Fel eglwyswraig ddefosiynol allai fod wedi gwneud ffortiwn yn chwarae pocer y disgrifiwyd yr ysgolhaig Enid Pierce Roberts gan un o'i chyn fyfyrwyr.
15 Gorffennaf 2010
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Yr oedd yr Athro Gwyn Thomas yn cyflwyno teyrnged iddi ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen ychydig wedi ei marwolaeth yn 91 oed.
Bu'r Dr Enid Pierce Roberts yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor, lle bu'n fyfyrwraig, o 1946 tan ei hymddeoliad yn 1978.
Disgrifiodd Gwyn Thomas hi fel "addysgwraig wrth reddf" a oedd yn ofalus iawn o les myfyrwyr yn eu bywyd personol hefyd.
O'r holl ysgolheigion Cymraeg dywedodd yr Athro Thomas mai ei harwr oedd Syr Ifor Williams y bu'n un o'i fyfyrwyr.
Maes ei harbenigedd oedd Barddoniaeth yr Uchelwyr ac yn arbennig Sion Tudur. Rhoddai bwyslais mawr hefyd ar sgrifennu Cymraeg cywir ac osgoi "sgwennu Saesneg yn y Gymraeg".
Y tu allan i ysgolheictod rhestrodd ymhlith ei diddordebau chwarae cardiau, Chinese Checkers a chwaraeon bwrdd eraill gan ychwanegu y gallai fod wedi gwneud ffortiwn o chwarae pocer.
"Yr oedd hefyd yn "eglwyswraig ddefosiynol a gweithredol" ac yn arbenigwraig ar hanes yr eglwys.
- Gellir gwrando ar deyrnged Gwyn Thomas trwy glicio ar y blwch llwyd uchod a darllen rhagor am Enid Pierce Roberts a theyrnged yr Athro Branwen Jarvis iddi trwy glicio