Awdur 'Y Llwybr' - nofel y mis, Mawrth 2009
Enw
Geraint Evans
Beth yw eich gwaith?
Wedi ymddeol.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Darlithydd Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth.
O ble'r ydych chi'n dod?
Llandybie, Sir Gaerfyrddin.
Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Tal y Bont, Ceredigion.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Cwestiwn 'mawr'! Mwynhau dysgu am, a darllen llenyddiaeth, dim yn mwynhau testunau fel Mathemateg.
Beth wnaeth i chi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano?
Wedi ymddeol roedd pawb yn gofyn - 'beth wnei di nawr?' Dydw i ddim yn chwarae golff nac yn or-hoff o arddio, ond dwi'n hoffi darllen, yn arbennig nofelau ditectif. Does dim llawer o'r rhain ar gael yn y Gymraeg, felly penderfynais geisio sgwennu un.
Fe sgrifennais i bum pennod a'i ddangos i'r Lolfa ac fe ges i anogaeth i gario 'mhl芒n! Yn y nofel, Y Llwybr, mae myfyrwraig yn cael ei llofruddio wrth gerdded 'n么l i Neuadd Breswyl Glanymor, Prifysgol Aberystwyth ar 么l gig G诺yl Dewi.
Pam a phwy? Wrth i'r heddlu chwilio am yr atebion gwelir fod gan y fyfyrwraig, a'r rhai a ddrwgdybir, lawer i'w guddio. Ceir sawl tro ar hyd llwybr y nofel cyn cyrraedd y diweddglo annisgwyl.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dyma'r cyntaf.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant.
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na fyddaf.
Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Saesneg, Ian McEwan ac yng Nghymraeg, Caryl Lewis.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Oes , nofel Ian McEwan, Saturday. Ynddi mae'r cyfan yn digwydd ar un dydd Sadwrn. Rwy'n arbennig o hoff o'r llinell, 'The hand once held, slowly slipping away'. Disgrifiad o bellhau yn y berthynas rhwng tad a mab.
Pwy yw eich hoff fardd?
Yn Saesneg, R S Thomas, yn Gymraeg Waldo Williams.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Yn Nheyrnas Diniweidrwydd - Rhydwen Williams.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
O'r uchod :
Yn nheyrnas diniweidrwydd -
Gwae hwnnw wrth y pyrth
;
Rhy hen i brofi'r syndod,
Rhy gall i weld y wyrth
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilm; Citizen Kane, Orson Welles. Hoff raglen teledu; Fawlty Towers.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad, Morse yn nofelau Colin Dexter a Martha, yn Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Cas gymeriad, Alun Weaver yn The Old Devils gan Kingsley Amis- y math gwaetha' o Gymro!
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Cas g诺r na char y wlad a'i maco.
Pa un yw eich hoff air?
Sori!
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
I arlunio.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Difyr, doniol a disgybledig - gobeithio!
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Rhy fyr fy amynedd.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Gwynfor Evans - am iddo sefyll a chredu yn y dyddiau blin.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Diwygiad 1904.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?
Evan Roberts . 'Dwed wrtha i - beth yw'r holl fen'wod 'ma' sy'n dilyn ti i bobman?'
Pa un yw eich hoff daith a pham?
I Ddyffryn Tywi - bro fy mebyd.
Beth yw eich hoff bryd bwyd?
Cinio dydd Sul - cig oen Cymreig.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen (drwy'r amser), coginio, cerdded, teithio a chymdeithasu.
Pa un yw eich hoff liw?
Melyn.
Pa liw yw eich byd?
Melyn, pan fo'r haul yn gwenu.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf Iaith Newydd.
A oes gennych chi lyfr arall ar y gweill?
Oes - dilyniant i'r cyntaf a llofruddiaeth a dirgelwch arall i d卯m yr heddlu yn Aberystwyth.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
'The past is a foreign country: they do things differently there.' - L P Hartley - The Go-Between.