大象传媒

Cofio awdur Rape of the Fair Country

Alexander Cordell

Dathlu cyfraniad Alexander Cordell ddiwrnod y Llyfr 2009 yn Nhorfaen

Pan y'i cyhoeddwyd hanner can mlynedd yn 么l enillodd y nofel Rape of the Fair Country ei phlwyf fel un o'r nofelau mwyaf poblogaidd erioed am Gymru.

Yn fuan iawn yr oedd y nofel, feiddgar ar brydai, am dwf y diwydiant haearn yn ardal Blaenafon wedi ei chyfieithu i 13 o ieithoedd.

Ac fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2009 trefnwyd i gannoedd o bobl Torfaen gymryd rhan mewn ymgyrch Big Community Read i ddathlu'r nofel a'i hawdur a oedd mewn gwirionedd o gefndir tra anghymreig.

Swyddog milwrol

Wedi ei eni yn Ceylon - fel ag yr oedd Sri Lanka yr adeg honno - tyfodd George Alexander Graber - ei enw go iawn - o fewn y traddodiad milwrol Seisnig breintiedig a gwasanaethu'n swyddog gydag acen y dosbarth hwnnw yn amlwg ar ei leferydd.

Ar 么l symud i fyw i'r Fenni y syrthiodd mewn cariad 芒 Chymru ac ymddiddori yn hanes twf diwydianiaeth yn y rhan yna o'r wlad.

Ac er gwaethaf ei gefndir breintiedig edrychai ar yr ymrafael chwerw rhwng gweithwyr y diwydiant haearn a'u meistri creulon o safbwynt y chwith.

'Effaith bellgyrhaeddol

Ar gyfer Diwrnod y Llyfr prynodd Awdurdod Llyfrgell Torfaen ugeiniau o gop茂au newydd o stori enwog Cordell ac mewn cydweithrediad 芒 grwpiau cymunedol yn yr ardal bydd dathliadau cyhoeddi'r llyfr yn parhau am chwe mis i gyd.

"Cafodd nofel Alexander Cordell effaith bellgyrhaeddol pan gyhoeddwyd hi gyntaf ac mae'n dal yn waith o bwys ac yn berthnasol iawn i Dorfaen," meddai Sandra Miller o Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Torfaen.

Y mae'n nofel a arweiniodd hefyd at nifer o weithiau eraill gan yr awdur wedi eu sylfaenu ar ddigwyddiadau, megis helyntion Beca, yn hanes Cymru.

Ond er i Hosts of Rebecca a Song of the Earth, This Proud and Savage Land am Gymru yr 1800au a The Fire People am wrthryfel Merthyr fod yn boblogaidd wnaethon nhw ddim cipio'r dychymyg i'r un graddau a The Rape of the Fair Country y mae ymgyrch ddarllen gymunedol Torfaen ei dathlu.

yn y gogledd

Treuliodd Alexander Cordell gyfnod yn y gogledd hefyd yn byw yng Nglasinfryn y tu allan i Fangor tra'n cynnal ymchwil i hanes y chwareli llechi a chyfnod yn ardal ddiwydiannol Wrecsam lle bu farw yn 1997 dan amgylchiadau trist.

Heb blesio pawb

Er gwaethaf y gwerthiant sylweddol ni phlesiwyd pawb gan ei lyfrau fodd bynnag. Disgrifiodd y diweddar Athro J Gwynn Griffith ef fel awdur rhy arw mewn cymhariaeth 芒'r awdur o Gymro Rhydwen Williams a'i nofelau yntau wedi eu gwreiddio yn y Rhondda.

Ac yn y cylchgrawn Golwg yn ddiweddar dywedodd yr Athro Meic Stephens, un o'n harbenigwyr pennaf ar lenyddiaeth Eingl Gymraeg:

"Mae'n wir dweud bod Cordell wedi ysgrifennu nofelau a oedd yn cael eu darllen gan bobol nad oedd yn arfer darllen nofelau. Roedd yn cydio mewn ysbryd cyfnod. Ond, yn hanesyddol ac yn llenyddol, roedd yn llai na boddhaol. Mae'n trin ffeithiau hanesyddol yn llac iawn ac mae ei gymeriadau braidd fel rhai cardbord," meddai.

yn ei farn ef yr oedd How Green Was My Valley yn rhagori ar nofel yr un mor adnabyddus Cordell.

Yr oedd yn 83 oed pan fu farw yn 1997 tra'n cerdded ger Bwlch yr Oernant, Llangollen, gydag awgrym ar y cychwyn iddo'i ladd ei hun ond datgelwyd wedyn mai trawiad ar y galon a'i lladdodd.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.