gweld corff
Digwyddiad "dychmygol i gyd" yw un arall yn y nofel meddai am fynd i weld corff a dwyn rhosod ar y ffordd.

"Yr oedd yn dal yn arferiad gan hen bobol i fynd i weld cyrff a dwi'n cofio pan oeddwn i'n llai na chwech oed - tua thair - mae gen i frith gof o gymeriad yn Nhrefor oedd yn fy ngwarchod i'r diwrnod hwnnw ac yn mynd a fi i weld corff rhywun oedd yn ei harch mewn ffrog briodas a dwi'n meddwl fod hwnnw wedi cael effaith arnaf i ar y pryd achos roeddwn i'n claddu fy noliau mewn bocsys sgidia wedyn ," meddai.

Newid
Ar gyfer y nofel a gyhoeddwyd dywedodd iddi dymheru ambell i ddigwyddiad oherwydd i'r beirniaid ddweud iddi or-ysgrifennu ambell i beth.

Newidiodd ddiwedd stori'r teledu, meddai, ond mewn gwirionedd malwyd y teledu dan sylw yn deilchion.

Disgrifiodd ei phlentyndod fel un hapus ymhlith pobl gyda balchder a lle'r oedd mynd i ddyled yn destun ofn. Yr oedd hefyd yn gyfnod o falchder mawr mewn addysg i blant ac yn gyfnod cymdogol o ddrysau yn agored.

Pan ofynnwyd iddi a fydd dilyniant i Beti Bwt dywedodd:

Mwy i ddod?
"Mi rydw i wedi gwneud dipyn bach o dwll i mi fy hun fy mod wedi gorffen [y nofel] yn Lerpwl. Mi fuasai raid gwneud dipyn o ymchwil ond mi fuaswn i'n hoffi ysgrifennu eto os gwnaiff yr amser ganiat谩u," meddai.


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.