大象传媒

Haf Llewelyn

04 Ebrill 2011

Mwynhau sgwrsio yng nghwmni ffrindiau yn yr ardd ar noson braf, efo potel neu ddwy o win coch

  • Enw?
    Haf Llewelyn


  • Beth yw eich gwaith?
    Athrawes Ymgynghorol.


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Ymchwilydd hanes bro. Gwarchodwr plant. Athrawes.


  • O ble'r ydych chi'n dod?
    Cwm Nantcol, Ardudwy.


  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
    Llanuwchllyn,


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Do ar y cyfan, er roedd yna gyfnodau wrth gwrs nad oedd mor hapus, yn arbennig blynyddoedd cynnar yr Ysgol Uwchradd.


  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano?
    Fe ges gynnig i ysgrifennu llyfr o farddoniaeth i blant gan Barddas, a gan fy mod yn gweithio ym myd plant roedd o'n gyfle da. Llyfr ar gyfer plant 7-12 ydi o, gyda chymysgfa o gerddi dwys ac ysgafn.


  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Rydw i wedi ysgrifennu sawl llyfr i blant, ac mae gen i gyfrol o farddoniaeth wedi ei chyhoeddi gan Barddas, sef Llwybrau. Llynedd cyhoeddwyd fy nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Y Graig gan Y Lolfa.


  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
    Mae fy mhlentyndod mor bell i ffwrdd erbyn hyn mae'n anodd cofio! Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n ddarllenwr brwd o lyfrau Enid Blyton, Hefyd rydw i'n cofio mwynhau gwrando ar fy nhad yn darllen hanes Si么n Blewyn Coch i ni. Roedd y creigiau tu 么l i'n catre ni'n debyg iawn i gynefin Si么n Blewyn Coch, ac roedd helwyr yn galw acw'n aml.


  • A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
    Na.


  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Maen nhw'n amrywio. Ar hyn o bryd rydw i'n hoff iawn o nofelau Kitty Sewel. Mae nofelau hanesyddol yn fy nenu o hyd ac mi wnes i fwynhau nofel wych Gwen Pritchard Jones, Dygwyl Eneidiau - nofel sydd heb gael digon o sylw yn fy marn i.


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    Llyfrau barddoniaeth fel arfer, mi fyddaf yn cael cyfnodau o fwynhau barddoniaeth gan wahanol feirdd, ac yn mynd yn 么l atyn nhw drosodd a throsodd. Mae rhai cerddi gan R S Thomas yn ysgytwol yn y ffordd maen nhw'n edrych ar gymunedau cefn gwlad. Mae geiriau Gerallt Lloyd Owen a Ceri Wyn Jones hefyd yn dueddol o ddod yn 么l i'r cof yn eithaf aml.


  • Pwy yw eich hoff fardd?
    Fel yr uchod.


  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    Llwydwyll Gwareiddiad Llydaw, Gerallt Lloyd Owen, neu R.S. Ceri Wyn Jones ar hyn o bryd.


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    Distaw nawr yw dwndwr neithiwr, distaw - Angharad Jones.


  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Ychydig iawn o deledu fydda i'n gwylio - ond rhaid i mi gael gweld y tywydd!
    Mae rhai cyfresi gwych wedi bod ar S4C - Y ddau Ffranc wrth gwrs, Con Passionate, Teulu'r Mans.


  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Mae'n si诺r fod un o gymeriadau anllad trioleg Stieg Larsson yn dod yn uchel iawn ar y rhestr o'r rhai dwi'n eu cas谩u. Dydw i ddim yn si诺r am un rydw i'n ei hoffi. Roedd cymeriadau credadwy iawn gan Angharad Price yn Caersaint - a chymeriadau i gydymdeimlo 芒 nhw.


  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    Ni cheir y melys heb y chwerw.


  • Pa un yw eich hoff air?
    Gwyrddni.


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    Siarad mwy na dwy iaith yn rhugl.


  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    Bodlon,
    prysur (fel pawb arall),
    gobeithiol.


  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Dwi'n llawer rhy groendenau.


  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
    Heblaw am bobl fel Nelson Mandela, mae'n rhaid i mi ddweud yr hoffwn fod wedi etifeddu dawn fy nhad i weld y gorau ym mhawb.


  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Fe hoffwn gael cip yn 么l i gyfnod y Tywysogion - dim ond i gael gweld sut roedd cymdeithas yn gweithio.


  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?
    Gwraig Huw Nannau Hen i ofyn sut foi oedd o go iawn!


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    O'r Bala ar hyd ymyl Llyn Tegid heibio garej Llan, heibio'r Eagles, a throi heibio Station Rd. ac i mewn i fan parcio fy nghartre. Dyna ni rydw i adre!


  • Beth yw eich hoff bryd bwyd?
    Bwyd m么r o unrhyw fath heblaw am y pysgodyn bach ryberaidd yna - y calamari.


  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Sgwrsio yng nghwmni ffrindiau yn yr ardd ar noson braf, efo potel neu ddwy o win coch.


  • Pa un yw eich hoff liw?
    Gwyrdd.


  • Pa liw yw eich byd?
    Oren cynnes ar hyn o bryd, ond mae'n amrywio wrth gwrs.


  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Mae'n syml iawn - Rhaid i chi drin pawb fel yr hoffech iddyn nhw eich trin chi.


  • A oes gennych chi lyfr arall ar y gweill?
    Oes.


  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    Mae hon yn hen, hen, stori, ond beth sydd yn newydd dan y ne'...

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.